Enw da am gyflwyno hyfforddiant llwyddiannus

Rydym wedi darparu hyfforddiant mewn swydd o ansawdd da am naw mlynedd, gan helpu athrawon i ddatblygu sgiliau, gwerthoedd a dealltwriaeth myfyrwyr o faterion dinasyddiaeth.

Gellir teilwra’r cyrsiau i gwrdd ag anghenion cydweithwyr, ac rydym yn hapus i drefnu cyfarfodydd cyn cyrsiau neu sesiynau blasu pan fo hynny’n briodol.

As well as individual schools, mae’n cleientiaid yn cynnwys ESIS, Partneriaeth Addysg Busnes Morgannwg Ganol, Gyrfa Cymru, Prifysgol Glyndwr, Coleg Prifysgol y Drindod, a AALlau yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Powys.

Gofynnir i athrawon sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau hyfforddi i werthuso’u profiad bob amser. Their feedback has been overwhelmingly positive, and a selection of quotes from satisfied customers is provided on this page.

Circle 9.jpg“Diolch yn fawr, CEWC-Cymru, am eich cymorth, eich cefnogaeth a’ch adnoddau yn rhedeg y rhaglen. Roedd y dyddiau hyfforddi’n gymysgedd rhagorol o strategaeth, gweithgareddau ymarferol ac amser i fyfyrio ar sut y gellir datblygu Athroniaeth i Blant drwy’r ysgol gyfan… Fe roddodd i athrawon yr hyder a’r brwdfrydedd i gyflwyno’r rhaglen yn eu hysgolion eu hunain.”
Rhian Kenny, Cyngor Sir Caerfyrddin

Circle 8.jpg“Bydd y diwrnod cyfan yn fanteisiol iawn i gynllunio ABCh o fewn yr ysgol.”
Athro mewn ysgol gynradd ym Mhowys


Circle 7.jpg“Diwrnod ffantastig! HMS sydd wedi fy ngadael yn ysu i fod yn ôl yn y dosbarth er mwyn rhoi popeth a ddysgais ar waith.”
Athro mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd

Circle 6.jpg“Mae’r cwrs wedi bod yn gymorth enfawr i osod yr agenda Sgiliau Meddwl mewn rhyw fath o gyd-destun ac yn amlwg dyma’r ffordd ymlaen i ddatblygu dinas-yddion cyflawn.”
Athro mewn ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf

 
 
 
 
Ymaelodwch â’n Bwletin Athroniaeth i Blant (P4C)

Digwyddiadau diweddaraf

  • 01/11/2018 11:00
    Digwyddiad Rhannu Dysgu - Caerdydd / Hub Cymru Africa
    CADWCH Y DYDDIAD Dewch i ymuno â ni i ...

    Darllenwch ragor...
  • 14/11/2018 18:30
    Dathliad Cymru o blaid Affrica / Hub Cymru Africa
    Noson ddathlu i gymuned Cymru Affrica a Masnach Deg gyda'r Prif Weinid...

    Darllenwch ragor...
  • 17/11/2018 11:00
    Dathliad Blynyddol - Dolen Cymru / Dolen Cymru
    Nodi'r dyddiad

    Darllenwch ragor...
  • 24/11/2018 13:00
    Ailgysegru'r Ardd Heddwch30 / WCIA
    Sefydlwyd Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru gan Robert Davies, sylfaeny...

    Darllenwch ragor...
  • 26/11/2018 14:00
    Byd o Gyfleoedd / British Council Cymru; WCIA
    Mae llwyth o gyfleoedd anhygoel i bobl ifanc yng Nghymru astudio, gwei...

    Darllenwch ragor...