Chwilio
Mae Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol yn fforwm cenedlaethol i gyfnewid syniadau ar faterion rhyngwladol. Mae’n ceisio hyrwyddo heddwch byd, hawliau dynol a dealltwriaeth ryngwladol, ac yn gwasanaethu fel pwynt allweddol cyswllt yng Nghymru i sefydliadau Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig a’r Gymanwlad.
O fewn y safle hwn fe gewch chi wybodaeth ar hanes a tharddiad y Ganolfan, ei phrosiectau presennol a digwyddiadau, a'i lleoliad yn Nheml Heddwch ac Iechyd hanesyddol Caerdydd.
---------------------
17 Tachwedd 2009
Araith Flynyddol 2009
Cyflwyniad gan Brif Weinidog, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC ar 'Cenedl a'i golwg tuag allan'
I gael trawsgrifiad o'r ddarlith, dilynwch y ddolen isod:
Cenedl a'i golwg tuag allan, Rhodri Morgan AC (PDF, 56.37Kb)
---------------------
Hoffai’r Ganolfan gyflwyno i chi ei phrosiect newydd Breuddwydwyr Doeth a Ffôl sydd yn coffáu ymglymiad y Cymry yn y Rhyfel Cartref gwaedlyd a difrodus a rhwygodd drwy galon Sbaen 70 mlynedd yn ôl.
Am fwy o wybodaeth a manylion am ble mae’r prosiect yma yn cael ei arddangos ewch I adran Gweithgareddau o’r wefan yma. Mae’r adran Cyhoeddiadau yn rhestri’r llyfr, DVD a phosteri sydd wedi eu cyhoeddi i gyd-fynd â’r arddangosfa, ac sydd ar werth trwy’r Ganolfan.
---------------------
Yr ydym yn derbyn cefnogaeth gan aelodau unigol ac yr awdurdodau lleol canlynol:
Sir Caerfryddin
Gwynedd
Sir Fynwy
Castell-Nedd Port Talbot
Casnewydd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Wrecsam
Ynys Môn