Ein gwaith

Mae pedair prif ffrwd gweithgaredd i waith CMRhC:

Digwyddiadau

Byddwn yn trefnu llawer o seminarau a darlithoedd bob blwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae ein digwyddiadau yn annog trafodaeth eang ar draws amryw o feysydd gan gynnwys hawliau dynol, datblygu rhyngwladol, cynaliadwyedd, cyfraith ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a materion diwylliannol a chrefyddol. Cynhelir y rhan fwyaf ohonynt gyda’r hwyr yn ein pencadlys yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

> Digwyddiadau'r dyfodol

> Prosiect Breuddwydwyr Doeth a Ffôl



Addysg

Trwy gyfrwng ein hadran ysgolion, CEWC-Cymru, rydym yn helpu pobl ifainc i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hunanhyder sydd eu hangen arnynt i gyfrannu at ddyfodol Cymru a’r byd.


Eirioli

Rydym yn amcanu dylanwadu polisi cyhoeddus ar faterion rhyngwladol, yn arbennig trwy ymgyrchu i wireddu nodau’r Cenhedloedd Unedig trwy Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru.

 

Cynyddu gallu


Rydym yn cefnogi gwaith cyrff eraill sydd â maes llafur rhyngwladol yng Nghymru, yn arbennig felly trwy gyfrwng y Porth Datblygu Rhyngwladol Cymru.

 

 

Trwy’n gwaith drwyddi draw, rydym yn arddel ymagwedd meddwl-agored, gan gynnig llwyfan ddiduedd ar gyfer trafod ac eirioli. Er ein bod yn cefnogi egwyddorion y cytunwyd arnynt yn fyd-eang, fel Nodau Datblygu’r Mileniwm a’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, nid oes unrhyw ymlyniad gwleidyddol neu grefyddol gan ein corff ni.

 


All Site Content ©2012 Welsh Centre for International Affairs


Site built by Web Design Cardiff , Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent