Digwyddiad Rhannu Dysgu - Llandudno

14 Medi 2018
11.00 - 15.00

Mae’r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Trefnydd: Hub Cymru Africa

Lleoliad: Llandudno

See bottom of page for location details

CADWCH Y DYDDIAD

Dewch i ymuno â ni i ddysgu mwy am y llwyddiant a’r heriau sy'n wynebu grwpiau wrth gyflwyno prosiectau yn Affrica Is-Sahara.

Cofrestrwch yma: https://granteesllandudno.eventbrite.co.uk 

Fe gewch chi glywed gan ein grantïon blaenorol, a fydd yn rhannu eu profiadau ar wahanol elfennau o gyflawni prosiectau e.e. datblygu prosiectau gyda phartneriaid Deheuol, gweithredu, ymgyrchu, cyfathrebu â phartneriaid, heriau fisa ac ati

Nod:

- Datblygu llwyfan / gofod rhannu gwybodaeth ar gyfer ein grantïon

Amcanion:

- Creu cyfle i grwpiau ddysgu oddi wrth ei gilydd

- Rhwydweithio a dod i adnabod gwaith eich gilydd

- Cynyddu cyfleoedd i grwpiau gyfarfod, dysgu a rhannu arfer gorau.

- Tynnu mwy o sylw at grwpiau a ariannwyd yn flaenorol gan HCA

Agenda

11.00: Cyrraedd a lluniaeth

11.30: Croeso ac amcanion y cyfarfod

11.45: Cyflwyniadau i’w dilyn gan drafodaethau a Chwestiynau Cyffredin

13.00: CINIO

14.00: Cyflwyniad gan HCA: Yr hyn y gallwn ni ei wneud i chi, i gynnwys:

  • Rhaglen Mentora Uwch
  • Recriwtio Gwirfoddolwyr
  • Cefnogaeth a chyngor ar fisâu a theithio
  • Hyfforddiant
  • Diwygio/mireinio cynlluniau prosiect
  • Cyfleoedd rhwydweithio
  • Cyngor cyfathrebu
  • Cyngor codi arian
  • Datrys problemau

15:00: Cwestiynau a gorffen

Cyfeiriad:
Canolfan Busnes Conwy
Junction Way
Llandudno
LL31 9XX

< Yn ôl


Ymaelodwch â’n llythyr newyddion

HUB UNA CEWC

Digwyddiadau diweddaraf

  • 01/11/2018 11:00
    Digwyddiad Rhannu Dysgu - Caerdydd / Hub Cymru Africa
    CADWCH Y DYDDIAD Dewch i ymuno â ni i ...

    Darllenwch ragor...
  • 14/11/2018 18:30
    Dathliad Cymru o blaid Affrica / Hub Cymru Africa
    Noson ddathlu i gymuned Cymru Affrica a Masnach Deg gyda'r Prif Weinid...

    Darllenwch ragor...
  • 17/11/2018 11:00
    Dathliad Blynyddol - Dolen Cymru / Dolen Cymru
    Nodi'r dyddiad

    Darllenwch ragor...
  • 24/11/2018 13:00
    Ailgysegru'r Ardd Heddwch30 / WCIA
    Sefydlwyd Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru gan Robert Davies, sylfaeny...

    Darllenwch ragor...
  • 26/11/2018 14:00
    Byd o Gyfleoedd / British Council Cymru; WCIA
    Mae llwyth o gyfleoedd anhygoel i bobl ifanc yng Nghymru astudio, gwei...

    Darllenwch ragor...