Rydych chi wedi cyrraedd:
CCU CymruBeth yw CCU? Mae Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn gorff i aelodau wedi ei chyllido’n annibynnol sy’n gwbl annibynnol ar y Cenhedloedd Unedig. Heddiw mae gan CCU aelodau a changhennau ymhob cwr o Gymru. Mae CCU yn ymgyrchu ac yn addysgu i wireddu delfrydau’r CU. Cafodd y delfrydau hyn eu crynhoi gan Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, yn ei Adroddiad Mileniwm fel byd yn rhydd o angen, yn rhydd o ofn, a chyda dyfodol cynaliadawy. Beth mae CCU Cymru yn ei wneud? Mae CCU Cymru yn ymgyrchu, yn lobïo ac yn codi ymwybyddiaeth ar faterion yn ymwneud â diarfogi, atal gwrthdaro, datblgyiad cynaliadwy a hawliau dynol. Ein nod yw hyrwyddo dadl ar sail gwybodaeth ar faterion rhyngwladol, gan gynnwys system y CU ei hun. Mae CCU Cymru yn gweithio mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
- Trefnu digwyddiadau cyhoeddus;
- Hybu addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang i bobl ifanc;
- Cefnogi asiantaethau dyngarol y CU fel UNICEF(cronfa’r CU i blant) ac UNHCR (asiantaeth y CU i ffodaruriaid);
- Cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gytundebau’r CU ar hawliau dynol fel y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol;
- Lobïo’r llywodraeth a’r Cynulliad Cenedlaethol;
- Cynhyrchu gwybodaeth ar y Cenhedloedd Unedig a materion rhyngwladol.
Gwaith diddorol ar y CU wedi ei ysgrifennu gan Dr Rachel Owen Isod gellwch lawr lwytho tair ddarnau o waith a gafodd ei ysgrifennu gan Dr Rachel Owen o’r David Davies Memorial Institute of International Studies. Mae’r gyntaf am dan y Cenhedloedd Unedig a’r cymynrodd o Chernobyl. Mae’r ail yn edrych ar y ‘United Nations Office for Outer Space Affairs’ tra mae’r trydydd yn edrych ar ddichonoldeb y Llys Troseddau Rhyngwladol. (Ar gael yn Saesneg yn unig).
- The United Nations and the legacy of Chernobyl
- United Nations Office for Outer Space Affairs
- Viability of the International Criminal Court
Am ragor o wybodaeth, ac am fanylion eich cangen agosaf, cysylltwch â Ona Flindall on 029 2022 8549 / una@wcia.org.uk - dewch i wybod pam dylech CHI ymuno â ni! |