Chwilio
Trwy ymuno â CCU Cymru byddwch yn ychwanegu eich llais at lawer o rai eraill sy’n gweithio dros gymdeithas ryngwladol gyfiawn a heddychol.
Trwy ymuno, rydych yn dangos eich cefnogaeth i’n gwaith dros hawliau dynol, heddwch a diarfogi a datblygiad cynaliadwy. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn CCU Cymru – ble bynnag rydych chi, a pha amser bynnag y gallwch ei roi.
Gall aelodau a chefnogwyr:
1. gefnogi ein hymgyrchoedd dros gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd ledled y byd;
2. ysgrifennu at eich ASau ac ACau gan ddefnyddio ein defnyddiau lobïo;
3. rhoi help i ddosbarthu gwybodaeth ar ein rhaglen i ysgolion, grwpiau crefyddol, llyfrgelloedd etc yn eich ardal;
4. trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn eich ardal;
5. ymuno mewn gweithgareddau gydag aelodau eraill yn ein canghennau yng Nghaerdydd, Porthcawl, Abertawe, Caerfyrddin, Sir Drefaldwyn, a Bangor;
6. helpu i redeg y mudiad, gyda llais yn ein cyfarfodydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru, ac yng Nghynhadledd Flynyddol CCU – y DU;
7. ymuno â 5 aelod arall i greu eich cangen eich hun.
Byddwn yn eich cadw mewn cysylltiad â’n holl ddigwyddiadau a gweithgareddau, trwy'r chylchgrawn chwarterol CCU – y DU, New World.
Mae aelodaeth o CCU Cymru hefyd yn rhoi i chi aelodaeth awtomatig o Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol heb gost ychwanegol.
Lawrlwythwch ffurflen ymaelodi (PDF, 392kB)