Chwilio
Sefydlwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn 1973 i:
1. godi ymwybyddiaeth o faterion byd-eang yng Nghymru;
2. ymgyrchu i hyrwyddo heddwch byd, hawliau dynol a dealltwriaeth ryngwladol;
3. rhoi pwynt allweddol cyswllt yng Nghymru i gyrff a sefydliadau rhyngwladol.
Heddiw mae’r Ganolfan yn gweithio tuag at ei hamcanion trwy gyhoeddiadau, ymgyrchoedd, seminarau a digwyddiadau ar amrywiaeth o faterion rhyngwladol dyngarol a chyfreithiol. Mae ei staff hefyd yn rhoi cefnogaeth i weithgareddau mudiadau eraill gan gynnwys:
Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru
Yn ymgyrchu ac yn addysgu i droi delfrydau’r Cenhedloedd Unedig yn ffaith.
Cyngor Addysg Dinasyddiaeth Fyd (CEWC-Cymru)
Yn hyrwyddo addysg, dinasyddiaeth a dealltwriaeth o’r byd cyfoes ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
Cyfnewid CCU
Yn rhoi prosiectau gwirfoddol sy’n rhoi persbectif ar y byd
Cynefin y Werin
Rhwydwaith Cymru gyfan i hyrwyddo heddwch rhyngwladol, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol a chydraddoldeb
Cyfanfyd – Cymdeithas Datblygu Addysg Cymru
i gefnogi gwaith y rhai hynny sy'n dod gwell â dealltwriaeth ynghylch materion byd eang a datblygiad i Gymru.
EuropaWorld
Papur newyddion ar-lein sy’n ymdrin â chyfraniad Ewrop i ddatblygiad rhyngwladol a gwaith y Cenhedloedd Unedig a’u hasiantaethau
Ynghyd â CEWC Cymru, CCU Cymru a CCU Cyfnewid, mae CMRC yn rhan o Ymddiriedolaeth Ryngwladol Cymru
Mae agweddau eraill ar waith y Ganolfan yn cynnwys:
Pwyllgor Materion Cyfreithiol
Mae’r tîm materion cyfreithiol yn cynnwys staff, gwirfoddolwyr, academyddion a phobl broffesiynol – i gyd â diddordeb cryf mewn materion cyfreithiol ac yn effeithiau cyfraith genedlaethol a rhyngwladol. Eu rôl yw hwyluso trafodaeth a dealltwriaeth o faterion cyfreithiol trwy seminarau a phapurau briffio.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Agenda Fyd-eang
Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ymgymerodd y Ganolfan â’r cyfrifoldeb newydd o sicrhau fod yr haen hon o lywodraeth yn cynnal persbectif byd-eang. Roedd yn allweddol wrth lansio grŵp rhyngbleidiol ar ddatblygiad rhyngwladol yn y Cynulliad Cenedlaethol yn Ebrill 2001. Mae’r Ganolfan hefyd yn aelod o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru ac yn gynrychiolydd ar Gyngor Partneriaeth Sector Gwirfoddol y Cynulliad Cenedlaethol.
Canolfan Genedlaethol Digwyddiadau Coffa
Mae’r Deml Heddwch yn cael ei defnyddio fwyfwy fel canolfan genedlaethol i ddigwyddiadau coffa, gyda CMRC yn cymryd rôl trefn allweddol. Mae digwyddiadau i nodi Diwrnod Cadoediad, Diwrnod Cofio’r Holocost a Diwrnod Hil-laddiad Armenia wedi cael eu trefnu gan y Ganolfan mewn blynyddoedd diweddar.
Gardd Genedlaethol Heddwch
Mae Gardd Genedlaethol Heddwch Cymru wedi ei lleoli y tu ôl i’r Deml Heddwch ac mae yng ngofal y Ganolfan. Sefydlwyd hi yn 1988 i nodi hanner can mlwyddiant yr adeilad. Mae’r ardd yn gartref i nifer o goed a choflechi; dadorchuddiwyd plac lliwgar yn ddiweddar, i nodi ugeinfed blwyddiant y daith o Gaerdydd i Gomin Greenham.