Meet the Team: Women’s Peace Petition / ‘Hawlio Heddwch’ Centenary Project Team

Supported through the National Lottery Heritage Fund, the project team are employed by WCIA and coordinated through Academi Heddwch to support community groups Wales-wide in uncovering the story behind the 1923-24 Peace Petition, and to deliver the ambitious HLF funded ‘Hawlio Heddwch’ project.

Mae Ffion Fielding wedi gweithio yn y sector amgueddfeydd a threftadaeth yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, gan ddechrau ei gyrfa fel swyddog addysg yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn 2015 ymunodd â WCIA am dair blynedd fel cydlynydd cymunedol ac arddangosfeydd gyda’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’. Dyma lle y dechreuodd ymddiddori gyntaf yn stori’r Ddeiseb Heddwch.
Mae’n ymuno ag Academi Heddwch o’i rôl fel rheolwr prosiect arddangosfeydd gydag Amgueddfa Cymru, lle roedd hi’n rheoli arddangosfeydd ac arddangosiadau ar raddfa fawr a bach, gan gynnwys arddangosfeydd teithiol a phresenoldeb Amgueddfa Cymru mewn digwyddiadau cenedlaethol.  Hi yw cynrychiolydd aelodau Cymru o Gymdeithas yr Amgueddfeydd, sef y corff cynghori ar gyfer amgueddfeydd ledled y DU.
FfionFielding@wcia.org.ukFfion Fielding has worked in the museums and heritage sector in Wales for over 20 years, starting her career as a learning officer in St Fagans National Museum of History.
In 2015 she joined WCIA for three years as community and exhibitions coordinator with the ‘Wales for Peace’ project. This is where she first became interested in the story of the Peace Petition
She joins Academi Heddwch from her role as Exhibitions Project Manager with Amgueddfa Cymru, where she managed exhibitions and displays on a large and small scale, including touring exhibitions and the museum’s presence at national events. Until December 2023 she is the Welsh members’ representative for the Museums Association, the advisory and membership organisation for museums across the UK.
Bu Jennifer Evans yn Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Amgueddfa Cymru. Ar hyn o bryd hi yw Swyddog Prosiect prosiect gwirfoddol yr archifau digidol, Crowd Cymru, ochr yn ochr â’i rôl newydd gyda Phrosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Yn falch o gael ei geni a’i magu yng Nghasnewydd gyda diddordebau mewn llên gwerin a hanes dechrau’r 20fed ganrif.JenniferEvans@academiheddwch.cymruJennifer Evans was an Assistant Librarian in Amgueddfa Cymru. She is currently Project Officer for the digital archives volunteer project, Crowd Cymru, alongside her new role with the Welsh Women’s Peace Petition Centenary Project. Proud to be born and bred in Newport with interests in folklore and early 20th century history.
JenniferEvans@academiheddwch.cymru
Mae Siân Howys wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, a hi oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion. Mae gan Siân ddiddordeb gydol oes mewn materion cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a chydraddoldeb ac mae hi’n aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith. Mae Siân yn byw yn Aberystwyth ac mae ganddi wreiddiau cryf yng Nghwm Tawe lle cafodd ei magu. Cwblhaodd MA ym Mhrifysgol Bangor ar fywyd a gwaith TE Nicholas ( Niclas y Glais).SianHowys@academiheddwch.cymruSiân Howys has worked in the social care sector in Wales for over thirty years, and she was the Director of Social Services in Ceredigion. Siân has a lifelong interest in social justice, peace and equality issues and she is an active member of Cymdeithas yr Iaith (The Welsh Language Society). Siân lives in Aberystwyth and has strong roots in the Swansea Valley where she grew up and she completed an MA at Bangor University on the life and work of TE Nicholas (Niclas y Glais).
Mae Lowri Kirkham wedi’i lleoli yn y Rhyl. Mae hi wedi gweithio ym maes treftadaeth a diwylliant ers sawl mlynedd, gan gysylltu cymunedau a grwpiau amrywiol â chanolfannau diwylliannol trwy brosiectau allgymorth. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cenedlaethol a lleol, ac yn ogystal â gweithio ar y prosiect mae hi’n cwblhau ei blwyddyn olaf o radd israddedig mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gyda’r Brifysgol Agored.LowriJenkins@academiheddwch.cymruLowri Jenkins is from Rhigos near Aberdare and now lives in Cardiff. Lowri has worked in the Museum sector for 23 years – she has a history degree from Swansea University and MA from the University of South Wales. She became a qualified Archivist in 2013. Lowri is passionate about Women’s history.
Mae Lowri Kirkham wedi’i lleoli yn y Rhyl. Mae hi wedi gweithio ym maes treftadaeth a diwylliant ers sawl mlynedd, gan gysylltu cymunedau a grwpiau amrywiol â chanolfannau diwylliannol trwy brosiectau allgymorth. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cenedlaethol a lleol, ac yn ogystal â gweithio ar y prosiect mae hi’n cwblhau ei blwyddyn olaf o radd israddedig mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gyda’r Brifysgol Agored.LowriKirkham@academiheddwch.cymruLowri Kirkham is based in Rhyl. She has worked in heritage and culture for several years, connecting diverse communities and groups with cultural centres through outreach projects. She has worked on both national and local projects and in addition to working on the project she is completing her final year of an undergraduate degree in Childhood and Youth studies with the Open University.