Gwahoddiad i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyfnewid UNA

Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros ganlyniadau buddiol gwirfoddoli rhyngwladol?

Ydych chi eisiau cefnogi nodau llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gartref a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar draws y byd?

A fedrwch chi rannu 8 diwrnod y flwyddyn o’ch amser i gefnogi twf sefydliad dielw uchelgeisiol?

handsup

Mae’r elusen wirfoddoli ryngwladol, Cyfnewid UNA yng Nghaerdydd, yn recriwtio unigolion dynamig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, sydd â’r ysgogiad a’r sgiliau i ddatblygu ein gweledigaeth o Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae ein busnes craidd yn cynnwys trefnu cyfnewidiadau rhyngwladol i ac o Gymru, grymuso unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau’r gwasanaeth gwirfoddol sy’n datblygu cymunedau, gwarchod yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol, a hyrwyddo dealltwriaeth rhyngddiwylliannol. Rydym yn anelu’n bennaf at bobl ifanc 18-30 oed, ac yn darparu cyfleoedd sy’n amrywio o breswylfeydd pythefnos o hyd i leoliadau tramor 12 mis. Rydym yn darparu rhaglen o wirfoddoli â chymorth hefyd i bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur ac sydd yn y perygl mwyaf o gael eu hallgáu’n gymdeithasol.

Mae’r elusen wedi sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, a chyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu, mae hwn yn amser gwych i ymuno â phwyllgor rheoli’r elusen.

Mae mynegiannau o ddiddordeb yn cael eu croesawu gan unigolion o bob cefndir. Rydym yn arbennig o awyddus i recriwtio pobl sydd â chymysgedd o’r sgiliau a’r profiadau canlynol:

  • Gwaith ieuenctid (ymarfer a pholisi)
  • Rheolaeth ariannol
  • Cynhyrchu incwm a cheisiadau grantiau
  • Cynyddu rhoddion a datblygu alumni
  • Yr iaith Gymraeg
  • Materion Cyhoeddus

Bydd ymddiriedolwyr newydd yn cael y cyfle i ymuno ag un o is-bwyllgorau’r Bwrdd, a byddant yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau fel llysgenhadon Cyfnewid UNA. Dros amser, bydd cyfle hefyd i ymgymryd ag un o rolau dynodedig y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Trysorydd.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd bob chwarter (fel arfer ar nos Fawrth rhwng 17:30 a 19:30), ac mae cyfarfodydd o is-bwyllgorau’r Bwrdd yn cael eu cynnal rhwng y cyfnodau hyn. Mae staff ac ymddiriedolwyr yn cyfarfod hefyd i gymryd rhan mewn Diwrnod Strategaeth blynyddol. Mae ymddiriedolwyr newydd yn cael eu hannog i wneud cais: mae Cyfnewid UNA wedi ymrwymo i ddatblygiad staff ac ymddiriedolwyr, ac yn gweithredu system fentora a chyllideb ar gyfer hyfforddiant.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am waith a threfn llywodraethu Cyfnewid UNA, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr, Tara-Jane Sutcliffe: tarajanesutcliffe@unaexchange.org. Dylai pob mynegiant o ddiddordeb gael eu hanfon i’r un lle, wedi’u cyfeirio at Tracy Kearns, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.

Os hoffech wneud cais, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol yn mynegi eich cymhelliant i ddod yn ymddiriedolwr Cyfnewid UNA, a pha sgiliau a phrofiadau y byddech chi’n eu cyfrannu i’r rôl. Gofynnwn i bob ymgeisydd ystyried sut y byddent yn cyd-fynd â’r ymrwymiad amser o gwmpas gwaith a bywyd teuluol.

Sefydlwyd Cyfnewid UNA ym 1973, ac mae’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (elusen gofrestredig rhif: 1158106). I ddarganfod mwy am y sefydliad, ewch i’n gwefan: www.unaexchange.org.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n ofynnol gan ymddiriedolwr elusen yng nghyhoeddiad y Comisiwn Elusennau ‘Yr ymddiriedolwr hanfodol: beth mae angen i chi ei wybod, beth mae angen i chi ei wneud’.

Bydd unigolion yn cael eu penodi ar sail treigl, a dylid cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb cyn gynted â phosibl.