Rydym wedi archwilio cymwyseddau’r NDCau ac wedi dadansoddi prosiect NDC. Nawr, gadewch i ni feddwl am sut y gallwch chi ddechrau arni fel llysgennad y NDCau.
Gallwch weithredu ar sawl lefel wahanol:
Gartref: Gwneud penderfyniadau sy’n ystyriol o NDCau; Lleihau eich defnydd (gweler y wers nesaf am syniadau)
Teulu a ffrindiau: Rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth; Ysbrydoli newid; Darparu syniadau – bod yn fodel rôl
Cymuned (gan gynnwys prifysgol): Mapio mentrau NDCau presennol a chymryd rhan; Cefnogi mentrau sy’n bodoli eisoes gyda syniadau newydd; Siarad fel llysgennad y NDCau – dadlau, codi ymwybyddiaeth, dechrau trafodaethau, herio
Gwaith: Arloesi ar gyfer y NDCau yn y gwaith/ar waith?? – cewch wybod mwy am ‘intrapreneuriaid’ yn ddiweddarach yn y cwrs; Mentrau cryfder a gwerth sy’n cefnogi’r NDCau; Cwestiwn a her; Dod at eich gilydd gyda llysgenhadon NDCau eraill
Lle gwych i ddechrau yw darganfod beth sydd eisoes yn digwydd yn eich cymuned, gweithle neu brifysgol. Pa fentrau NDCau sydd eisoes yn digwydd? Allwch chi gymryd rhan?
Gadewch i ni edrych ar rywfaint o enghreifftiau ysbrydoledig. Gwyliwch y fideo a nodwch eich hoff syniad.