Gall pob unigolyn a phob sefydliad gyfrannu at y Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau) a chreu byd gwell, ond mae yna ychydig o gysyniadau sylfaenol y mae’n bwysig eu deall yn gyntaf – bydd y ddau gwrs rhyngweithiol a diddorol hyn yn helpu.
Yng nghwrs 1, rydym yn edrych ar y cysyniadau hyn:
- Beth ydy’r economi fyd-eang a sut mae’n berthnasol i’r NDCau?
- Pwy sy’n chwarae rhan yn yr economi honno? Sut maen nhw’n helpu neu’n llesteirio cynnydd?
- A beth yw eich rôl chi yn hyn i gyd?
Yng nghwrs 2, rydym yn canolbwyntio arnoch chi:
- Pa sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen arnoch i lywio ym myd cymhleth y NDCau?
- Sut allwch chi ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach? A sut y gallai’r rhain eich helpu yn eich gyrfa?
- Sut allwch chi fod yn Llysgennad NDC? Rydym yn defnyddio enghreifftiau o NDC12 Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
- Yn olaf, rydym yn rhoi cyfle i chi archwilio eich prosiect NDC eich hun, fel y gallwch roi’r syniadau a’r sgiliau rydych chi wedi’u datblygu ar y cwrs ar waith.
Ond cyn i chi ddechrau arni, mae’r wers hon yn rhoi cyflwyniad syml i chi i’r NDCau. Cliciwch ar y sesiwn gyntaf yn y cwrs isod i ddechrau arni.