Dyma’r holl fusnesau a diwydiannau sy’n ceisio gwneud elw ac sydd ddim yn perthyn i’r llywodraeth nac yn cael eu rheoli ganddynt. Mae’r sector hwn yn tueddu i ffurfio cyfran fwy o’r economi mewn cymdeithasau marchnad rydd, cyfalafol.
Mae cwmnïau a diwydiannau preifat i fod i ddilyn rheolau a rheoliadau’r wlad/gwledydd maen nhw’n gweithredu ohonynt. Fodd bynnag, oherwydd dylanwad economaidd cynyddol rhai cwmnïau a diwydiannau a’u natur amlwladol, gall cwmnïau a diwydiannau gael dylanwad sylweddol dros lywodraethau a pholisïau.
Er enghraifft, yn ôl astudiaeth Global Justice Now, mae 69 o’r 100 endid cyfoethocaf yn gorfforaethau, ac nid yn gwmnïau. Mae gwahanol ffyrdd o fesur maint endid, felly gellir anghytuno â’r ffigurau hyn ond serch hynny, mae’n dangos maint a phŵer y sector preifat.
Gall unrhyw un yn y sector preifat osod rheolau drostynt eu hunain sy’n mynd y tu hwnt i rwymedigaethau neu gyfrifoldebau cyfreithiol. Yn draddodiadol, daeth y cymhelliad elw yn gyntaf ond i nifer cynyddol o gwmnïau, mae ymdrechion i gydbwyso elw a phwrpas.
Er enghraifft, mae llawer o fusnesau mawr yn ceisio cydbwyso eu cymhelliant elw ag ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn gyffredinol, efallai y gallem alw’r rhain yn ‘fusnesau moesegol’ neu siarad am ‘Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR).
Mae B-Corp yn gynllun ardystio ar gyfer busnesau sy’n:
bodloni’r safonau uchaf o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol wedi’i ddilysu, tryloywder cyhoeddus, ac atebolrwydd cyfreithiol i gydbwyso elw a phwrpas.
bcorporation.net/about-b-corps
Mae’r fideo isod yn hysbyseb fer ar gyfer B-Corp:
Gall hon fod yn ffordd i gwmnïau sefyll allan o gymharu â’r gystadleuaeth. Os hoffech archwilio enghreifftiau o fusnesau B-Corp, mae cyfeiriadur i’w archwilio.
Mae llawer o labeli a chynlluniau ardystio ar gael ar gyfer cwmnïau (fel B-Corp) neu gynhyrchion (fel Masnach Deg neu Rainforest Alliance), ond mae’n bwysig edrych y tu ôl i’r label a deall cyfyngiadau unrhyw gynllun labelu.