Mae’n cael ei alw’n sector ‘nid-er-elw’ hefyd, a’r prif amcan yn y sector hwn yw gwasanaethu aelodau o gymdeithas. Yn wahanol i’r sector preifat sy’n gofyn am elw (weithiau wedi’i gyfuno â phwrpas cymdeithasol fel y gwelsom gyda B-Corps yn y sesiwn ddiwethaf), dim ond fel modd o gyflawni eu nodau y bydd y trydydd sector yn cynhyrchu incwm – caiff yr holl incwm ei gyfeirio at y diben hwnnw.
Elusennau
Mae’r sector hwn yn cynnwys elusennau sydd wedi’u sefydlu at ddiben cymdeithasol. Nid ydynt yn ymwneud â ‘gwerthu’ cynhyrchion neu wasanaeth i ddefnyddwyr, ond gyda chynnydd tuag at nodau cymdeithasol. Weithiau, maen nhw’n gwerthu gwasanaethau neu gynhyrchion i ariannu eu gwaith a allai greu llinellau aneglur gyda’r sector preifat (pan fyddant yn cystadlu’n fasnachol) a’r sector cyhoeddus (pan fyddant yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gontract i’r sector cyhoeddus).
Er enghraifft, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sy’n cael ei hariannu’n llawn gan bobl Cymru. Eu hamcan? Achub pobl sy’n anodd eu cyrraedd drwy ddefnyddio hofrenyddion sydd â chyfarpar meddygol. Mae ganddynt siopau i godi arian ar gyfer eu gwaith ac maen nhw’n derbyn rhoddion hefyd.
Busnesau cymdeithasol
Mae’r sector hwn yn cynnwys busnesau cymdeithasol hefyd – mae’r rhain yn gwerthu cynnyrch neu wasanaethau ond nid er elw, gan fod unrhyw arian a wnânt yn mynd yn ôl i’w hachos. Mae’r fideo isod yn esbonio beth yw menter gymdeithasol a pham mae’n bwysig.
Er eu bod yn cael eu gwerthu gan sefydliadau busnesau cymdeithasol, nid yw’r cynnyrch yn dianc rhag rhesymeg y farchnad. Ni allwch werthu cynnyrch ar sail ei rinweddau ecolegol a moesegol yn unig – mae defnyddwyr yn dal i fod eisiau gwerth da (a.y.a. ansawdd) am eu harian. Oherwydd hyn, gall y llinell rhwng busnesau cymdeithasol a’r sector preifat fod yn aneglur.
Mae’r rheolau y mae sefydliadau’r economi gymdeithasol yn eu gosod drostynt eu hunain bron bob amser yn mynd y tu hwnt i gwmpas unrhyw bolisïau cyfreithiol.