Fel yr esboniwyd yn y cyflwyniad i’r wers hon, mae natur anrhagweladwy ein byd modern yn cyflwyno posibiliadau a chyfleoedd newyd hefyd. Er enghraifft, mae VUCA wedi’i ailddiffinio mewn modd cadarnhaol.
Yn yr amgylchedd hwn, mae rhai darnau o ddeddfwriaeth yn canolbwyntio mwy ar bositifrwydd a chynaliadwyedd hefyd. Un enghraifft yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y Ddeddf hon yw rhoi mewn cyfraith sawl agwedd ar y nodau datblygu cynaliadwy, wedi’u haddasu ar gyfer y cyd-destun Cymreig – mae’r gyfraith yn dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am eu cynnydd yn erbyn 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio.
Deddfu ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru
Gwyliwch y fideo am y Ddeddf i ateb y cwestiynau hyn:
Mae Padlet isod i ateb y cwestiynau.
Nawr dilynwch y ddolen isod ac archwiliwch y ffeithlun. Cliciwch ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi ac yna atebwch y 3ydd cwestiwn ar y Padlet (Pa rwystrau neu lwyddiannau allwch chi eu gweld i weithredu’r Ddeddf?).