Pan rydym yn edrych ar y gwahanol fodelau economaidd, gallwn weld y gall newidiadau mewn dulliau economaidd gael effaith ar gynnydd tuag at y NDCau – economi fwy cylchol sy’n gwella cynnydd ar ddangosyddion amgylcheddol er enghraifft – ond nid yw’r berthynas yn syml nac yn llinol.
Er ein bod ni wedi archwilio’r niwed a achosir gan fodel sy’n seiliedig ar dwf, mae angen i ni feddwl yn feirniadol hefyd am ddulliau a syniadau amgen.
Er enghraifft, gall cynnyrch fod yn gylchol, ond ydy’r cylcholrwydd hwn yn cael ei sbarduno gan ynni adnewyddadwy, neu danwydd ffosil? Ydy pobl yn cael eu talu’n deg? Yn yr economi gydweithredol, beth yw’r effaith ar incwm pobl pan gynigir gwasanaethau medrus am ddim? Dan ba amodau mae pobl yn gweithio mewn platfformau cyfoed-i-gyfoed fel Uber?
Bydd atebion i’r cwestiynau hyn yn effeithio ar draws y NDCau, yn enwedig o ran meysydd gwaith gweddus a defnyddio a chynhyrchu cyfrifol.
Ni fydd unrhyw fetrig yn mesur popeth sy’n bwysig i ni, ac mae’r holl fetrigau (gan gynnwys CDG) yn llawn barn gwerth, felly mae angen i ni gofio gwerthfawrogi’r pethau hynny na ellir eu mesur yn hawdd.
Myfyrio
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r datganiadau isod? Nid oes ateb cywir ,ond mae’n ddefnyddiol myfyrio ar y cwestiynau hyn o’r cwrs.
Create your own user feedback survey