Ein tîm

Susie Ventris-Field – Prif Weithredwr

Susie Ventris-Field

Mae Susie, sydd ag angerdd dros gynnwys pobl mewn rhyngwladoldeb, yn arwain WCIA, ac mae hi wedi bod yn gweithio i’r mudiad ers cymryd rhan fel gwirfoddolwr yn 2013. Fel rhan o’i gyrfa yn y trydydd sector, mae Susie wedi gweithio ym meysydd cydraddoldeb rhywiol, addysg a chynhwysiant yng Nghymru, Lloegr, De Corea ac Eritrea.

Rwy’n cael fy ysbrydoli’n drwy’r adeg gan y bobl yng Nghymru sy’n rhoi eu hamser, eu hegni a’u profiad i greu byd tecach a mwy heddychlon. Yn WCIA, rydym eisiau adeiladu ar yr enghreifftiau gwych hyn, a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan, fel bod Cymru yn gallu parhau i gystadlu â’r goreuon fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Shaela Ismail – Rheolwr Cyllid

Shaela Ismail

Mae gan Shaela gefndir ym maes cyllid, gan iddi weithio’n flaenorol i Brifysgol Leicester fel Swyddog Cyllid Prosiectau, yn cefnogi’r gwaith o reoli grantiau ymchwil mawr, ac fel cynorthwyydd cyllid yn Elusen Canser Tenovus. Yn WCIA, mae Shaela’n rhan o’r Swyddfa Gyllid, ac yn sefydlu gweithdrefnau a helpu i ddarganfod sut y gall y swyddfa gyllid gefnogi’r WCIA a’r prosiectau eraill. Ar hyn o bryd, mae Shaela yn astudio ar gyfer Tystysgrif Cymhwyster AAT mewn Cyfrifeg, i ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth cyfrifeg ymhellach.

Cymerodd Shaela seibiant gyrfaol i fagu ei dau blentyn ac i dreulio amser yn teithio a choginio. Mae hi wrth ei bodd yn archwilio gwahanol ddiwylliannau a bwydydd, ac yn credu’n gryf mewn addysgu eich hun am wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau i dorri’r rhwystrau sy’n bodoli o fewn Cymdeithas.

“Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn unigryw, gan ei bod yn cynnig y cam cyntaf i bobl Cymru archwilio a llywio materion byd-eang. Drwy ymgyrchoedd, gweithdai a dadleuon, rydym yn rhoi llais i’r Cymry ar sbectrwm rhyngwladol”.

Amber Demetrius – Rheolwr Dysgu Byd-eang

Amber Demetrius

Gwyliwch fideo ar ‘Pwy yw Amber’ yma  

Mae Amber yn gyfrifol am sicrhau bod rhaglenni addysgol WCIA yn rhedeg yn esmwyth. Mae ei rôl yn cynnwys dylunio a rhedeg prosiectau i wella dysgu Byd-eang, gwerthuso eu heffaith, a datblygu partneriaethau dysgu ar draws Cymru. Mae hi hefyd yn datblygu ein prosiectau presennol mewn ysgolion.

Mae gan Amber gefndir mewn Addysg, gan iddi ddysgu ar draws y sector Cynradd am bymtheg mlynedd. Mae hi wedi gweithio gyda ‘Theatre in Education’ a ‘Global Learning Groups’ hefyd, i gyflwyno ffyrdd arloesol sy’n helpu unigolion sydd wedi ymddieithrio â dysgu i ailadeiladu eu hyder ynddo, yn enwedig myfyrwyr mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd. Mae Amber yn ddarllenydd brwd, ac mae hi wrth ei bodd gyda dramâu trosedd a chathod!

What I’ve learned from working with young people is that so much comes down to your attitude. If you believe you can make a change happen then you always really can. A lot of our work is about people not being afraid to stand and fight for the things that matter most to them. You can do it through simple acts of kindness but also by writing to politicians and influencing decision makers in your community. The world needs more people who are willing to fight for the right things and I think if more people did, we’d have a much better world to live in.

Hayley Richards – Pennaeth Datblygu Rhaglenni a Pholisi

Hayley-Richards

Mae Hayley wedi bod yn gweithredu dros gyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol ers ei dyddiau ysgol: naill ai’n trefnu codi arian ar gyfer newyn yn y 1980au, neu’n cydlynu ymgyrchoedd llythyrau i gefnogi carcharorion gwleidyddol ar draws y byd. Ym Mhrifysgol Caerdydd, astudiodd Hayley Sŵoleg, Hydrobioleg Gymhwysol ac yna, Ph.D. mewn Entomoleg (astudio pryfed!).

Daeth yn Rheolwr Prosiect mewn Ymchwiliadau Pryfed, ac mae hi hefyd wedi gweithio am nifer o flynyddoedd fel Rheolwr Prosiect ac yna, fel Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru. Mae hi wedi treulio dros 10 mlynedd fel Ymchwilydd ac yna, fel Swyddog Polisi ac Eiriolaeth gydag Oxfam Cymru, yn gweithio ar dlodi domestig i ddechrau ond yna, yn canolbwyntio ar faterion byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, mudo, a rôl Cymru ym maes datblygu rhyngwladol. Gweithiodd Hayley yn agos gyda Chynghrair Ffoaduriaid Cymru ar ymgyrch Cenedl Noddfa Cymru, a chyda’r Gynghrair Datblygu Cynaliadwy i ddylanwadu’n gadarnhaol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn fwyaf diweddar, mae Hayley wedi bod yn ymwneud â dod ag ‘economeg toesen’ i Gymru, fel rhan o’r gwaith o ddylanwadu ar yr economi llesiant.

“Rwy’n hynod gyffrous ac yn falch fy mod i wedi ymuno â thîm anhygoel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn ddiweddar. O ystyried yr heriau byd-eang sylweddol rydym i gyd yn eu hwynebu, mae mor bwysig gwneud y byd yn lle llai, cysylltu pobl o wahanol wledydd yn well, a datblygu ein dysgu a’n dealltwriaeth o faterion byd-eang. Rwy’n edrych ymlaen at weithio fel rhan o dîm mor ddeinamig, cynhwysol a blaengar.”

Hannah Harvey – Pennaeth Datblygu Rhaglenni a Pholisi

Hannah-H-S

Mae Hannah Harvey yn rhannu swydd fel Pennaeth Datblygu Rhaglenni a Pholisi Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Mae Hannah wedi bod yn gweithio yn y sector rhyngwladol a gwirfoddol yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf, yn cefnogi elusennau i reoli risg, tyfu a chadw i fyny â mentrau arfer gorau. Mae hi’n angerddol am leihau ei heffaith ar yr hinsawdd ac mae hi’n rhedeg cwmni ynni adnewyddadwy domestig yn Abertawe gyda’i gŵr hefyd.

Ar ôl cwblhau gradd meistr ym maes rheoli a datblygu polisi cymdeithasol, bu Hannah’n gweithio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, gan dynnu sylw’n benodol at gysylltiad byd-eang Cymru ac effaith cadwyni cyflenwi byd-eang ym maes caffael cyhoeddus.

Yn dilyn gyrfa gychwynnol fel cyhoeddwr i’r BBC, bu Hannah’n gweithio fel ymgynghorydd cyfathrebu i World Bank, Sustrans a DfID, ac fel ymchwilydd yn Gender at Work. Mae Hannah wrth ei bodd yn treulio amser ym myd natur, yn benodol, yn profi mannau gwyllt gyda’i theulu, yn nofio yn y môr, fel gwenynwr ac yn tyfu llysiau hefyd fel rhan o grŵp cymunedol.

Craig Owen – Cynghorydd Treftadaeth

Craig staff

Yn ffigwr blaenllaw ym maes rhyngwladoldeb yng Nghymru dros y pymtheg mlynedd diwethaf, ymunodd Craig â ni o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, lle, fel Rheolwr Rhyngwladol ers 2007, datblygodd raglen Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica. Mae hyn wedi bod o gymorth i dros 150 o sefydliadau cymdeithas sifil wrth gyflwyno 500 o brosiectau ar ddysgu, meithrin partneriaethau a datblygu cymunedol rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara, ac yn rhannu arferion gyda phartneriaid Ewropeaidd.

Cyn hynny, bu Craig yn gweithio ar Raglen Cymorth Tswnami Oxfam International yn Indonesia, gan ganolbwyntio ar feithrin heddwch yn nhalaith Aceh, sydd yng nghanol gwrthdaro mawr. Ysgrifennodd Craig blog o Aceh a oedd yn cael ei ddilyn gan bobl ar draws Cymru a thu hwnt. Fel Cydlynydd Ymgyrchoedd Cymru gydag Oxfam Cymru, arweiniodd Craig waith ar yr ymgyrchoedd ‘Rhown Derfyn ar Dlodi’, (gan ddiogelu Cytundeb Cyfnewid Arfau Rhyngwladol) ac ar Fasnach Deg. Mae wedi teithio’n helaeth ac wedi ennill profiad rhyngwladol o feithrin heddwch a mentrau cymunedol ymarferol mor bell i ffwrdd â De Affrica, Ethiopia, Uganda, Lesotho, Indonesia, Cambodia, Angola, Israel a Phalesteina. Mae Craig wedi arwain gwaith allanol gyda’r cyhoedd ac ieuenctid drwy Oxfam ac yn ystod 2 flynedd fel Llywydd Uned Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, ac fel swyddog undebau myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle bu’n astudio Daearyddiaeth a Daeareg. Yn ei amser hamdden, mae Craig yn gwirfoddoli fel trefnydd digwyddiadau ac arweinydd gweithgareddau awyr agored gyda’r elusen LHDT OutdoorLads.

“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda sector Rhyngwladol Cymru dros y degawdau diwethaf, yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol i gysylltu â’r byd ehangach. Mae ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ yn teimlo fel dilyniant naturiol, yn dadorchuddio a rhannu treftadaeth Rhyngwladoldeb Cymru. Mae cymaint o straeon ysbrydoledig iawn, gyda’r pŵer go iawn i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i adeiladu byd gwell. Ar lefel bersonol iawn, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi bod yn hyblyg ac yn gefnogol dros ben drwy gydol fy nhriniaeth canser (sy’n parhau); Rwy’n falch o gyfrannu at sefydliad sy’n byw ei werthoedd mor gadarnhaol.”

Jane Harries – Cydlynydd Addysg Heddwch

Jane Harries

Mae Jane wedi bod yn ymgyrchydd heddwch a hawliau dynol ar hyd ei hoes. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi bod yn cydlynu Cymdeithas y Cymod- the Fellowship of Reconciliation – a bu’n gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da Rhyngwladol. Mae Jane yn arbenigo mewn ieithoedd ac yn siarad Cymraeg yn rhugl; bu’n dysgu ac yn Bennaeth Adran Ieithoedd Modern yn Ysgol y Cymer yn Rhondda Cynon Taf, cyn treulio pum mlynedd fel Cynghorydd Addysg Cymru ar gyfer yr NSPCC, a saith mlynedd yn llywodraeth Cymru fel arweinydd hawliau plant a chyfranogiad pobl ifanc. Mae Jane yn treulio sawl wythnos bob blwyddyn ym Mhalesteina ac Israel, yn cyd-hwyluso gweithdai Alternatives to Violence Project (AVP), gan adeiladu ar ei chyfranogiad fel Sylwedydd Hawliau Dynol gyda Rhaglen Hebrwng Eciwmenaidd ym Mhalesteina ac Israel (EAPPI). Dyma yw testun ei blog.

Rôl Jane yw cyflwyno Strategaeth Ddysgu uchelgeisiol prosiect Cymru dros Heddwch – gan ddatblygu adnoddau cwricwlwm a dysgu dwyieithog; cyflwyno cynadleddau a digwyddiadau ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid a chymunedol; hwyluso rhwydweithio ac eiriolaeth ar Addysg Heddwch, ac yn y pen draw, sefydlu cynllun ‘Ysgolion Heddwch’ ar draws Cymru, cynllun a fydd yn arwain y byd.

Michaela Rochman – Rheolwr Rhaglen ESC

Michi Staff

Ymunodd Michaela â Chyfnewidiad UNA yn 2014 ac ers hynny mae wedi arwain ar draws portffolio o raglenni a ariennir gan yr UE, gan gynnwys Erasmus+ a chynlluniau cyfnewid ieuenctid blaenorol. Yn WCIA mae Michaela yn rheoli prosiectau Corps Solidader Ewrop a chyfnewidiadau rhyngwladol.

Mae Michaela, sy’n brofiadol mewn gwirfoddoli rhyngwladol ei hun, wedi cymryd rhan mewn prosiectau ledled y byd, gan gynnwys yn yr Almaen, Ffrainc, De Affrica, Tanzania, Cymru a Lloegr.

Daniel Mapatac – Swyddog Lleoli Gwirfoddolwyr

Dan

Ochr yn ochr â’i daith ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Daniel wedi cymryd rhan weithredol mewn gwaith rhyng-ddiwylliannol, gan gymryd rhan mewn sawl prosiect sy’n ymwneud ag addysg anffurfiol, gwaith ieuenctid a pholisi yn Ewrop, a chydweithio â chrewyr newid ifanc, llywodraeth leol ac ASEau.

Yn 2019, croesodd y Cefnfor Tawel ddwywaith, fel rhan o 32ain rhaglen Ship for World Youth, a oedd yn ei uno â thros 200 o bobl ifanc o bob cwr o’r byd. Roedd Daniel yn aelod o Dasglu Cydraddoldeb Hiliol Cyngor Caerdydd rhwng 2020 a 2022 ac ar hyn o bryd, mae’n rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rwy’n angerddol am gysylltu pobl, diwylliannau ac adeiladu cymunedau. Mae profiadau rhyngwladol wedi cael effaith mor ddwys ar fy mywyd ac rwy’n hynod gyffrous i fod yn rhan o WCIA nawr, a rhannu fy nghariad at wirfoddoli gydag eraill wrth weithio gyda thîm mor wych.

Cyflwyno Ffion Fielding fel
Rheolwr Prosiect i Brosiect Hawlio Heddwch, Deiseb Menywod Cymru


Mae Ffion Fielding wedi gweithio yn y sector amgueddfeydd a threftadaeth yng Nghymru ers dros20 mlynedd, gan ddechrau ei gyrfa fel swyddog dysgu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Maeganddi gymhwyster TAR mewn addysg ôl-orfodol, ac mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar addysgoedolion a chymunedol, gan weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau. Yn 2014 symudodd i swydd fel cydlynydd prosiectau ‘Cymru’n Cofio 1914-18’ yn sefydliadauAmgueddfa Cymru ac mewn partneriaethau cenedlaethol, ac yn 2015 ymunodd â WCIA am dair blynedd fel cydlynydd cymunedol ac arddangosfeydd gyda’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’. Yno bu’n gweithio gydag amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau ledled Cymru i gyd-gynhyrchu arddangosfeydd a chasglu treftadaeth heddwch gyfoethog Cymru gyda gwirfoddolwyr. Dyma hefyd lle y dechreuodd ymddiddori gyntaf yn stori’r Ddeiseb Heddwch. Mae’n ymuno ag Academi Heddwch o’i rôl bresennol fel rheolwr prosiect arddangosfeydd gydag Amgueddfa Cymru, lle mae hi’n rheoli arddangosfeydd ac arddangosiadau ar raddfa fawr a bach, gan gynnwys arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a’r strategaeth ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol, gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru. Yn ddiweddar cafodd ei secondio am
gyfnod i ddarparu cymorth ymgynghori a chynghori i uwch reolwyr ar y strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer yr Amgueddfa gan ymgynghori â staff, cymunedau a rhanddeiliaid eraill. Hi yw cynrychiolydd aelodau sefydliadau Cymru o Gymdeithas yr Amgueddfeydd, sef y corff cynghori ar
gyfer amgueddfeydd ledled y DU.

Sam staff

Sam Ward – Rheolwr Ymgyrchu Climate Cymru

Roedd gyrfa cynnar Sam yn canolbwyntio ar yr awyr agored, natur a phobl. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd Sam a rheoli cwmnïau a oedd yn arbenigo mewn hyfforddi, gan gael pobl allan i fyd natur ac i lawer o afonydd harddaf y Byd. Diweddodd Sam i fyny yn hyfforddi tîm cenedlaethol Prydain i ennill dros 30 o fedalau mewn cystadlaethau rhyngwladol, a chystadlu ei hun ar y lefel ryngwladol am nifer o flynyddoedd yn ei ddisgyblaeth ddewisol o gaiacio dŵr gwyn. Ochr yn ochr â’r cwmnïau hyn a’i hyfforddiant ei hun, mae Sam bob amser wedi bod yn rhan o gyfres o fentrau cymdeithasol, mentrau amgylcheddol, elusennau, digwyddiadau cymunedol ac ymgyrchoedd eiriolaeth amgylcheddol, ac mae wedi defnyddio ei gwmnïau arobryn fel grym er lles y cymunedau maen nhw’n gweithredu ynddynt. Wrth i’r argyfwng hinsawdd a natur ddod yn fwy canolog yng ngwaith Sam, bu’n gweithio fel ymgynghorydd cynaliadwyedd, a rheolwr rhaglen ar gyfer prosiectau amgylcheddol a chadwraeth, a Biodiversity Alliance elusen yn Uganda sy’n gweithio ar atebion dan arweiniad y gymuned i’r argyfwng bioamrywiaeth. Bellach, mae gartref yng Nghymru, mae wedi gwerthu ei gwmnïau, ac mae’n treulio ei holl oriau gwaith yn rhedeg Climate Cymru!

Mae ymgyrch Climate Cymru yn canolbwyntio ar weithredu ystyrlon a theg i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a bydd yn casglu lleisiau o bob ardal a demograffeg o gymdeithas yng Nghymru. Wrth i bartneriaid neu bobl gofrestru, maen nhw’n dweud wrth Climate Cymru beth sy’n bwysig iddyn nhw, a bydd yr ymatebion a dderbynnir yn llywio materion cyfathrebu ac eiriolaeth yr ymgyrch yn COP26 ac i gynghorau sir, llywodraethau Cymru a Phrydain. Yn y pen draw, pobl Cymru sy’n berchen ar y neges.

Vicky Court – Cydlynydd Taith

Ymunodd Vicky â UNA Exchange cyn iddo uno â WCIA i reoli ei rhaglenni European Solidarity Corps a phrosiectau gwirfoddoli rhyngwladol. Mae hi wedi bod yn ymwneud â hyrwyddo Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru o fewn y rhwydweithiau gwaith ieuenctid hefyd, ac mae hi bellach yn cydlynu’r rhaglen Taith newydd sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi cyfle i lawer o bobl ifanc gael cyfnewid dysgu rhyngwladol. Mae gan Vicky brofiad mewn rheoli prosiectau ar gyfer cyrff anllywodraethol rhyngwladol, ac mae hi’n brofiadol mewn gwirfoddoli rhyngwladol, ar ôl cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ei hun yn Ne Affrica, Bolivia, Brasil a Mongolia. Mae hi’n angerddol am alluogi pobl ifanc i archwilio gwahanol wledydd, diwylliannau, cymunedau a rhoi’r hyder iddynt fod yn ddinasyddion byd-eang mwy gweithgar.

I feel very privileged to work for an organisation like WCIA and particularly lucky to have been able to contribute to its different areas, whilst working with a truly collaborative and experienced team.  It is inspiring to be involved with an organisation that motivates and empowers people to make such a positive impact on the world.

Tom Weiser – Cydlynydd Allgymorth  

Tom outreach

Bydd Tom yn ymuno â thîm Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ym mis Mai 2022, a bydd yn gyfrifol am gynyddu ymgysylltiad â’r nifer sy’n manteisio ar y rhaglenni Gweithredu Byd-eang a Dysgu Byd-eang ar draws Cymru ar draws lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol.    Ar ôl astudio Hanes BA yng Ngholeg Prifysgol Llundain a chwblhau MA mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang, Hunaniaethau a Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Nottingham, mae gan Tom ddiddordeb mawr mewn cwestiynau byd-eang sy’n ymwneud â hunaniaeth, cynrychiolaeth a symudedd.  Ar ôl gweithio am sawl blwyddyn ym maes teithio antur rhyngwladol, a gweithio yn; Rwsia a’r CIS, Periw, Moroco, Romania a Czechia.  Mae Tom yn ymwybodol iawn o’r manteision a’r twf y gall dod i gysylltiad â diwylliannau, traddodiadau a chredoau amrywiol a rhyngweithio â nhw eu cyflwyno, ac mae’n angerddol am sicrhau bod eraill yn cael y cyfle i ymgysylltu gyda hyn a deall eu lle o fewn cyd-destun byd-eang.  

Clare James – Cydlynydd Taith Werdd ac Wythnos Fawr Werdd Climate Cymru

Mae Clare yn drefnydd brwdfrydig, sydd wrth ei bodd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, gan gynnwys rhwydwaith Llysgenhadon Climate Cymru ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennol a gwirfoddol, ar ôl gweithio cyn hynny i’r gwasanaethau cymdeithasol, a threulio 14 mlynedd yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol a digartrefedd, yn gweithio i sefydliadau gan gynnwys Llamau, Shelter Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru. Symudodd i Techniquest yn 2016, lle bu’n arwain y tîm cymunedau a chodi arian a’r ymgyrch ariannu, a sicrhaodd gyllid ar gyfer estyniad ac arddangosfa newydd, gan arallgyfeirio cynulleidfa.

Techniquest drwy fethodolegau cyfranogol a chydgynhyrchiol yn y broses. Mae hi wedi cydlynu sawl rhwydwaith gweithredu dros yr hinsawdd ar lawr gwlad ar draws Cymru, gan gynnwys y Fargen Newydd Werdd, Gwrthryfel Extinction Rebellion a’r Glymblaid Cyfiawnder Hinsawdd, ac mae’n eiriolwr mawr dros ddemocratiaeth ddeifiol ar gyfer pob lefel o lywodraeth. Yn ystod COP26, trefnodd Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang COP26 Caerdydd, gan ysgogi gwirfoddolwyr a grwpiau ar draws Cymru i dynnu sylw at gyfyngiadau’r broses COP, i ymgyrchu dros yr atebion mwyaf helaeth a radical at newid yn yr hinsawdd, ac i sicrhau nad yw’r trefnwyr swyddogol yn anghofio materion cyfiawnder hinsawdd. Mae Clare yn siarad mewn ysgolion ar ran Humanists UK, yn deithiwr brwd ac yn feiciwr ac yn gofleidwr newid. Ei hoff ddyfyniad yw “Insanity is doing the same thing over and over again and expecting different results.” er nad oes tystiolaeth sylweddol fod Albert Einstein erioed wedi dweud y geiriau hyn.

Mae Dr Bethan Siân Jones – Academi Heddwch Cymru fel Rheolwr Datblygu Prosiect

Mae Bethan yn wreiddiol o du allan i Bentyrch, ger Caerdydd. Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a Phrifysgol Aberystwyth. Graddiodd gyda BA mewn Hanes ac MA a PhD mewn Hanes Cymru. Roedd ei thraethawd PhD, ‘A Oes Heddwch: A Study of the Peace Movement in Wales during the 1980s’ yn dogfennu ac yn archwilio’r mudiad yn bennaf trwy ddefnyddio hanes llafar. Ers hynny mae hi wedi dysgu yn yr adrannau Hanes a Hanes Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth.

“Rwyf wrth fy modd ac yn gyffrous i fod yn ymuno â’r Academi Heddwch. Mae ymchwil, hanes a threftadaeth heddwch o ddiddordeb mawr i mi ac yn rhywbeth yr wyf yn angerddol amdano. Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at yr her.”

Anastasiia Haievska – Gwirfoddolwr ESC

Daeth Anastasiia o’r Wcráin yn 2022 fel gwirfoddolwr i weithio yn y tîm cyfathrebu. Mae hi’n astudio gwyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Taras Shevchenko, Kyiv, mae hi wedi cwblhau interniaethau ar Genhadaeth yr Wcráin i Gyngor Ewrop, ac mae hi’n Llysgennad yr Wcráin yn Nhwrci. Mae hi wedi gwirfoddoli hefyd mewn canolfan ieuenctid yn Nhwrci, ac wedi gweithio gyda ffoaduriaid o Syria ac Afghanistan. Mae hi wedi cymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau diplomataidd ac ieuenctid yn yr UE a’r Wcráin hefyd.

“I mi, mae gweithio gyda WCIA yn gyfle anhygoel. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm sy’n gweithio ar brosiectau mor wych sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Rwy’n falch o gyfrannu at y gwaith gwych hwn gyda thîm anhygoel WCIA, a gweithio gyda’r tîm cyfathrebu”

Mae’r Athro Colin McInnes – Academi Heddwch Cymru fel Arweinydd Rhwydwaith Ymchwil Ysgolheigaidd

Mae Colin McInnes yn ymuno ag Academi Heddwch Cymru wrth iddo orffen ei ddylestwyddau fel Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae ganddo gadair athrawol bersonol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Ymhlith y profiad eang sydd ganddo, mae cyfnodau yn Gadeirydd Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain; yn aelod o Fwrdd Ymchwil Strategol a Phwyllgor Cynghori Rhyngwladol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; yn aelod o grŵp arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd ar Ddiplomyddiaeth Iechyd Fyd-eang; ac yn Gyfarwyddwr Fforwm Ymchwil ar Ddiogelwch Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig. Yn 2014 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Comisiwn Cenedlaethol y DU (UKNC) ar gyfer UNESCO, gyda chyfrifoldeb arbennig am y Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol, ac fe’i penodwyd yn Gadeirydd ar y Comisiwn hwnnw yn 2019-22 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol. Cynrychiolodd y Deyrnas Unedig ar Fwrdd Gweithredol UNESCO ac ar ei Gomisiwn Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol. Yn 2019 roedd yn Ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd, gan ddatblygu eu fframwaith ar gyfer cydweithio sifil a milwrol mewn argyfyngau iechyd, ac mae’n parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliad. Ar hyn o bryd mae Colin yn aelod o sawl panel cynghori sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar Gysylltiadau Rhyngwladol ac mae’n aelod o amrywiaeth o fyrddau golygyddol. Bu’n cynghori Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu strategaeth iechyd rhyngwladol, ac yn cynghori Cyngor InterAction (grŵp o dros 40 o gyn Arlywyddion a Phrif Weinidogion) ar faterion iechyd byd-eang.

Mae Colin yn un o Gymrodyr Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Rhwng 2007 a 2018 ef oedd â Chadair UNESCO mewn HIV/AIDS a Diogelwch, ac yn 2017 derbyniodd y Wobr am Gyflawniad Arbennig yng Ngwobrau Ymchwil Cymdeithasol cyntaf Cymru, am ei ‘gyflawniad personol eithriadol ym maes ymchwil’.