Rydyn ni eisiau Cymru fyd-eang, lle mae pawb yma yn cyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon. Rydym yn ysbrydoli pobl i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang trwy dair rhaglen:
Dysgu Byd-eang
Hyrwyddo dysgu byd-eang i baratoi Cymru ar gyfer ein dyfodol a rennir
Rydym yn ysbrydoli diddordeb pobl mewn materion byd-eang ac yn datblygu eu dealltwriaeth o pam mae’r materion hyn yn berthnasol i fywydau pob un ohonom. Rydym yn meithrin sgiliau a hyder pobl i archwilio gwahanol safbwyntiau ac yna’n cymryd camau gwybodus. Yn y modd hwn, rydym am i bawb yng Nghymru deimlo y gallant wneud gwahaniaeth i’r heriau cyffredin hyn.
Gweithredu Byd-eang
Ysbrydoli gweithredu byd-eang mewn cymunedau a sefydliadau yng Nghymru
Rydym yn cefnogi cymunedau a sefydliadau i uno y tu ôl i weithredu byd-eang yng Nghymru. Mae hyn yn golygu rhoi ein harbenigedd a’n rhwydweithiau y tu ôl i ymgyrchoedd a gweithgareddau cartref, gan ddathlu eu cyflawniadau a chefnogi sefydliadau i fod yn fwy cyfrifol yn fyd-eang.
Partneriaethau Byd-eang
Adeiladau partneriaethau byd-eang sy’n cysylltu Cymru a’r byd
Rydym ni’n cefnogi partneriaethau byd-eang sy’n cryfhau Cymru fel cenedl sy’n edrych allan ar y byd a chenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.Rydym yn cefnogi cyfeillgarwch rhyngwladol a chydweithrediad ar y cyd, ac rydym yn cydlynu a chryfhau gweithgarwch datblygu rhyngwladol Cymru. Rydym am i bobl yng Nghymru ymfalchïo yn eu cysylltiadau â gweddill y byd ac i gael eu cydnabod am hynny.
Lansiwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ym 1973 fel Ymddiriedolaeth Elusennol, a daeth yn Sefydliad Corfforedig Elusennol ym 2014.