Mae Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith UNESCO (21 Chwefror) yn ein hannog i fyfyrio ar bwysigrwydd diogelu’r Gymraeg a’i thwf parhaus, yn ogystal â sut y gellir ei defnyddio i feithrin cysylltiadau tramor Cymreig.
Am y 23 mlynedd ddiwethaf, mae UNESCO wedi dathlu ei Ddiwrnod Rhyngwladol y Famiaith er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, parch y naill at y llall, a heddwch mewn ardaloedd o amrywiaeth ieithyddol, ac i hyrwyddo adfywiad ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Thema 24ain Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith UNESCO yw ‘addysg amlieithog- sy’n angenrheidiol i drawsnewid addysg’, gyda phwyslais arbennig ar addysg y blynyddoedd cynnar.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn esiampl y mae gwledydd eraill a llywodraethau datganoledig yn ymchwilio iddi er mwyn cynnal eu hieithoedd lleiafrifol yn well. Efallai mai’r enghraifft orau o hyn yw Llydaw, yn Ffrainc, y mae Llywodraeth Cymru yn mwynhau perthynas agos â nhw, ac mae Llydaweg, y mae’r Gymraeg nid yn unig yn rhannu tebygrwydd ieithyddol ond hefyd triniaeth hanesyddol gan ei lywodraeth genedlaethol.
Y Gymraeg, Llydaweg a’r Bygythiad o Ddiflaniad llwyr
Mae ymdrechion brenhinoedd Saesneg i ddileu hunaniaeth Gymreig gael gwared yn systematig ar y Gymraeg yn deillio’n ôl canrifoedd. Wrth basio’r Deddfau Uno yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, datganodd Harri’r VIII Cymru yn rhan gyfreithiol o Loegr. Roedd pob busnes swyddogol a gwasanaethau eglwys i’w cynnal yn Saesneg, wedi iddi gael ei datgan yn iaith swyddogol Cymru, gan gyfyngu’n ddifrifol ar gyfleoedd economaidd y rhai a siaradai Gymraeg yn unig.
Gan neidio ychydig o gannoedd o flynyddoedd ymlaen i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, priodolodd adroddiad a gomisiynwyd gan y senedd (a ymchwiliwyd gan dri bargyfreithiwr uniaith Saesneg) anghyfreithlondeb y Gymraeg, ac addysg wael i ddefnydd o’r Gymraeg, gan gyflwyno addysg drwy gyfrwng y Saesneg fel y datrysiad. Yn ystod y cyfnod hwn y tarddodd rhai o’r dulliau mwyaf adnabyddus o orfodi defnydd o’r Saesneg yn unig yn ysgolion Cymru, yn fwyaf nodedig y Welsh Not cywilyddus.
Ar draws y Môr Udd, mae Llydaweg wedi wynebu triniaeth debyg dros y canrifoedd. Yn ystod brenhiniaeth Ffrainc, er na dargedwyd Llydaweg yn benodol, roedd rhaid defnyddio Ffrangeg ar gyfer holl fusnes y llywodraeth. Yn dilyn y Chwyldro Ffrengig yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ceisiodd llywodraeth Ffrainc gael gwared ar holl dafodieithoedd rhanbarthol yn Ffrainc gan eu bod yn credu eu bod yn cael eu defnyddio i ecsbloetio gan bwerau monarchwyr i droi’r werin yn erbyn y llywodraeth. Cyfeiriwyd at yr ieithoedd rhanbarthol hyn gyda’i gilydd fel ‘patois’- term a oedd yn cario goblygiadau dosbarth cymdeithasol ia na siaradwr Ffrangeg, yn ogystal â diffyg tybiedig o addysg a diwylliant.
Yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif, defnyddiodd y wladwriaeth Ffrengig, y system addysg i gael gwared ar Lydaweg yn Ffrainc, yn union fel roedd llywodraeth Prydain yn ei wneud ar yr un pryd gyda’r Gymraeg. Roedd defnydd o Lydaweg yn yr ystafell ddosbarth ac iard yr ysgol wedi’i gwahardd dan yr esgus o ddatblygu un diwylliant cenedlaethol, ac mor hwyr ag 1960au, roedd plant ysgol a oedd yn siarad Llydaweg yn cael eu bychanu gan eu hathrawon am siarad eu mamiaith. Mewn modd sy’n debyg yn annaearol â’r Welsh Not, roedd plant a ddaliwyd yn siarad Llydaweg yn cael ‘y Symbol’ y gellir cael gwared arno yn unig drwy gyhuddo disgybl arall o siarad Llydaweg; byddai’r plentyn a oedd yn gwisgo’r ‘Symbol’ ar ddiwedd y diwrnod yn cael ei gosbi. Gwaharddwyd Llydaweg yn yr un modd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif gan Weinyddiaeth Cartref ac Addoli gyda chyflogau offeiriaid a oedd yn gwrthod cydymffurfio yn cael eu hatal. O ganlyniad, gostyngodd nifer y bobl a oedd yn siarad Llydaweg yn Ffrainc o oddeutu miliwn yn 1950 i tua 200,000 erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain, gyda’r mwyafrif ohonynt dros 60 oed.
Cymru: Glasbrint ar gyfer Llwyddiant ?
Yn rhyngwladol, cyfeirir at Gymru fel stori lwyddiannus o bobl yn gweithio i ddiogelu eu hiaith dan fygythiad; mae erthygl CNN a ysgrifennwyd yn 2019 yn hawlio mewn brwydr i achub eu hiaith, y creodd y Cymry lasbrint y gallai eraill wneud yr un fath gydag o. Mae hyn yn bendant yn wir i raddau; gwrthsafodd ymdrechion cyson ac unedig i gael gwared arni, a chododd o’r ugeinfed ganrif yn gryfach nag oedd wedi bod ers peth amser, a gyda lefel o gydnabyddiaeth nad oedd wedi’i mwynhau o’r blaen. Yn 1993, pasiwyd deddf a oedd yn rhoi’r un statws i’r Gymraeg â’r Saesneg o ran ei defnydd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal â hyn, mae sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, annog gwersi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a gwasanaethau megis S4C wedi bod yn allweddol hefyd i adfywio’r Gymraeg.
Yng Nghymru, er hynny mae nifer yn dal i gwestiynu i ba raddau y mae ymdrechion i amddiffyn y Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus. Ym mis Ionawr, bu i gannoedd o brotestwyr gasglu yng Nghaerfyrddin yn galw am fwy o weithredu gan y llywodraeth i amddiffyn y Gymraeg. Yn 2014, dywedodd Heini Gruffudd, ymgyrchydd, yn siarad mewn darlith yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, fod ymgyrchwyr dros y 50 mlynedd ddiwethaf wedi cael eu gwrthdynnu gan “fuddugoliaethau hawdd” megis hawliau iaith yn hytrach na chanolbwyntio ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a gofynnod am fwy o weithredu rhagweithiol gan y llywodraeth i amddiffyn y Gymraeg. Mae data’r Cyfrifiad yn dangos er bod ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus ers 1980au, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 yn is nag oedd yn 2001, ac yn is eto yn 2021.
Mae gan lywodraeth Cymru amcan o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn unol â phwyslais UNESCO ar addysg amlieithog, mae’r sector addysg yn un o’r prif feysydd fydd yn cael ei dargedu er mwyn gwneud hyn; mae llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 23 o ysgolion cynradd Cymraeg ar draws Cymru yn y 10 mlynedd nesaf, er enghraifft, a darparu £3.8miliwn ar gyfer ysgolion a gwasanaethau gofal plant eraill i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg drwy raglenni megis clybiau ar ôl ysgol a gwersi Cymraeg i athrawon. Yn hanesyddol, mae datblygiadau mewn addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn hanfodol wrth hyrwyddo’r Gymraeg ymysg y genhedlaeth iau; ni agorodd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd tan 1978. Heddiw, mae Caerdydd yn gartref i dair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a phymtheg ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, sydd heb amheuaeth wedi cyfrannu’n sylweddol at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ers yr 1980au.
Pwysigrwydd Cydweithredu Rhyngwladol
Yng Nghymru a Llydaw, mae arian wedi bod yn fater allweddol o ran cynnal yr ieithoedd dan sylw. Yn 2021, dechreuodd ymgyrchwyr Llydaweg ddeiseb yn gofyn am yr un arian gael ei roi i Lydaw i gefnogi adfywiad Llydaweg â Chymru, y maent yn hawlio sydd ag ugain gwaith yn fwy o arian yn flynyddol i gefnogi’r Gymraeg, ar gyfer poblogaeth o faint tebyg iawn. Mewn ateb i brotestiadau ynglŷn â’r posibilrwydd o doriadau mewn cyllid yr un flwyddyn, pasiodd llywodraeth Ffrainc ddeddf yn cynyddu arian ar gyfer ysgolion cyfrwng iaith ranbarthol mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad yr ieithoedd hyn i dreftadaeth Ffrainc. Er gwaethaf y canlyniad positif, mae anghenraid yr ymgyrch yn ymladd dros oroesiad Llydaweg yn dangos pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith UNESCO i godi ymwybyddiaeth am y frwydr y mae’r ieithoedd hyn yn ei wynebu, ac o rôl y mae system addysg amlieithog yn ei chwarae wrth gynnal ieithoedd sydd dan fygythiad.
Mae’r ymgyrch hefyd yn pwyntio tuag at lwybr posibl ar gyfer ymdrechion y dyfodol i amddiffyn yr ieithoedd hynny, sef i edrych allan tuag at y sffêr rhyngwladol, yn ogystal â’r tu mewn o fewn mamwlad yr iaith. Un enghraifft o hyn yn cael ei weithredu yw Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, sy’n dathlu diwylliannau a hanes y cenhedloedd Celtaidd drwy ganu a cherddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a chelf. Mae’r ŵyl yn flynyddol yn denu mwy na 750,000 o ymwelwyr a gwylwyr o ar draws y byd, gan ddenu sylw sylweddol yn y wasg, ac mae’n ffordd amhrisiadwy y gall pobl ddod at ei gilydd i rannu eu hieithoedd, celf, a thraddodiadau diwylliannol. Mae digwyddiadau megis Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn darparu cyfle i genhedloedd Celtaidd ddangos eu mamiaith i’r byd drwy’r celfyddydau, ond hefyd yn hwyluso perthnasau agosach rhwng y gwledydd sy’n rhan; yn 2018, cyhoeddwyd Cymru “la nation invitée” – y wlad anrhydeddus- ac yna bu i’r prif weinidog bryd hynny, Carwyn Jones fynychu’r ŵyl. Yn ystod yr un flwyddyn, bu i gynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a Llydaw adnewyddu eu Memorandwm Dealltwriaeth, gan addo i ddilyn prosiectau sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda’i gilydd ac i ddathlu eu treftadaeth ddiwylliannol a rennir.
Er nad yw hwn yn lasbrint o bell ffordd ar gyfer cynnal ieithoedd yn barhaus megis Cymraeg a Llydaweg, mae’n pwyntio tuag at bosibilrwydd real iawn o helpu i gynnal yr ieithoedd hyn drwy gydweithredu rhyngwladol. Mae derbyniad diweddar Netflix o ddrama Gymraeg Dal y Mellt yn dangos bod potensial i famieithoedd lleiafrifol gael amlygiad rhyngwladol eang pan maent yn cael eu rhoi ar y platform cywir, gan greu ymwybyddiaeth a diddordeb yn yr iaith sydd dan fygythiad.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Mamieithoedd UNESCO yn ein hatgoffa fel y gwnaed ymdrech bwriadol i gael gwared ar ieithoedd megis Cymraeg a Llydaweg yn y canrifoedd a fu, mae’n rhaid gwneud ymdrech bwriadol heddiw er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi am genedlaethau i ddod. Mae’n ymddangos bod angen i’r frwydr nid yn unig i gynnal defnydd ieithoedd sydd dan fygythiad ond hefyd ehangu eu defnydd megis Cymraeg a Llydaweg ddigwydd mewn dwy ffordd: gartref yn yr ystafell ddosbarth, a thramor, drwy’r celfyddydau.
Erthygl gan Ethan Evans.
Ffynonellau:
https://www.un.org/en/observances/mother-language-day
https://www.tcs.cymru/wp-content/uploads/2019/09/welsh-timeline.pdf