Wythnos 3, #DyddiadurAnnie100, ‘Cinio Biltmore’ – Deiseb Heddwch Menywod Cymru a gyflwynwyd 100 mlynedd yn ôl #OTD 19 Chwefror 1924

100 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon, cyflwynwyd Deiseb Heddwch Menywod Cymru mewn ‘cinio mawreddog’ yn Efrog Newydd i Fenywod America – gyda’i 390,296 o lofnodion o bob rhan o Gymru yn apelio, ‘o aelwyd i aelwyd, ac o galon i galon,’ i 9 miliwn o fenywod ar draws yr Unol Daleithiau i “drosglwyddo i’r cenedlaethau sy’n dod ar ein hôl,  treftadaeth balch o fyd heb ryfel.”

Cinio Apêl Menywod Cymru yng Ngwesty’r Biltmore, Efrog Newydd, 19 Chwefror 1924

“thus ended one chapter in the history of the Memorial – It was a truly thrilling gathering and one which in our wildest flights of imagination, we had never thought of on such a comprehensive scale.”

Dyddiadur Annie Hughes Griffiths, 19 Chwefror 1924

Facebook #AryDyddHwn – 19 February 2024, Efrog Newydd

Twitter #AryDyddHwn – 19 Chwefror 2024, Efrog Newydd

Cofnodion o Ddyddiadur Annie o’r wythnos 19 Chwefror 1924

Treuliodd Dirprwyaeth Heddwch Menywod Cymru, sef Annie Hughes Griffiths, Elined Prys a Mary Ellis eu hwythnos gyntaf yn America gyda llwythi o ymgysylltiadau, gan gwrdd â ‘symudwyr ac ysgogwyr’ Mudiadau Menywod America a chymdeithas uchel Efrog Newydd. Dyma oedd ffrwyth llawer o waith y tu ôl i’r llenni gan Mary Ellis’ (a oedd wedi teithio i Efrog Newydd ym mis Rhagfyr, cyn y ddirprwyaeth) i baratoi ar gyfer y ‘diwrnod mawr’ ar 19 Chwefror 1924 pan fuasent – yng Ngwesty’r Biltmore yn Efrog Newydd – yn cyflwyno #DeisebHeddwchMenywod Cymru a’i 390,296 o lofnodwyr, i fenywod America.

  • Dyddiadur Annie, Dydd Llun 11 Chwefror 1924 (tudalen 10 PCW) – diwedd y Daith Trawsatlantig ar SS Cedric
  • Dydd Llun 11 Chwefror  1924, Tudalen 10 – Cyrraedd Efrog Newydd, Clwb Prifysgol y Menywod: Cyfarfod Belle Barouch a Florence Tuttle
  • Dydd Mawrth 12 Chwefror 1924, Tudalen 11 a Tudalen 12 – Bord Gron Hanes Efrog Newydd; Cyfarfod Harriet Burton Laidlaw, Hilary Taft a Mrs Douglas Robinson
  • Dydd Mercher 13 Chwef 1924, Tudalen 13 – Te gyda Theulu’r Crolys
  • Dydd Iau 14 Chwef 1924, Tudalen 14 – Clwb Undeb Siaradwyr Saesneg
  • Dydd Gwener 15 Chwef 1924, Tudalen 15 – Cinio Neuadd y Dref; cyfarfod Mrs Damrosch
  • Dydd Sadwrn 16 Chwef 1924, Tudalen 16 – Cinio’r Gymdeithas Dramor + Ruth Morgan, Charles Levermore
  • Dydd Sul 17 Chwef 1924 Tudalen 17 – Gwasanaeth Eglwys Sul gyda Harry Emerson Fosdick
  • Dydd Llun 18 Chwef 1924, Tudalen 18 – Cynghrair Pleidleiswyr y Menywod America

Dydd Mawrth 19 Chwefror 19 1924: Cinio’r Biltmore, yng Ngeiriau Annie

Edrychwch ar Dudalen 19, Tudalen 20,

“Telephoning & much excitement. To bank to get money for tickets – Changed £80 into dollars. Paid 269 dollars for round trip to California & back including sleepers. Then back to hotel got dressed for the Luncheon which was timed to begin at 1pm at Biltmore Hotel. Rather nervous about my speech.

Got there in fair time in Mrs Laidlaw’s car & met many people. Was photographed with the other three & Mrs Laidlaw, Mrs Ruth Morgan & Mrs Tuttle by the chest in the reception room. Went into the Dining Hall – The Cascade – & sat on Miss Ruth Morgan’s right-hand at the guest table.

After the luncheon we had speeches. Mrs Ruth Morgan introduced the delegation – & I them gave an address on the links that bind Wales & America together, & our act of memorial. It seemed to be appreciated.

Then we three went up to the chest which had been placed on a dais & padlocks were unlocked, & we gave up the padlocks & the memorial to Mrs Ruth Morgan. Then the chest was inspected and the first question I was asked concerning it was “Oes yma enwau o Sir Feirionydd” (“Are there names here from Merionethshire?” – present day Gwynedd)

Miss Sue Harvard sang Gwlad y Delyn & Hen Wlad fy Nhadau.”

Thus ended one chapter in the history of the Memorial. It was a truly thrilling gathering and one which in our wildest flights of imagination, we had never thought of on such a comprehensive scale.”

Gosod Erthyglau’r Wasg. Yn parhau y noson honno: Edrychwch ar Dudalen 21, Dudalen 22

Went along to 200 Fifth Avenue to see Mr Fairman to pay for our tickets, then back to Club in a taxi. Had tea there, & a talk with 2 German ladies who were great pacifists.

That evening Miss Baruch called for me at the (Womens University) Club in her car, & she and Mary Ellis & I went as far as a Hall & I broadcasted my address. They stayed in an adjoining room & said I did it well.

Back to the Club had dinner & packed in readiness for our departure on the morrow.”

Ymlaen i Washington

Y diwrnod canlynol, buasent yn gadael am Washington, am ail ‘ginio mawreddog’ gydag Arweinwyr Menywod yn America, ac ymweliad â’r Tŷ Gwyn – a fydd yn destun ein negeseuon #DeisebHeddwchMenywod #DyddiadurAnnie100 #AryDiwrnodHwn nesaf.

Bydd ein neges nesaf yn archwilio’r ymrwymiadau hyn – gan gwrdd â ‘symudwyr ac ysgogwyr’ cymdeithas uchel America ac Efrog Newydd, a gwaith Mary Ellis y tu ôl i’r llenni i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr ar 19 Chwefror 1924 pan fuasent – yng Ngwesty’r Biltmore yn Efrog Newydd – yn cyflwyno #DeisebHeddwchMenywod Cymru a’i 390,296 o lofnodwyr, i fenywod America

– – – – – – – – –

Twitter Thread

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *