Rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2024, bydd Academi Heddwch gyda WCIA yn ‘Trydaru o’r 1920au’ – drwy’r cyfryngau cymdeithasol (trwy Twitter/ X a Facebook), ac yn olrhain y camau yn ‘Nyddiadur Annie’, y llyfr du bach oedd yn cael ei gadw gan arweinydd dirprwyaeth Apêl Merched dros Heddwch Cymru, Annie Hughes Griffiths, wrth iddynt gychwyn ar eu ‘Taith Heddwch’ 2 fis o gwmpas yr Unol Daleithiau rhwng 2 Chwefror a 29 Mawrth 2024.
Bydd negeseuon byrion yn cael eu rhoi ar Twitter bob ychydig ddyddiau, yn adlewyrchu amserlen deithio uchelgeisiol ein Heddychwyr o gwmpas yr Unol Daleithiau ym 1924. Bydd negeseuon Facebook yn cynnig ‘uchafbwyntiau wedi’u curadu’ a themâu mwy manwl o bob wythnos o’r daith. Lle bo’n bosibl, bydd negeseuon yn cael eu dangos o ddeunyddiau archifol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y Deml Heddwch ac archifau ar-lein, naill ai trwy gyfrwng ffynhonnell agored, neu gyda chaniatâd hawlfraint. Diolch yn arbennig hefyd, i’r Teulu Kotschnig yn America, sydd wedi rhoi caniatâd drwy Heddwch Nain yr Unol Daleithiau i drawsgrifio a rhannu llythyrau gan Elined Prys, ychwanegiad cyfoethog i gofnod Annie o’r #Pererindod #Heddwch hwn.