Adroddiad Cyfarfod Cyntaf Sefydliadau Ymchwil Heddwch Ewrop

8-9 Medi 2022, Senedd Fflandrys, Brwsel

Nod

Yn 2022, aeth Sefydliad Heddwch Fflandrys ati i ddod â chynrychiolwyr o sefydliadau ymchwil Heddwch Ewrop ynghyd i drafod y tueddiadau a’r heriau presennol ar gyfer ymchwil heddwch, yn ogystal â sut mae modd i’r gwahanol sefydliadau atgyfnerthu gwaith ei gilydd a’r cyfleoedd i wneud y rhwydwaith o sefydliadau ymchwil heddwch Ewrop yn gryfach.

Yn bresennol

Cynrychiolwyd Academi Heddwch Cymru gan Jill Evans a Mererid Hopwood. Roedd cynrychiolwyr yn bresennol o:

Mae pob sefydliad heddwch a gynrychiolir yn unigryw o ran strwythur, cyllid a staffio. Cafwyd diweddariadau ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, a chytunwyd bod angen i ni fapio’r ymchwil heddwch sy’n cael ei wneud ledled Ewrop. Cytunwyd hefyd bod angen i’r rhwydwaith gael ei ymestyn y tu hwnt i Ewrop a chynnwys ymchwil annibynnol lle bo’n bosib. Roedd trafodaeth hefyd ar ystyr ymchwil heddwch.

Trafod Heddwch

Y consensws oedd bod y rhyfel yn Wcráin wedi ei gwneud yn anos i drafod heddwch yn gyffredinol. Yn gysylltiedig â hyn oedd y cynnydd mewn buddsoddiad mewn technoleg amddiffyn a milwrol. Felly, sut ydyn ni’n mynd ati i atgyfnerthu’r naratif o amgylch heddwch? Sut ydym yn ail-ddychmygu heddwch?

Dyfodol y Rhwydwaith: Cynhadledd 2023 

Cytunwyd i gynnal cynhadledd ym mis Mai 2023 i drafod natur ymchwil heddwch a sut fyddai modd rhannu a lledaenu’r wybodaeth ymysg ein gilydd (sefydliadau heddwch) a gydag ymgyrchwyr. Bwriadwyd cynnal cyfres o ddadleuon thematig, a sylweddolom ei bod yn hanfodol cynnwys pobl ifanc.

Cynhelir “Ail-ddychmygu Heddwch: Agendâu newydd ar gyfer ymchwil a pholisi mewn cyfnodau o wrthdaro” ym Mrwsel ar 8 a 9 Mai 2023, a gyflwynir eto gan Sefydliad Heddwch Fflandrys. 

Cyfarfod yn Nhŷ Cymru

Yn dilyn y cyfarfod rhwydwaith cawsom gwrdd â Catherine Marston yn Nhŷ Cymru i rannu gwybodaeth ynglŷn â gwaith yr Academi Heddwch. Trafodwyd y posibilrwydd o drefnu digwyddiad yn Nhŷ Cymru ynghylch cyfarfod y Sefydliadau Heddwch. Bydd Cyfarwyddwr Sefydliad Heddwch Fflandrys yn derbyn gwahoddiad i ddigwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel.  

Adroddiad gan Jill Evans.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *