Cymru fel Cenedl Heddwch
Medi 21 2024, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch
Mae dychmygu Cymru a byd lle mae heddwch yn teyrnasu yn fwy na dychmygu absenoldeb rhyfel. Yn hytrach, mae’n galw am ddychmygu byd lle mae pawb yn byw yn rhydd o fraw ac ofn, lle mae hawliau pawb yn cael eu parchu a lle mae pawb yn gyfartal. Mae’n galw am ddychmygu perthynas rhwng pobl â’i gilydd – rhwng cymydog a chymydog, dieithryn a dieithryn, cymuned a chymuned, gwlad a gwlad – fel perthynas sydd wedi ei seilio ar gyfiawnder a thegwch. Beth pe gallem ni hawlio bod y math hwn o heddwch cadarnhaol yn rhan o’n hunaniaeth genedlaethol, yn beiriant sy’n gyrru’r popeth a wnawn?
Wrth edrych ymlaen at Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig i’r Dyfodol, digwyddiad cydweithio byd-eang a gynhelir yn Efrog Newydd y penwythnos hwn, mae Academi Heddwch Cymru wedi bod yn gweithio ar bapur sy’n archwilio’r syniad o Gymru fel Cenedl Heddwch. Beth am ddychmygu hynny?
Mae’r papur yn cadarnhau bod pobl Cymru dro ar ôl tro wedi ymgymryd â mentrau arloesol, a hynny weithiau ar lwyfan byd-eang, i hyrwyddo heddwch. Er enghraifft, ym 1923 cymerodd merched Cymru ran mewn apêl ryfeddol. Aeth 390,296 o fenywod ati i lofnodi deiseb heddwch yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd. Wedi eu hysgwyd gan alar yn dilyn erchyllterau’r rhyfel byd cyntaf, drwy dorri eu henwau, chwaraeodd y menywod penderfynol hyn, yn y pen draw, ran yn sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.
Sut gallwn ni adeiladu ar yr etifeddiaeth falch hon o greu heddwch yng Nghymru? Sut gall Cymru feithrin cyd-drafod fel ffordd o fyw, lle mae pobl yn ceisio cydweithio yn hytrach na gwrthdaro? Pa fath o drywyddau y byddai angen i Gymru eu hadeiladu er mwyn dod yn Genedl Heddwch? A sut mae cyrraedd yno?
A ninnau’n wynebu cyfnod o wrthdaro byd-eang cynyddol, gyda rhaniadau’n dyfnhau ac argyfyngau’n lluosogi, gall heddwch ymddangos yn freuddwyd rhy anodd ei gwireddu, a gall gobaith fod yn rhywbeth rhy hawdd ei golli. Ond gallwn oll gyfrannu at ddiwylliant o heddwch, fel y mae cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr heddwch ifanc wedi ei bwysleisio. Drwy Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, mae’r bobl ifanc hyn wedi dangos i ni mai ‘Gweithred yw Gobaith’. Maen nhw’n gwybod bod yn rhaid atal erchyllterau, rhyfeloedd a thrais, ac yn gwybod hefyd mai grymoedd cydweithio, cydymdeimlo a gobaith yw’r rhai a all arwain at ddyfodol gwell a heddychlon.
Mae Medi 21ain yn Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch, diwrnod sy’n ein hannog ni i gyd, led-led y byd, i ymrwymo i heddwch er gwaethaf pob rhaniad ac i weithredu i adeiladu diwylliant o heddwch. Mae eleni’n nodi 25 mlynedd ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu’r Datganiad a’r Rhaglen Weithredu ar Ddiwylliant Heddwch. Roedd y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod bod heddwch yn golygu ‘nid yn unig yn absenoldeb rhyfel’, ond ei fod yn galw hefyd am ‘broses gyfranogol gadarnhaol, ddeinamig lle mae cyd-drafod yn cael ei annog a gwrthdaro’n cael ei ddatrys mewn ysbryd o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad.’
Yn yr adroddiad sydd ar y gweill, ‘Cymru fel Cenedl Heddwch’, mae Academi Heddwch Cymru hefyd yn cydnabod hyn ac yn ystyried sut mae hyrwyddo heddwch yn hanfodol i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, deddfwriaeth sy’n ymgorffori mewn cyfraith rhai camau tuag at weithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.
Y penwythnos hwn byddwn ni’n edrych tuag at Uwchgynhadledd y Dyfodol i weld sut y bydd gwledydd o bob rhan o’r byd yn cydweithio i fynd i’r afael â heriau ein dyddiau ni ac adnewyddu eu hymrwymiad i roi’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ôl ar y trywydd iawn. Gan edrych ymlaen at yr Uwchgynhadledd, pwysleisiodd Philémon Yang, Llywydd 79ain sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yr angen i adfer ymddiriedaeth ac undod ymhlith cenhedloedd, gan ychwanegu bod pobl yn ‘chwilio’n daer am lygedyn o obaith’.
Yma yng Nghymru gadewch inni glywed lleisiau’r ymgyrchwyr heddwch oedd yn byw yma o’n blaenau yn atsain yng nghyngor doeth yr ymgyrchwyr heddwch ifanc sy’n byw yma nawr. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch gadewch i ni i gyd ymrwymo i feithrin diwylliant o heddwch yng Nghymru ac uno yn y weledigaeth o greu Cymru yn Genedl Heddwch.