
Croeso i gartref yr Academi Heddwch. Diben yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch, drwy ddatblygu a chydgysylltu cymuned o ymchwilwyr annibynnol mewn meysydd cysylltiedig. Bydd Academi Heddwch Cymru yn gweithio i sicrhau bod lle cadarn i heddwch ar agenda genedlaethol Cymru ac ar y llwyfan cenedlaethol, drwy gyfrwng y rhwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch sydd eisoes yn bodoli.
Pwy yw’r Academi Heddwch?
Llofnodwyr 2020: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – Cymdeithas Ddysgedig Cymru – y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prifysgol Aberystwyth – Prifysgol Bangor – Prifysgol Caerdydd – Prifysgol Metropolitan Caerdydd – Prifysgol De Cymru – Prifysgol Abertawe – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Gyda chefnogaeth cynrychiolaeth o’r Mudiad Heddwch yng Nghymru, Race Council Cymru, Urdd Gobaith Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Datblygiad yr Academi Heddwch
- Mae grwpiau cymdeithas sifil wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu Sefydliad neu Academi Heddwch er 2008. Gweler y cynnig gwreiddiol ar gyfer Sefydliad Heddwch i Gymru (yn Archifau CND Cymru).
- Yn 2013 cynhaliodd y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghoriad cyhoeddus i archwilio’r gefnogaeth i Sefydliad Heddwch yng Nghymru. Gweler Cofnodion y Pwyllgor Deisebau.
- Yn 2013 galwodd Jill Evans ASE ar Brif Weinidog Cymru i sicrhau bod ‘heddwch’ wrth galon Rhaglen Cymru i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweler erthygl Jill Evans yn Peace News.
- Yn 2015 gwnaed ymchwil Academi Heddwch / Menter Sefydliad Heddwch Cymru (yn adeiladu ar Adroddiad ‘Khaki Dragon’ gan Cymdeithas y Cymod) – a chyhoeddwyd adroddiad ganddynt ar bresenoldeb a dylanwad milwrol yng Nghymru, ‘Military Presence and Influence in Wales’ (awdur: Estella Benson). Lawrlwythch Grynodeb / Lawrlwythwch Adroddiad Llawn / Gweler datganiad i’r wasg Awst 2015.
Yn 2017 cynhaliodd Emily Forbes, gwirfoddolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, brosiect ymchwil gan fapio Sefydliadau heddwch ledled y byd. Gweler yr adroddiad llawn / gweler crynodeb o’r adroddiad / gweler y tabl cymharol / gweler dolenni cyswllt.