Cynhadledd Heddwch ac Iechyd
Ar Fawrth 31ain, 2022, cynhaliodd Academi Heddwch gynhadledd undydd (ar-lein) ar y thema Heddwch ac Iechyd. Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, denodd yr alwad am bapurau ar gyfer y digwyddiad hwn gyfraniadau a oedd yn archwilio heddwch ac iechyd trwy amrywiaeth o lensys.
Drwy gydol y dydd, trafododd y paneli heddwch ac iechyd yng nghyd-destun:
• cynllunio trefol
• cynllunio iaith
• peirianneg
• dŵr
• llesiant
• grwpiau sydd wedi eu gwthio i’r cyrion
• creadigrwydd
Yn y gynhadledd undydd hon, ystyriodd 7 panel a 14 o arbenigwyr – o beirianwyr i ieithyddion, o wyddonwyr i athronwyr – y pwnc o wahanol onglau. Ein prif siaradwyr oedd Yr Athro Rowan Williams (Cadeirydd Academi Heddwch Cymru), gyda Yr Athro Colin McInnes (Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth) a Dr. Hefin Jones (Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Addysg Israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd).