Yn 1923 – ar ôl i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ysgogi cenhedlaeth gyfan yn erbyn gwrthdaro – trefnodd merched o Gymru ymgyrch heb ei hail dros heddwch rhyngwladol. Arwyddodd 390,296 o ferched ddeiseb drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (a nodwyd yn y wasg i fod dros 7 milltir o hyd), yn galw ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd newydd – yn galw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’.
Bydd 2023-24 yn nodi canmlwyddiant ymgyrch Deiseb Merched dros Heddwch – cyfle i ddathlu a myfyrio ar rôl menywod Cymru fel hyrwyddwyr heddwch y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.