COFIO’r Hanes y tu ôl i Apêl HeddwchMenywod Cymru 1923

Yn ystod y 1920au-30au arweiniodd PwyllgorMenywod Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru(WLNU) rywfaint o ymgyrchoedd ‘ysbrydoledig’ arHeddwch. Ar ôl i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntafysgogi cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro, ym 1923,trefnodd menywod Cymru apêl na welwyd ei thebygo’r blaen. Arwyddodd 390,296 o fenywod ddeisebGoffa yn apelio ar fenywod America ‘o gartref igartref’ ac ‘aelwyd i aelwyd’, i ymuno â nhw i alw am ‘GYFRAITH NID RHYFEL’: i’r Unol Daleithiauymuno ac arwain Cynghrair newydd y Cenhedloedd. Ysgogodd yr ymgyrch drefnwyr ym mhobcymuned ar draws Cymru, gyda menywod yn myndâ thaflenni o ddrws i ddrws ac yn dychwelyd i nôl y taflenni wedi’u llofnodi. Y tu ôl i bob llofnodwr, roedd straeon am golled, cariad a phenderfyniad i atalrhyfel rhag syrthio i genedlaethau’r dyfodol.

Ffilm fer (2.48) am hanes deiseb Heddwch MenywodCymru (gan Lywodraeth Cymru)

Goleuwyd Cofeb lledr hardd o Foroco gan Cecily West, a’i chreu trwy Ysgol Gelf a Chrefft Caerdyddi’w chyflwyno i ferched America; a chist dderw fawrwedi ei cherfio gan E J Hallam i gynnwys y taflennillofnodion ar eu mordaith ar draws yr Iwerydd – i’wgadael i’r Sefydliad Smithsonian yn Washington. Dywedodd gwasg Efrog Newydd bod y ddeisebderfynol a gyflwynwyd i ferched America dros milltir o hyd.

Roedd ymgyrch Heddwch Menywod 1923 ynymdrech wirioneddol ryfeddol ar draws Cymru, a oedd yn cynnwys bron pob cartref, trwy weithredwyrheddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gydachefnogaeth trefnwyr sir a chymunedol ‘y Gynghrair’. Teithiodd dirprwyaeth, dan arweiniad CadeiryddWLNU, Annie Hughes Griffiths, o Gymru iAmerica ym mis Mawrth 1924, ar ‘Daith Heddwch’ 2 fis o gwmpas yr Unol Daleithiau, gan adeiladucefnogaeth drwy sefydliadau menywodAmericanaidd sy’n cynnwys dros 60 miliwn o bobl. Cadwodd Annie ddyddiadur o’u teithiau, a gafoddei ailddarganfod yn ddiweddar, sy’n cynnig cipolwganhygoel ar y Daith Heddwch ac America yn y 1920au.

Ymunodd y naw rhwydwaith o Fenywod Americanaidd, y bu’r ddirprwyaeth Gymreig yn gweithio gyda nhw, iffurfio’r ‘Gynhadledd ar Achosi ac Osgoi Rhyfel’ yndilyn yr ymgyrch heddwch yng Nghymru – ac er gwaethafymynysiaeth America rhwng y rhyfeloedd byd, aethant yneu blaen i adeiladu cefnogaeth ar gyfer rhyngwladoldeb a arweiniodd yn y pen draw i rôl America yn arwain y Cenhedloedd Unedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd