Mae Ffion Fielding wedi gweithio yn y sector amgueddfeydd a threftadaeth yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, gan ddechrau ei gyrfa fel swyddog addysg yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Yn 2015 ymunodd â WCIA am dair blynedd fel cydlynydd cymunedol ac arddangosfeydd gyda’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’. Dyma lle y dechreuodd ymddiddori gyntaf yn stori’r Ddeiseb Heddwch. Mae’n ymuno ag Academi Heddwch o’i rôl fel rheolwr prosiect arddangosfeydd gydag Amgueddfa Cymru, lle roedd hi’n rheoli arddangosfeydd ac arddangosiadau ar raddfa fawr a bach, gan gynnwys arddangosfeydd teithiol a phresenoldeb Amgueddfa Cymru mewn digwyddiadau cenedlaethol. Hi yw cynrychiolydd aelodau Cymru o Gymdeithas yr Amgueddfeydd, sef y corff cynghori ar gyfer amgueddfeydd ledled y DU. | FfionFielding@wcia.org.uk | Ffion Fielding has worked in the museums and heritage sector in Wales for over 20 years, starting her career as a learning officer in St Fagans National Museum of History. In 2015 she joined WCIA for three years as community and exhibitions coordinator with the ‘Wales for Peace’ project. This is where she first became interested in the story of the Peace Petition She joins Academi Heddwch from her role as Exhibitions Project Manager with Amgueddfa Cymru, where she managed exhibitions and displays on a large and small scale, including touring exhibitions and the museum’s presence at national events. Until December 2023 she is the Welsh members’ representative for the Museums Association, the advisory and membership organisation for museums across the UK. |
Bu Jennifer Evans yn Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Amgueddfa Cymru. Ar hyn o bryd hi yw Swyddog Prosiect prosiect gwirfoddol yr archifau digidol, Crowd Cymru, ochr yn ochr â’i rôl newydd gyda Phrosiect Canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Yn falch o gael ei geni a’i magu yng Nghasnewydd gyda diddordebau mewn llên gwerin a hanes dechrau’r 20fed ganrif. | JenniferEvans@academiheddwch.cymru | Jennifer Evans was an Assistant Librarian in Amgueddfa Cymru. She is currently Project Officer for the digital archives volunteer project, Crowd Cymru, alongside her new role with the Welsh Women’s Peace Petition Centenary Project. Proud to be born and bred in Newport with interests in folklore and early 20th century history. JenniferEvans@academiheddwch.cymru |
Mae Siân Howys wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, a hi oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion. Mae gan Siân ddiddordeb gydol oes mewn materion cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a chydraddoldeb ac mae hi’n aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith. Mae Siân yn byw yn Aberystwyth ac mae ganddi wreiddiau cryf yng Nghwm Tawe lle cafodd ei magu. Cwblhaodd MA ym Mhrifysgol Bangor ar fywyd a gwaith TE Nicholas ( Niclas y Glais). | SianHowys@academiheddwch.cymru | Siân Howys has worked in the social care sector in Wales for over thirty years, and she was the Director of Social Services in Ceredigion. Siân has a lifelong interest in social justice, peace and equality issues and she is an active member of Cymdeithas yr Iaith (The Welsh Language Society). Siân lives in Aberystwyth and has strong roots in the Swansea Valley where she grew up and she completed an MA at Bangor University on the life and work of TE Nicholas (Niclas y Glais). |
Mae Lowri Kirkham wedi’i lleoli yn y Rhyl. Mae hi wedi gweithio ym maes treftadaeth a diwylliant ers sawl mlynedd, gan gysylltu cymunedau a grwpiau amrywiol â chanolfannau diwylliannol trwy brosiectau allgymorth. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cenedlaethol a lleol, ac yn ogystal â gweithio ar y prosiect mae hi’n cwblhau ei blwyddyn olaf o radd israddedig mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gyda’r Brifysgol Agored. | LowriJenkins@academiheddwch.cymru | Lowri Jenkins is from Rhigos near Aberdare and now lives in Cardiff. Lowri has worked in the Museum sector for 23 years – she has a history degree from Swansea University and MA from the University of South Wales. She became a qualified Archivist in 2013. Lowri is passionate about Women’s history. |
Mae Lowri Kirkham wedi’i lleoli yn y Rhyl. Mae hi wedi gweithio ym maes treftadaeth a diwylliant ers sawl mlynedd, gan gysylltu cymunedau a grwpiau amrywiol â chanolfannau diwylliannol trwy brosiectau allgymorth. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cenedlaethol a lleol, ac yn ogystal â gweithio ar y prosiect mae hi’n cwblhau ei blwyddyn olaf o radd israddedig mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gyda’r Brifysgol Agored. | LowriKirkham@academiheddwch.cymru | Lowri Kirkham is based in Rhyl. She has worked in heritage and culture for several years, connecting diverse communities and groups with cultural centres through outreach projects. She has worked on both national and local projects and in addition to working on the project she is completing her final year of an undergraduate degree in Childhood and Youth studies with the Open University. |
Tîm Dysgu Byd-Eang (WCIA) – Jane Harries, Sioned Cox a Amber Demetrius Mae Jane wedi bod yn ymgyrchydd heddwch a hawliau dynol ar hyd ei hoes. Mae Jane yn arbenigo mewn ieithoedd ac yn siarad Cymraeg yn rhugl; bu’n dysgu ac yn Bennaeth Adran Ieithoedd Modern yn Ysgol y Cymer yn Rhondda Cynon Taf, cyn treulio pum mlynedd fel Cynghorydd Addysg Cymru ar gyfer yr NSPCC, a saith mlynedd yn llywodraeth Cymru fel arweinydd hawliau plant a chyfranogiad pobl ifanc. Rôl Jane yw cyflwyno Strategaeth Ddysgu uchelgeisiol prosiect Cymru dros Heddwch – gan ddatblygu adnoddau cwricwlwm a dysgu dwyieithog; cyflwyno cynadleddau a digwyddiadau ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid a chymunedol; hwyluso rhwydweithio ac eiriolaeth ar Addysg Heddwch, ac yn y pen draw, sefydlu cynllun ‘Ysgolion Heddwch’ ar draws Cymru, cynllun a fydd yn arwain y byd. | JaneHarries@wcia.org.uk | Global Learning Team (WCIA) – Jane Harries, supported by Sioned Cox & Amber Demetrius. Jane has been a lifelong peace and human rights activist. Jane is a languages expert and fluent Welsh speaker; she taught and was Head of Dept for Modern Languages at Cymer school in RCT, prior to 5 years as Wales Education Advisor for the NSPCC, and 7 years in Welsh government as lead for children’s rights and young people’s participation. Jane’s role continues to deliver the ambitious Learning Strategy established through the Wales for Peace project over 2015-20 – developing bilingual teaching and curriculum resources; delivering conferences, networking and events for schools, youth & community groups; organising the annual Young Peacemakers Awards, and establishing a world-leading ‘Peace Schools’ scheme for Wales. |
Mae Craig wedi gweithio gyda WCIA ers 2015, gan arwain ‘prosiect Cymru dros Heddwch’ Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna parhau yn rhan-amser fel cydlynydd Treftadaeth ar gyfer y Deml Heddwch ac Iechyd a phrosiectau ehangach WCIA. Cyn hynny bu Craig yn gweithio ym maes datblygu rhyngwladol, i ddechrau gydag Oxfam Cymru fel Cydlynydd Ymgyrchoedd 2001-2007, ac yna fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhwydwaith Cysylltiadau Cymunedol Cymru Affrica WCVA. | CraigOwen@wcia.org.uk | Craig has worked with WCIA since 2015, heading the WW1 Centenary ‘Wales for Peace project’ and then continuing in a part-time capacity as Heritage coordinator for the Temple of Peace & Health and WCIA’s wider projects. Craig previously worked in international development, iniitally with Oxfam Cymru as Campaigns Coordinator 2001-2007, and then as Programme Manager for WCVA’s Wales Africa Community Links network. |
Oscar Seagar, Arweinydd Trawsgrifio (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) | Oscar Seagar, Transcription Lead (National Library of Wales) |