Mae archifau a chasgliadau treftadaeth y Deml Heddwch yn cynnwys:
- Cofnodion Digidol – dros 5,000 o ddogfennau digidol o’r Deml Heddwch a ‘stori’ Treftadaeth Heddwch Cymru, gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a gafodd eu digideiddio gan wirfoddolwyr rhwng 2014-19, a gellir eu gweld yn:
- Casgliad y Werin – cyfrif Cymru dros Heddwch
- Sianel Flickr Cymru dros Heddwch
- Mae dolenni i YouTube, Soundcloud ac adnoddau cyfryngau cymdeithasol eraill ar gael ar ein tudalen Archifau a Chasgliadau Digidol.
- Eitemau ac arteffactau sydd wedi’u harddangos o amgylch yr adeilad. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cynnig Teithiau Tywys o’r Deml bob mis sy’n archwilio hanes y gofadail genedlaethol ryfeddol yma, a’r mudiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan ei chenhadaeth i adeiladu byd gwell.
- Mae Llyfrgell Siambr y Cyngor yn cynnwys casgliad personol yr Arglwydd David Davies o lyfrau ac ysgrifau gwreiddiol ar heddwch a rhyngwladoldeb dros y
150 mlynedd diwethaf, yn ogystal â nifer o gasys arddangos gan gynnwys Deiseb Heddwch Merched Cymru i America o 1923-4. Mae hefyd casgliadau llyfrau a chyfeirnodau gan fudiadau sydd wedi’u lleoli yn y Deml o 1938 hyd heddiw ar gael, gan gynnwys Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, y Cenhedloedd Unedig, a Gwirfoddoli Ieuenctid Rhyngwladol. - Nid yw Archifau’r Deml, sydd wedi’u storio yn atig yr adeilad, ar agor i’r cyhoedd – ond o hydref 2019 ymlaen, rydyn ni’n gobeithio cynnig cyfle i ymchwilwyr ofyn am eitemau i’w gweld drwy apwyntiad (sgroliwch i lawr i weld y ‘catalog archifau’).
- Ystorfeydd Archifau. Caiff llawer o gofnodion hŷn y Deml Heddwch a’i fudiadau preswyl eu cadw yn Archifau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth (gweler isod am ragor o fanylion), yn Archifau Morgannwg ac yn rhai swyddfeydd cofnodion sirol eraill (gweler Archifau Cymru am restrau).

Mari Lowe, Archifydd y Deml Heddwch rhwng 2016 a 2018, yn paratoi un o’r arddangosfeydd archif ar gyfer Teml80
Trosolwg o Archifau a Chasgliadau’r Deml Heddwch
Yng ngwanwyn 2017, fe wnaeth Archifydd y Deml, Mari Lowe (sydd bellach yn gweithio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd), lunio Adroddiad Ymchwil manwl ar bob un o’r Archifau a’r Gwrthrychau Treftadaeth sydd yn y Deml Heddwch. Mae hwn yn adnodd amhrisiadwy er mwyn deall ehangder y deunyddiau sy’n cael eu cadw yng nghasgliadau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a nodi gwrthrychau posib sydd o ddiddordeb.
Mae’r mudiadau sydd wedi gweithio o’r Deml, y mae eu cofnodion i’w gweld yma, yn cynnwys:
- Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, 1922-45 – gan gynnwys Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol y Merched.
- Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru, 1910-48
- Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru, 1945-2015
- Y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd, 1945-2015
- Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol Cymru, 1950-73
- UNA Cyfnewid, 1973 hyd heddiw
- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, 1973 hyd heddiw
Y Llyfrgell Genedlaethol
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ystod eang o gasgliadau sy’n berthnasol i Dreftadaeth Heddwch Cymru – yn cynnwys llawer o’r cofnodion hŷn o’r Deml Heddwch, a chasgliadau gan ein sylfaenydd, yr Arglwydd David Davies o Landinam a’r Trefnydd cyntaf, Gwilym Davies, a gwnaed cyfraniadau sylweddol i’r Llyfrgell yn ystod y 1950au, 1960au, 1980au a 2012:
• Y Deml Heddwch – cofnodion Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru (106 o flychau)
• Papurau Arglwydd Davies o Landinam (180 o flychau, ymgyrchu dros Heddwch 1900-1944, y Deml Heddwch, Cynghrair y Cenhedloedd)
• Papurau Gwilym Davies (12 blwch, Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, yr Urdd, Neges Heddwch ac Ewyllys Da, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig)
• Papurau George M Ll Davies (10 blwch, Gwrthwynebiad Cydwybodol, ymgyrchu dros Heddwch, Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru, Cynghrair y Cenhedloedd a Chymdeithas y Cymod)
• Archifau CND Cymru (58 o flychau)
• Neges Heddwch ac Ewyllys Da (6 blwch)
• Archif Iain a Thalia Campbell (98 o flychau, ymgyrchu dros heddwch ar Gomin Greenham/CND)
• Cymdeithas y Cymod (6 blwch)
• Archif Heddwch Garrett-Jones
• Annie Hughes Griffiths, Cofeb Heddwch y Merched
• Syr Ben Bowen Thomas (6 blwch) ac UNESCO
• Henry Richard (28 cyfrol), ‘Apostl Heddwch’ a sylfaenydd y Gymdeithas Heddwch
• Rhwydwaith Heddwch Aberystwyth (5 blwch)
• Ann Pettitt – Dyddiaduron Greenham
Bu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chymru dros Heddwch hefyd yn ariannu prosiect rhwng UNA Cyfnewid a’r Urdd, i gynnwys gwirfoddolwyr o Gymru a gwirfoddolwyr rhyngwladol yn y gwaith o ddarganfod ‘gwersyll heddwch’ yn haf 2017 yn Aberystwyth, gan archwilio archifau yn y Llyfrgell Genedlaethol o ymatebion i’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan bobl ifanc ledled y byd rhwng yr 1920au a’r 1960au.
Catalog o Archif y Deml Heddwch, 2019
Cafodd archifau’r Deml, sydd wedi’u storio yn yr atig – dros 250 o flychau!
– eu catalogio yn ystod haf 2019 gan fyfyrwyr ymchwil, Rob Laker (Prifysgol Abertawe) ac Emily Franks (Prifysgol Caerdydd), ar gyfer mynediad chwiliadwy cychwynnol o hydref 2018 ymlaen. Y gobaith yw sicrhau cyllid ar gyfer y dyfodol er mwyn galluogi Archifau’r Deml i fod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd, a hynny drwy arbenigedd a chefnogaeth gan Dîm Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.
Bydd modd lawrlwytho Catalog o’r Archif ar ffurf taenlen Excel, wedi’i dagio ag ystod eang o opsiynau chwilio perthnasol; a’i grynhoi i’r categorïau canlynol:
- Materion Lleol / Ymgyrchoedd ac Ymgyrchu Cymunedol – cofnodion o weithgareddau cymunedol e.e. ymgyrchu, llywodraeth leol, mudiadau
- Y Deml Heddwch ac Iechyd – cofnodion am yr adeilad a’r mudiadau fu’n gweithio yma neu sy’n dal i weithio yma, gan gynnwys:
a) Undeb Cynghrair y Cenhedloedd a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA)
b) UNA Cymru, Cyngor Cenedlaethol Cymru UNA ac Ymddiriedolaeth Canolfan Gymraeg UNA
c) Hanes Gwirfoddoli Ieuenctid Rhyngwladol
ch) Hanes Addysg Ryngwladol - Addysg Datblygu
a) World Schools Debating Championships
b) CEWC – Council for Education in World Citizenship
c) Cyfanfyd
-
Cymorth Dyngarol a Datblygu Rhyngwladol
- Yr Undeb Ewropeaidd – Ymgysylltiad Cymru
- Cofnodion ariannol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, UNA, UNA Cyfnewid, y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd, Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru a mudiadau eraill sy’n gysylltiedig â’r Deml.
Trefnu Ymweliad ag Archifau’r Deml Heddwch
O hydref 2019 ymlaen, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio cynnig diwrnodau Drysau Agored a Theithiau o’r Deml yn rheolaidd ar ddydd Gwener olaf bob mis, a bydd staff neu wirfoddolwyr arbenigol Treftadaeth Heddwch a’r Deml ar gael i gynorthwyo ymwelwyr, cynnig mynediad i drin gwrthrychau, neu gynorthwyo ymchwilwyr i ddod o hyd i ffynonellau o gasgliadau’r Deml. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu ar dudalennau Digwyddiadau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Gallwn hefyd gynnig Gweithdai Archifau, Teithiau Tywys a Sgyrsiau wedi’u teilwra i grwpiau ar sail cyfraddau fesul diwrnod.
Anfonwch e-bost i cymrudrosheddwch@wcia.org.uk os hoffech drefnu ymweliad arbennig, trefnu gweithdy, gwneud cais am ddeunyddiau neu i ddarganfod mwy am gynnwys penodol Archifau’r Deml. Gan nad ydyn ni’n derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri mwyach, mae’n bosib y bydd angen i ni godi tâl am ymholiadau mwy trylwyr – ond byddwn bob amser yn ceisio bod o gymaint o gymorth ag y gallwn!