Celf Heddwch

Yn ystod 2014-19, drwy raglen Cymru dros Heddwch a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau celfyddydau creadigol gan ymgysylltu â chymunedau, ysgolion a grwpiau ieuenctid Cymru i archwilio ac ymateb i themâu Treftadaeth Heddwch Cymru. Roedd llawer o’r mentrau hyn yn drawsnewidiol o ran datblygu sgiliau, safbwyntiau a hyder cyfranogwyr, ond hefyd – drwy arddangosfeydd, digwyddiadau cyhoeddus a phroffil cyhoeddus / ar-lein – crëwyd argraff ddofn ar gynulleidfaoedd, gan gyrraedd degau o filoedd o bobl.

Mae’n bosib mai dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yw un o’r dulliau mwyaf pwerus i fynd i’r afael â materion sydd wrth wraidd ‘Calon Heddwch’, ac felly mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio parhau i adeiladu ar y record hon o weithio gydag artistiaid a grwpiau cymunedol i barhau i feithrin ‘Celf Heddwch’.