Author: Susie

Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Y mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn lansio Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc 2019. Anogwch eich disgyblion i gymryd rhan nawr!

A hoffech chi i’ch disgyblion gael cyfle i fynegi’u gweledigaeth a’u barn am heddwch yn greadigol ac i’w gwaith gael ei ddathlu mewn digwyddiad rhyngwladol yng Nghymru?

Y mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cydweithio ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i gynnal Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc yn ystod yr Eisteddfod ar Ddiwrnod Ieuenctid, 4 Gorffennaf lle bydd pobl ifanc yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni a derbyn tystysgrif a gwobr.

Ar 4 Gorffennaf bydd cyfle gan blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous ar y Maes a darganfod beth mae heddwch yn ei olygu iddyn nhw. Beth am ymweld â’r Eisteddfod am y dydd?

Felly, beth ddylwn i ei weud nawr?

A wnewch chi annog cymaint o ddisgyblion ag y bo modd i roi cais i mewn am wobr! Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau rhwng 5 a 25 blwydd oed gyflwyno cais o dan y gwahanol gategorïau, yn Saesneg neu yn Gymraeg. Sylwch nad yw’r gwaith yn gorfod bod yn rhywbeth newydd. Gall gynnwys prosiectau mae eich ysgol wedi bod yn gweithio arnynt – e.e. fel rhan o’r broses o ddod yn Ysgol Heddwch gyda’r WCIA.

Fodd bynnag, mae amser yn brin! Sylwch mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mai! Anfonwch geisiadau atom gan ddefnyddio’r ffurflen y gellir ei lawrlwytho o wefan yr Eisteddfod Ryngwladol.

Ydy Gofal Iechyd Cyffredinol yn Gynaliadwy?

Helen Stokes-Lampard

“Mae’n dibynnu beth ydych chi eisiau.” atebodd yr Athro Helen Stokes-Lampard, Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sy’n cynrychioli dros 50,000 o Feddygon Teulu, wrth siarad yn y Deml Heddwch ar 9 Ebrill mewn digwyddiad wedi’i noddi gan WCIA a Chymdeithas Ddysgedig Cymru fel rhan o gyfres o ddarlithoedd yn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Roedd yr Athro Stokes-Lampard yn eiriol dros y gwerth am arian o ran meithrin capasiti ar y lefel gofal iechyd sylfaenol pan ddaw’n fater o leihau marwolaethau. Defnyddiodd yr enghraifft o stôl deircoes: rhaid i ofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol gydbwyso. Mae unrhyw straen neu ddiffyg mewn un rhan yn effeithio ar y system gyfan.

Mae’r “Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal,” a ddaeth i rym gyntaf yn y 1970au, yn dal mewn grym heddiw: mae’r angen am ofal iechyd yn wrthdroadol gymesur â’r ansawdd a ddarperir. Hynny yw, mae pobl dlawd angen gofal iechyd da ond ar y cyfan, ansawdd gwael sydd yn cael ei ddarparu. Mae ychwanegu grymoedd y farchnad at ddarpariaeth gofal iechyd yn gwneud hyn yn waeth. Defnyddiodd yr Athro Stokes Lampard luniau hefyd o’r math o gymysgeddau ariannu a ddefnyddir gan wahanol wledydd gan nad oes dim, hyd yn oed y GIG, yn defnyddio arian cyhoeddus yn unig – mae pob un yn defnyddio rhyw fath o swm atodol ar ffurf ffioedd. Mae’r anghydraddoldebau mwyaf ym maes yswiriant preifat mewn gofal iechyd, sy’n arwain at ofal iechyd yn cael ei wrthod i’r bobl fwyaf agored i niwed. Disgrifiodd Linnet Mesuoh, myfyrwraig meddygaeth blwyddyn 2, y ddarlith fel “hynod ddiddorol a mewnweledol.”

Rownd Derfynol Gyffrous ar gyfer y Bencampwriaeth Dadlau

Debating

Roedd yr ystod gyffrous o ddadleuon ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru yn cynnwys ffeministiaeth, babanod wedi’u haddasu’n enetig, rôl amddifadedd cymdeithasol o ran achosi trosedd, gwahardd perfformwyr sy’n blant, a chodi tâl ar bobl am driniaeth ar gyfer materion iechyd sy’n gysylltiedig â dewisiadau ffordd o fyw. Cystadlodd myfyrwyr talentog o bum ysgol i geisio ennill y cystadlaethau siaradwr unigol a’r tîm buddugol yn y Pencampwriaethau.

Enillwyd y gystadleuaeth tîm gan Dagmawi Yosief a Restam Ehmo Agha o Ysgol Howell’s, a daeth Sophia Wallo a Gethin Jones o Goleg Menai yn ail. Llwyddodd y ddau dîm i fynd trwy rowndiau cynderfynol caled iawn yn y bore, lle cafwyd perfformiadau cryf iawn gan dimau o Goleg Chweched Dosbarth Caerdydd ac Ysgol Dyffryn Aman.

Meddai Arianne Banks, a enillodd y gystadleuaeth siaradwr unigol; ‘Dwi wir wedi mwynhau siarad yn Siambr y Cyngor yn y Deml Heddwch. Mae dadlau wedi rhoi sgiliau bywyd i mi a fydd yn werthfawr yn y dyfodol.”

Mae’r holl gyfranogwyr yn mwynhau’r elfen gystadleuol i’r steil hwn o ddadlau, er bod Dag, aelod o’r tîm buddugol wedi dweud, “mae’n straen, ac rwy’n aml yn meddwl ar ôl cystadleuaeth, dyna fy un olaf, ac yna, rwy’n dod nôl am fwy.”

Mae WCIA, sy’n cael cymorth ariannol hirsefydlog gan Sefydliad Hodge, wedi rhedeg y gystadleuaeth ers blynyddoedd lawer. Y nod yw sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i gynifer o ysgolion â phosibl. Bydd dyddiadau hyfforddiant a chystadleuaeth y flwyddyn nesaf ar gael yn fuan.

The Strong Bond of friendship between Wales and Italy will survive Brexit

By WCIA Volunteer Morgane Dirion

Highlighting the “long friendship” and “strong bond” between Wales and Italy, Deputy Presiding Officer Ann Jones introduced Raffaele Trombetta, Italian ambassador to the UK. the event, on 11th February 2019 at the Pierhead Building, Cardiff Bay, was hosted by the Wales Governance Centre, Cardiff University.

Initially, addressing Brexit and Italy, Trombetta said “it is time and it is important that people know more” about Italy, such as the thousands of innovative start-ups flourishing there or its competitive machinery industry.

After explaining what a “significant contribution to Welsh life” the Italian community had brought, he moved to the main point of his speech. He explained that the negotiation phase of Brexit, so far, had had no effect on the bilateral trade between the two countries. He said it was important to respect the decision made in June 2016 but that, however, he was and would always be a “committed member” of a united Europe and that anything that potentially has a negative effect on trade would be of concern. He clearly said that the worst scenario we could be faced with today was a no-deal Brexit.

Trombetta also answered dozens of questions from his audience – a mix of concerned UK and Italian citizens and Politics students. Questions included: his perception of Wales; the meaning of a no-deal Brexit for Italy; concerns about dual citizenship or the benefits of the European Union for disadvantaged people.

He made sure to emphasize once again the importance of Italian projects in Wales and the need to find new ways to keep building the relationship between the two countries.
Trombetta said that he wished there was no talk about a post-Brexit Europe but as it was something that, in today’s political climate, cannot be avoided, he stressed the importance of the Union as an architect of peace. The next European elections will be decisive, he admitted. These elections will not be some kind of test of national governments but a true chance to focus on the structure of Europe, to allow a constructive debate about the very nature of the Union and to try to take a position on deeper integration or a looser union.

Mae croeso i chi!

Gan Wirfoddolwr WCIA, Teresa Morandini

“Mae croeso i chi”, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn nigwyddiad Coffáu’r Holocost, “Rhwygo o’u Cartref” yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr 2019.

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Sefydliad Josef Herman a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn myfyrio ar golli lle diogel o ganlyniad i erledigaeth a hil-laddiad, a’r angen am loches.
Ychwanegodd Eluned Morgan: “Yn gyffredinol mae pobl eisiau aros gartref. Os ydynt wedi ffoi o rywle, bydd ganddynt reswm da am wneud hynny.” Er mwyn teimlo bod croeso iddynt mae pawb angen help i integreiddio.

Mae stori’r arlunydd Josef Herman yn bwysig oherwydd y croeso a gafodd a’r cyfraniad a wnaeth wrth rannu bywyd Cymreig gyda’r byd drwy ei gelf: “Dim ond rhywun o’r tu allan a allai ein helpu i ddeall pwy ydym ni”.

Ganwyd Josef Herman ym 1911 i deulu Iddewig yn Warsaw, lle mynychodd yr Ysgol Gelf. Fodd bynnag, ar ôl 1938, gorfodwyd Josef i adael Gwlad Pwyl oherwydd Gwrth-Semitiaeth. Ym 1942, roedd Herman yn gweithio yng Nglasgow pan ddysgodd drwy’r Groes Goch fod ei deulu cyfan wedi marw yn Geto Warsaw. Ym 1944, pan oedd yn teithio yng Nghymru, cafodd gwaith celf Herman ei ddylanwadu gan ymweliad ag Ystradgynlais, tref lofaol yn ne Cymru, a drodd yn gartref iddo am 11 mlynedd. Mewn cyfnod byr, trodd yn wyneb cyfarwydd yn y gymuned a roddodd y ffug enw annwyl “Joe Bach” iddo. Canfu “gartref ymhell o adref”.

Ers cyfnod Herman, mae Ystradgynlais wedi bod yn noddfa. Roedd yn un o’r llefydd cyntaf i dderbyn ffoaduriaid o Syria. Yn ystod y noson dangoswyd tair ffilm fer a gefnogwyd gan Sefydliad Josef Herman , i gysylltu’r gorffennol â’r presennol. Crëwyd yr animeiddiadau drwy brosiect ar y cyd rhwng ysgolion lleol yn Ystradgynlais, teulu o ffoaduriaid o Syria, yr actor Michael Sheen, Y Neuadd Les, Ystradgynlais, Ffilm Cymru a’r cwmni animeiddio wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Winding Snake. Clywodd y gynulleidfa hefyd straeon personol ffoaduriaid, sydd bellach yn byw yng Nghymru.

Dywedodd Joseff, ceisiwr lloches o Côte d’Ivoire, sydd bellach yn siaradwr Cymraeg: “mae dysgu’r Gymraeg wedi bod yn help i deimlo’n rhan o’r gymuned, i gwrdd â phobl eraill ac, yn bwysicach, i deimlo bod croeso yma”. Roedd ei araith gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, a dderbyniodd gryn gymeradwyaeth. Anogodd Joseff, sydd yn ei 40au i ffoaduriaid eraill edrych ar Gymru fel cartref newydd, dechrau newydd yn rhydd o drais ac erledigaeth. Siaradodd Gareth Morgan yn frwdfrydig am hanes tîm pêl-droed lleol yn Nhongwynlais sydd nid yn unig wedi llwyddo ar y cae pêl-droed, ond sydd hefyd wedi mwynhau cyfeillgarwch hir oes ers gwahodd grŵp o geiswyr lloches i ymuno â’r tîm. Rhannodd ceiswyr lloches a ffoaduriaid eraill eu straeon o gael trafferthion â’r system loches, gwahaniaethu ar brydiau, ond hefyd straeon o groeso wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru. Yn olaf, chwaraeodd y sielydd, Rosie Biss, ddarn teimladwy gan Bach wrth i’r gynulleidfa fyfyrio ar y straeon a rannwyd a sut y mae Cymru yn gweithio tuag at ddod yn Genedl Noddfa.

Cytunodd aelodau o’r gynulleidfa y dylid cyflwyno’r ffilmiau byr a ddangoswyd i’r cyhoedd ehangach, i annog pobl i ddysgu am sefyllfa’r ceiswyr lloches a stori Josef Herman. Dywedodd, Ffion, myfyrwraig Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y digwyddiad yn ysbrydoledig iawn. “Dysgais am safbwyntiau newydd a straeon personol. Rwyf nawr yn meddwl am beth allaf ei wneud yn y dyfodol”.

#Teml80 – Mis yn dathlu Heddychwyr a mudiadau heddwch

Drwy gydol mis Tachwedd 2018, trefnodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru raglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau i ddathlu agor y Deml Heddwch ar 23 Tach 1938, a’i phen-blwydd yn 80 oed yn ogystal â #WW100 – canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad ar 11 Tach 1918, a dechrau’r “Broses Heddwch” ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd wedi siapio cysylltiadau byd-eang dros y can mlynedd ers hynny.

Mae WCIA wedi cyflwyno mwy na 43 o ddigwyddiadau gydag ystod eang o bartneriaid, gyda phob un yn archwilio rhan o’ Dreftadaeth Heddwch’ Cymru, a gwaith sefydliadau’r Deml yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae wedi arddangos gwaith gwirfoddolwyr a chymunedau sydd wedi cyfrannu at y rhaglen Cymru dros Heddwch hefyd rhwng 2014-18, trwy gyfrwng yr Arddangosfa Cymru dros Heddwch, Nod y blog hwn yw cadw cofnod o’r dolenni ac adnoddau o’r holl weithgareddau hyn gyda’i gilydd, fel maen nhw’n dod ar gael.

Lleisiau 1938 – Clippings Projection

LleisiauTeml80 – Ffilm

Rhaglen Ddigwyddiadau Mis Tachwedd – Teml80 (sgroliwch i weld recordiadau)

Edrychwch ar y Edrychwch ar y rhaglen lawn o ddigwyddiadau – Saesneg; Cymraeg; Eventbrite

View ‘Assemble’, a gyfansoddwyd ar gyfer Teml80 / WW100; Cymraeg

Gwrandewch ar ‘Assemble’, a gyfansoddwyd ar gyfer Teml80 / WW100 Iffy Iwobi a Jon Berry

Noson Pen-blwydd Teml80

Prif atyniad Teml80 oedd y noson gala ar 23 Tachwedd, a fynychwyd gan tua 230 o bobl ac a oedd yn cynnwys:

Teithiau Hunan-dywys o’r Deml Heddwch, a Teml80 / arddangosfa Cymru dros Heddwch.

Perfformiad ‘Mecca Newydd’ –-mewn partneriaeth â Dr Emma West, Prifysgol Birmingham a’r Academi Brydeinig; Gŵyl Bod yn Ddynol; Cydweithfa Gentle Radical a 50 o wirfoddolwyr a chyfranogwyr o grwpiau cymunedol amrywiol. Darllenwch ’A New Mecca for today’ blog – Gŵyl Bod yn Ddynol gan Dr Emma West.

– Ailgysegriad Neuadd y Cenhedloedd gan y Gymuned (yn ôl i’w theitl 1938 wreiddiol, fel y darganfuwyd o’r archifau)

– Bwyd, Diod a Thân Gwyllt

– Lansio ‘Voices of Temple80’ – Ffilm Ddogfen gan Tracy Pallant / Amy Peckham / Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro

– Derbyniad ac aduniad alumni VIPs WCIA, a Thorri ‘Cacen Enfys’

Pen-blwydd yr Ardd Heddwch yn 30 oed

Ar ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, cafodd hyn ei ddilyn gan y digwyddiad #Ailgysegru’r Ardd Heddwch30 a Diwrnod Difyr i’r Teulu, lle daeth WCIA â gwirfoddolwyr ac alumni rhyngwladol Cyfnewid UNA a Sylfaenydd yr Ardd Heddwch Robert Davies at ei gilydd gyda phlant o Ysgol Gynradd Parc y Rhath.

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ddadorchuddio dau fosaig lliwgar newydd (wedi’u creu gan wirfoddolwyr rhyngwladol) ar fynedfa fwaog newydd yn yr Ardd Heddwch; fe wnaethon nhw gladdu Capsiwl Amser yn yr Ardd, i’w agor ymhen 50 mlynedd; ac fe wnaethon nhw ddadorchuddio plac ar un o ystafelloedd cyfarfod WCIA er anrhydedd i Robert Davies, a’r holl wirfoddolwyr ieuenctid rhyngwladol sydd wedi cael eu hysbrydoli ganddo, o 1973 hyd heddiw.

Arddangosfa #Teml80 ‘Cymru dros Heddwch’

Roedd yr Arddangosfa oedd yn cyd-fynd â Teml80, yn ceisio dwyn ynghyd stori’r Deml, gyda threftadaeth Heddwch Cymru o’r 100 mlynedd diwethaf – gan gynnwys hanesion cudd oedd wedi cael eu casglu gan grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr rhwng 2014-18 – ynghyd ag ymatebion gan bobl ifanc, ysgolion ac artistiaid.

View Teml80 – Canllaw o’r Arddangosfah – Saesneg; Cymraeg

Bu Artistiaid Preswyl yn arddangos amrywiaeth o ymatebion i ymwelwyr ymchwilio’n ddyfnach i storïau’r Deml:

Recordiadau–o Ddigwyddiadau Teml80

Digwyddiad Llun(iau) Fideo(s) Sain (seiniau)
Arddangosfa – trwy gydol mis Tachwedd Albwm Flickr;Adeiladu’r Arddangosfa Taith Hunan-dywys gyda Craig Owen
Lansiad Arddangosfa a ‘Teml o Atgofion’ y Bwrdd Crwn Albwm Flickr DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – ‘Teml o Atgofion’’
Gwasanaeth Coffa ar gyfer Cymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig 2 Tach Albwm Flickr ASSEMBLE – gan Iffy Iwobi & Jon Berry
Datblygu Rhyngwladol, 5 Tach
Cynhadledd Ysgolion, 6 Tach Albwm Flickr
Rhyfel, Heddwch a’r Amgylchedd, 6 Tach Erthygl
Teithiau o’r Deml Cerdded drwy’r Arddangosfa
Troi’r Tudalennau – bob dydd trwy fis Tach Storïau Milwyr DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – Troi’r Tudalennau Meddyliau o’r Gladdgell
Hanes Llyfr y Cofio, 9 Tach Albwm Flickr DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – Stori Llyfr 1 a 2 and 2 Stori Llyfr y Cofio
Gwasanaethau Diwrnod y Cadoediad, 11 Tach Albwm Flickr
Ymgyrchu dros Newid, 13 Tach DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – YMGYRCHU DROS NEWID

 

Ymgyrchu dros Newid
Ffoaduriaid a Lloches, 16 Tach DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – FFOADURIAID A LLOCHES
Addysg Heddwch, 20 Tach DARLLEDIAD FACEBOOK BYW– ADDYSG HEDDWCH
Treftadaeth WW100, 21 Tach Albwm Flickr Treftadaeth WW100 Sain
Merched, Rhyfel a Heddwch, 22 Tach DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – LEE STOW MERCHED, RHYFEL A HEDDWCH DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – MERCHED O GYMRU A HEDDWCH

DARLLEDIAD FACEBOOK BYW – YMGYRCHWYR GWRTH-NIWCLEAR YN Y 1980au

Merched, Rhyfel a Heddwch x 6
Ailgysegru’r Ardd Heddwch a Diwrnod Difyr i’r Teulu, 24 Tach Albwm Flickr Ailgysegru’r Ardd Heddwch + Robert Davies

 

Sylw’r Cyfryngau

Y Deml Heddwch ac uchelgais ryngwaladol Cymru – BBC Cymru fyw

A New Mecca for Today? Blog Gŵyl y Bod Dynol gan Dr. Emma West, Academi Brydeinig

‘We Will Remember Them’ – Rhaglen Ddogfen y BBC gan Huw Edwards (Mae’r Deml Heddwch yn cael ei chynnwys mewn tua 5 munud o’r rhaglen, gyda Dr Emma West a Dr Alison Fell)

How Wales’ most Tragic Mother spread Peace and Hope – Western Mail / Wales Online

Cardiff’s Temple of Peace opens its doors to celebrate 80th birthday – Erthygl Prifysgol Birmingham

War Mothers as Peace Builders – Prifysgol Birmingham

Remembrance Weekend at Temple of Peace – The Cardiffian

Temple of Peace turns 80 – The Cardiffian

Archifau’r Cyfryngau Cymdeithasol

Negeseuon Trydar a’r Cyfryngau: https://twitter.com/walesforpeace?lang=en

Sianel Fideos Youtube: : https://www.youtube.com/channel/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg?view_as=subscriber

Recordiadau Digwyddiadau Soundcloud: : https://soundcloud.com/walesforpeace

Albwm Flickr: https://www.flickr.com/photos/129767871@N03/albums

Casgliadau Archif Casgliad y Werin Cymru: https://www.peoplescollection.wales/user/8498/author/8498/content_type/collection/sort/date

Tudalen Gymunedol Facebook: https://www.facebook.com/pg/walesforpeace/posts