Author: WCIA

#Temple80 ‘Wales for Peace’ Exhibition

wcia video screengrab

The Exhibition accompanying Temple80 sought to draw together the story of the Temple, with Wales’ peace heritage of the last 100 years – including hidden histories gathered by community groups and volunteers 2014-18 – along with responses from young people, schools and artists.

View Temple80 Exhibition Guide – English; Welsh

Artists in Residence showcased a range of responses for visitors to delve deeper into the Temple’s stories:

  • Jon Berry, Temple80 Artist in Residence composed a series of musical installations responding to the Temple spaces & heritage; and also collaborated with musician Iffy Iwobi to produce and perform ‘Assemble’, a 8 minute musical tribute for the BME Remembrance Service.
  • Ness Owen, collection of 5 poems responding to heritage materials in exhibition;
  • Will Salter, ‘Guiding Hand’ alternative tour of the Temple encouraging deeper spatial appreciation;
  • Hazel Elstone, crafted multicoloured wreath of red, white, black and purple Remembrance poppies
  • Lee Karen Stow, with her ‘Women War & Peace’ photography display;
  • Tracy Pallant & Amy Peckham, with their community films including Temple80 Rap by BME artist Jon Chase.

Peace Garden 30th Anniversary

44193329331_e9ea5e116d_z

On Saturday 24th, this was followed by a #PeaceGarden30 Rededication and Family Fun Day, in which WCIA brought together UNA Exchange international volunteers and alumni and Garden of Peace Founder Robert Davies, with children from Roath Park Primary School

Together they unveiled 2 new colourful mosaics (created by international volunteers) on a new archway entrance in the Peace Garden; buried a Time Capsule in the Garden, to be opened in 50 years time; and unveiled a plaque on one of WCIA’s meeting rooms in honour of Robert Davies, and all international youth volunteers inspired by him from 1973 to today.

CRONFA GOFFA SALLIE DAVIES

mum and dad at Ruby wedding celebrations 14months before she died

Sefydlwyd y gronfa hon ym 1980 . Dyma’r hanes y tu ôl i hyn:-

Yn ystod amser James Callaghan fel prif weinidog, penderfynwyd cynnal cystadleuaeth genedlaethol ymysg aelodau’r Blaid Lafur i adeiladu’r wybodaeth yn archifau’r Blaid Lafur. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym 1979. Gofynnwyd i ysgrifennydd pob etholaeth i ddarganfod eu haelodau oedd wedi gwasanaethu hiraf, a gofyn iddyn nhw wneud recordiad tâp ar gyfer cystadleuaeth “Tape Archive Competition”’ y Blaid Lafur. Gofynnodd Mr Ray Hill, Ysgrifennydd Plaid Etholaeth Trefynwy i dad gymryd rhan.  Siaradodd dad yn briodol ar y tâp am ei atgofion cynnar o ddyddiau cynnar y Blaid Lafur yng Nglynebwy, a’r bobl a oedd yn cael eu croesawu i’w gartref fel mawrion y Blaid Lafur cynnar, oedd yn cynnwys Noah Ablett, Enoch Morrell, Keir Hardie.  Ei rieni yn sefyll i ddarparu sicrwydd rhag ‘trafferth ymysyg y torfeydd” yn y cyfarfodydd awyr agored. Y “bocs sebon” yr oedd pobl yn sefyll arno i siarad yn cael ei gadw dan eu grisiau. Fel y dywedodd, roedd angen rhywun dewr iawn i gymryd rhan yn y mudiad Llafur yn ystod y dyddiau cynnar hynny.


at WCIA with Goronwy Jones and Lord Malcolm Pill

Er mawr syndod i dad, enillodd y wobr gyntaf o £500. Penderfynodd dad ei fod eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda’r arian. Ar y pryd, roedd yn gwneud llawer gyda Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. (Roedd wedi gwasanaethu fel cynrychiolydd Cymru ar weithrediaeth y DU o UNA am 5 mlynedd. Ym 1981, cafodd ei benodi’n lywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig.)

Penderfynodd sefydlu Cronfa Goffa Sallie Davies er cof am ei ddiweddar wraig, i gael ei defnyddio presentation of cheque from UNA (Welsh Centre Trust)gan C.E.W.C. (Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd) i hyrwyddo eu hamcanion. Cyfrannodd fy nhad, aelodau o’r teulu a phobl eraill at y Gronfa, fel bod y swm oedd ar gael yn cynyddu.  Rhoddodd TUC Cymru ac UNA Cymru gyfraniadau sylweddol. Yn y dyddiau cynnar, defnyddiwyd y Gronfa i roi gwobrau ar gyfer Cystadleuaeth Cronfa Goffa Sallie Davies i gael ei chynnal mewn ysgolion. Un gystadleuaeth cynnar oedd cystadleuaeth poster heddwch. Ym 1989, roedd ysgolion a godwyd y mwyaf o arian ar gyfer UNICEF yn gallu enwebu pobl ifanc i fynd i Lesotho i weld sut oedd yr arian UNICEF yn cael ei wario. Aeth Beth Appleton o Landrindod a Stephen Pearce o Gastell-nedd yno yng nghwmni Mandy Owen (Swyddog CEWC yn WCIA ar y pryd). Cawsant brofiad gwych yn cael eu ffarwelio yn y maes awyr gan Uchel Gomisiynydd Lesotho ac yn cael eu croesawu ar y pen arall gan swyddogion UNICEF ac Aelodau Conswl Prydain. Roeddent yn gallu gweld sut roedd rhoddion UNICEF yn cael eu rhoi at ddefnydd da mewn gwlad oedd yn derbyn yr arian.

 

Yn ddiweddarach, penderfynwyd mai’r ffordd orau i ddefnyddio’r arian oedd i helpu i gefnogi Tîm Dadlau Ysgolion Cymru oedd yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Dadlau Ysgolion y Byd. Parhaodd hyn am nifer o flynyddoedd.

Mae’r teulu yn gobeithio y bydd yr arian yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n parhau i gefnogi addysg yng Nghymru.

 

Arddangosfa ‘Cymru dros Heddwch’ Amgueddfa Abertawe yn agor fel rhan o’r Rhaglen Gelfyddydau ‘Nawr yr Arwr’

swansea exhibition

Written on 05-09-2018 by Craig Owen

Mae arddangosfa sy’n archwilio adeilad treftadaeth heddwch Cymru wedi agor yn Amgueddfa Abertawe, cyn y cynhyrchiad celfyddydol nodedig hwn ym mis Medi gan Marc Rees a 14-18NOW – ‘Nawr yr Arwr’, sef cynhyrchiad theatr epig o ryfel, heddwch a phrotest.

Fel rhan o ‘raglen o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ‘Nawr am Fwy’ Abertawe, sy’n dathlu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae ‘Cymru dros Heddwch’ yn edrych ar weithredoedd heddychwyr o’r gorffennol a’r presennol, yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, trwy gyfrwng saith thema – ac yn gwneud y cysylltiadau â hanesion a chasgliadau lleol a gedwir yn Amgueddfa Abertawe, yn ogystal â phaentiad eiconig y Rhyfel Byd Cyntaf ‘the Battle of Mametz Wood’gan Christopher Williams, sydd ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Mae benthyciadau WCIA yn cynnwys fersiwn Gymraeg o Lyfr y Cofio y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â Deisebau Arweinwyr Ffydd a Menywod o’r casgliadau yn y Deml Heddwch, ymhlith dogfennau hanesyddol eraill o’r mudiad heddwch.

I gyd fynd â’r arddangosfeydd, mae 20 o artistiaid o Abertawe wedi cyfrannu eu hymatebion eu hunain i’r themâu rhyfel a heddwch – yn amrywio o’r gosodiad sain ‘Locus’ sy’n cofio cyfansoddwr y Rhyfel Byd Cyntaf, Morfydd Owen, i gerflun weiar o’r unigolyn cyntaf a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Owen Owen,
a chabinet hen yn llawn lluniau a storïau gan Heddychwyr Abertawe (‘achos dros heddwch’):

 

View article about Women War & Peace in Swansea

View photo album of Women War & Peace at Swansea Library

 

Download Flyer for Wales for Peace Exhibition (PDF)

Ynghyd â’r arddangosfa ‘Cymru dros Heddwch’ yn Amgueddfa Abertawe, mae WCIA yn arddangos yr arddangosfa ffotograffiaeth eiconig ‘ Menywod, Rhyfel a Heddwch ‘ hefyd gan Lee Karen Stow yn Llyfrgell Canolfan Ddinesig Abertawe.

Rhyfel, Heddwch, Protest a Barddoniaeth

Bydd Nawr yr Arwr yn cael ei berfformio dros bum noson o 25-29 Medi – ‘requiem ymdrochol’ sy’n ymchwilio i ryfel, heddwch, protest a rhyddiaith.

“Mae cynhyrchiad beiddgar Marc Rees sy’n adrodd tair stori rhyfel, yn dod yn fyw gyda gwrthbwynt o heddwch a gobaith. Mae’n cymryd ei ysbrydoliaeth o gerdd epig, portread agos o filwr sy’n gwasanaethu Abertawe a Phaneli Ymerodraeth Prydain.

 

Mae Requiem yng nghanol pob perfformiad, gyda libreto gan yr ysgrifennwr Owen Sheers, sydd wedi ennill Bafta.  Mae’n cael ei ganu gan Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton. Mae’r gerddoriaeth yn cael ei chyfansoddi gan Owen Morgan Roberts, a honno’n deillio o waith gwreiddiol, Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd am Oscar.

 

Mae’r digwyddiad yn rhan bwysig iawn o flwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW, sef comisiwn celfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Dyma uchafbwynt hefyd Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.”

BUY TICKETS

20180903_101301

 

Neges o Heddwch o’r Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol

43281610821_2e462f8338_b

Written on 05-07-2018 by Craig Owen

Yn ystod yr wythnos 2-8 Gorffennaf, mae Cymru dros Heddwch wedi bod yn cymryd rhan yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen – gydag arddangosfa fechan dros dro sy’n ategu gwaith Pwyllgor Archifau Llangollen i gipio ‘Treftadaeth Heddwch’ yr ŵyl anhygoel hon o heddwch a chymodi, a ymgododd o ludw’r Ail Ryfel Byd ac sydd nawr yn dathlu ei phen-blwydd yn 71 mlwydd oed.

Mae cyfraniad WCIA i arddangosfa Llangollen wedi canolbwyntio ar archwilio treftadaeth neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Llangollen, a gweithio gyda’r Pwyllgor Archifau a phartneriaid lleol. Rydym yn teimlo anrhydedd mawr o gael ein gwahodd i gyflwyno hanes Treftadaeth Heddwch Cymru, fel ‘Anerchiad Llywydd y Dydd’ ar gyfer y 4ydd o Orffennaf.

Hoffai WCIA ddiolch i’n ‘Cydweithwyr Heddwch’, Awel Irene a Sarah Baylis am arwain ein gwaith gyda phartneriaid lleol Llangollen, ac i Gadeirydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE am eu cefnogaeth ar gyfer y gwaith treftadaeth heddwch parhaus hwn.

Archwilio Storïau Llangollen o’r Gorffennol

Edrychwch ar bedwar fideo am Neges Heddwch ac Ewyllys Da Llangollen (wedi’u paratoi gan Sarah Baylis ac Awel Irene, a’u golygu gan Llinos Griffin, Gwefus).

Rhannu Treftadaeth Heddwch Llangollen Heddiw

Cynhaliodd y Babell Archifau yn yr Eisteddfod Ryngwladol arddangosfa drawiadol o storïau o bob degawd, o ddechrau’r Eisteddfod Ryngwladol ym 1947, hyd heddiw – ynghyd â dyfais sgrin gyffwrdd Cymru dros Heddwch ac arddangosfa dros dro

Download LLANGOLLEN 2018 PEACE MESSAGES LEAFLET 

View Flickr album of the Llangollen Archives Tent ‘Peace Heritage’ exhibition

20180703_134051

Inspiring the Future

Read the text of Craig Owen’s address as Day President of the Eisteddfod for Wednesday 4th July (below)

Download Day President’s Address

Anerchiad Cymru dros Heddwch i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gan Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch, fel Llywydd y Dydd ar ddydd Mercher, 4 Gorffennaf

Prynhawn Da

Ym 1922, roedd y Neges Heddwch gyntaf gan Blant Cymru i’r Byd,

yn cynnwys dymuniad syml: sef

“NA FYDD ANGEN I DDIM UN OHONOM, WRTH DYFU’N HŶN,

I DDANGOS EIN BALCHDER AM Y WLAD Y CAWSOM EIN MAGU YNDDI

DRWY FYND ATI I GASÁU A LLADD EIN GILYDD. ”

Heddiw, mae gwrthdaro yn parhau i fod ar flaen meddyliau llawer ohonom.

Nid lleiaf, meddyliau ein plant ein hunain

Wrth i ni nodi’r canmlwyddiant o ddweud ‘BYTH ETO’ i ryfel

Rydym yn gweld canrif o wrthdaro

Mae plant Cymru yn aros o hyd i weld eu dymuniad yn cael ei gyflawni.

Ond mae chwilio am Heddwch wedi bod yn rhan bwysig o hanes Cymru,

Hanes ein cenedl, ein hanes ni

Dros y 100 mlynedd diwethaf.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r prosiect Cymru dros Heddwch

Sydd yn cael ei redeg gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y Deml Heddwch

A’i gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Wedi bod yn gweithio gyda llawer o bartneriaid cenedlaethol a lleol,

Yn cynnwys y Pwyllgor Archifau yma yn Llangollen

I archwilio’r cwestiwn mawr hwn:

Yn y 100 mlynedd diwethaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?

Mae’n anrhydedd mawr cael gwahoddiad i’ch annerch chi heddiw

Ac mae braidd yn frawychus, o’i gymharu â’r ffigurau disglair sydd wedi camu i’r llwyfan hwn o’r blaen

Ond mae fy hanes i mewn rhai ffyrdd yn hanes Cymru, a hanes Llangollen, ac efallai, eich hanes chi?

Hanes a rennir o bobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin

I adeiladu byd gwell.

 

Ym 1914-15, pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth

Cynigiodd Cymru loches i fwy na 4,500 o Ffoaduriaid o Wlad Belg

Oedd yn ceisio dianc rhag yr ymladd ar y ffrynt

Yn y 1930au, byddai Cymru’n mynd ymlaen i gynnig lloches i blant o Wlad y Basg

Oedd eisiau dianc rhag Rhyfel Cartref Sbaen

Ym 1922,

 

Darlledwyd

 

y Neges Heddwch gyntaf i Bobl Ifanc

gan blant Cymru i blant y byd

Ym 1923, llofnodwyd Deiseb Menywod dros Heddwch Cymru

gan 390,296 o fenywod ar draws Cymru gyfan

Mewn ymgyrch drws i ddrws anhygoel

Yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd

A dod yn arweinydd mewn heddwch y byd.

Ym 1926, gadawodd Pererindod Heddwch Menywod Gogledd Cymru

Benygroes yn Sir Gaernarfon

Gyda 2,000 o fenywod oedd yn hedfan y  faner heddwch las

 

Aethant ar orymdaith i Gastell Caernarfon

Ac yna i Gonwy, ar hyd Arfordir Gogledd Cymru

A’r holl ffordd i Hyde Park

Ym 1926, cynhaliodd Cynghrair y Cenhedloedd eu Cyngres Heddwch Rhyngwladol

Yn Aberystwyth

Cyfwerth â Chynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig heddiw

Ym 1929, cynhyrchodd Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru – Athrawon Cymru –

nid yn unig y cwricwlwm ‘Addysg Heddwch’  cyntaf yn y byd

Ond hefyd, maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1929

Byddai eu syniadau yn mynd ymlaen i gael eu cadw’n gysegredig

Fel y glasbrint y sefydlwyd UNESCO arno

Ym 1935, Pleidlais Heddwch

 

Ym 1938, agorwyd Teml Heddwch Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Yr adeilad cyntaf yn y DU wedi’i gysegru i achos Heddwch.

Ym 1939…

Daeth y byd i ben.

Ym 1946, derbyniodd neges heddwch y plant ymateb ddirdynnol – gan blant yr Almaen.

“Mae’n flynyddoedd ers i ni glywed gan blant Cymru

SUT AETH PETHAU’N DYWYLL.

Buasem wrth ein boddau’n clywed gennych chi eto. “

Llangollen

Ym mis Mehefin 1947, yn ymgodi o erchylltra’r Ail Ryfel Byd, nid oedd dim yn cyfleu ysbryd ‘BYTH ETO’

Yn fwy na’r syniad o ŵyl gerddoriaeth, mewn lleoliad hardd, gyda heddwch a chymodi yn genhadaeth iddi

Llenwodd 52 côr o bob cwr o’r DU, a 10 o wledydd eraill,

Gae chwarae’r ysgol leol, y safwn arno nawr.

Ym 1949, darlledwyd Neges Heddwch y Plant i’r byd o Langollen

Cyflwynodd Llinos Roberts y neges gyntaf, o’r union lwyfan hon

Hyd at 1983, fe ailadroddodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd ei hun

Ac o’r adeg honno hyd heddiw, mae’r ddau wedi bod ar wahân ond yn gyflenwol

Am flynyddoedd lawer, fe ddilynodd fformat ffurfiol

Ac yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi cael ei arwain a’i ysbrydoli llawer mwy gan bobl ifanc ac ieuenctid

Yn union fel y dylai fod!

 

Ym 1949, croesawodd Llangollen  Gôr Luebeck hefyd, gan ddangos heddwch a chymodi ar waith

Y cystadleuwyr cyntaf o’r Almaen

Roedd yr Ail Ryfel Byd yn dal yn fyw yn ein cof; roedd llawer yn Llangollen ac yn Luebeck wedi colli perthnasau yn ymladd ei gilydd

Ond ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, cynhaliodd y dref gyngerdd croeso arbennig

Oedd yn un o’r cyfnewidiadau diwylliannol cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Ym 1953, disgrifiwyd Côr Plant Obernkirchen gan Dylan Thomas, ar ei ymweliad â Llangollen, fel ‘yr angylion â phlethi’.

Aeth eu cân, ‘The Happy Wanderer’, i frig y siartiau

A gwerthodd recordiad y BBC / Parlophone filiynau

Am newid yn agwedd y cyhoedd mewn llai na degawd

O wrthwynebwyr gelyniaethus i gariad at gerddoriaeth

Wrth i ddiwylliannau wella drwy gerddoriaeth a chyfnewid

Dychwelodd y côr i Langollen eto ym 1960

Drwy’r 1940au a’r 50au, helpodd heddychwyr Cymru i sefydlu cyrff blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig

Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig

Rhaglen Ddatblygu’r UNDP

UNESCO

Ymgyrchoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig a’r cyngor diogelwch

Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ILO

Sefydliad Meteorolegol y Byd … Wel, fel arfer, mae gennym ni yng Nghymru lawer o brofiad o law.

Ym 1981, dechreuodd merched o Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe orymdaith i safle’r awyrlu yn Berkshire i brotestio yn erbyn arfau niwclear.

Ni aethant adref am 19 mlynedd, gan i wersyll heddwch Greenham Common i fenywod dyfu i fod yn un o’r arddangosiadau heddwch hiraf yn ein hanes diweddar.

Ym 1985, cysylltodd Dolen Cymru, sef menter efeillio gwlad â gwlad gyntaf y byd, Cymru â Lesotho yn Ne Affrica, sydd bellach yn ei 33edd blynedd

 

Ym 1995, cyrhaedded Côr o Serbia Langollen, ar ôl gorfod ymarfer mewn seler

A ffoi trwy reng flaen rhyfel y Balkans i ddod â llais cysoni i Langollen

Cri am heddwch ar garreg drws Ewrop ei hun.

Yn 2004, enwebwyd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel

Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn rhan fawr o hanes Treftadaeth Heddwch Cymru

Ac mae Cymru’n rhan fawr o hanes rhyngwladol a threftadaeth yr Eisteddfod.

Chi

Ewch i’r Babell Archifau

Dewch i ddarganfod rhywfaint o storïau gwych drosoch chi eich hun

Am ryngwladolwyr ysbrydoledig, pobl gyffredin, a wnaeth bethau rhyfeddol

Yma yn Llangollen

Yn ogystal â defnyddio’r archifau

Allech chi wirfoddoli eich amser neu eich cefnogaeth?

Oes gennym ni unrhyw egin ddyngarwyr posib yn yr ystafell?

Allech chi helpu’r prosiect i ddechrau

ac i gael mynediad i Arian Treftadaeth y Loteri i gasglu’r storïau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?

Yn benodol, ar gyfer dathlu pen-blwydd Llangollen yn 75 oed ymhen pedair blynedd.

Hefyd – llofnodwch Ddeiseb y Trên Heddwch

Ar y Diwrnod Heddwch y Byd ym mis Medi, bydd y ddeiseb hon yn mynd ar y trên

o drefi ar draws Cymru, i Lundain

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymuno â’r Cytundeb Gwrth Twr Arfogaeth Niwclear

Ac yn mynd ar drywydd camau rhai o’r heddychwyr gwych o’r 20au a’r 30au

Does dim rhaid i chi fod yn Mandela i newid y byd

Mae pob un ohonom yn gallu gweithredu dros heddwch yn ein ffyrdd ein hunain

Rydym i gyd yn heddychwyr

Mae pob un ohonom yn gallu cofio colli’r rhyfel

Mae pob un ohonom yn gallu gwrthwynebu gwrthdaro

Mae pob un ohonom yn gallu cynnig lloches i ffoaduriaid

Mae pob un ohonom yn gallu hyrwyddo cydraddoldeb

Mae pob un ohonom yn gallu adeiladu undod byd-eang

Mae pob un ohonom yn gallu ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol

Mae pob un ohonom yn gallu cydweithio.

Mae pob un ohonom yn gallu creu heddwch yn ein hamser

Yn ein hystafelloedd dosbarth, meysydd chwarae, cymunedau, diwylliannau, gwledydd,
yn ein byd, ac yn ein calonnau a’n meddyliau,

Ar gyfer WCIA a Llangollen,

Ein dymuniad a rennir yw ysbrydoli

Cenhedlaeth newydd o ryngwladolwyr

Nid ysu â hiraeth am y gorffennol sydd wedi hen ddiflannu

Ond dysgu gydag ysbrydoliaeth, a meddwl ymholgar, am bresennol sydd yma nawr

Ac i losgi gyda brwdfrydedd, am fyd o heddwch a chyfiawnder

A dyfodol i chi ei siapio.

Felly…

Ysgrifennwch, crëwch, chwaraewch, canwch, siapiwch, gwnewch e’

Mae pob un ohonoch chi yn Heddychwyr Nawr

Dyma’ch cymunedau chi

Dyma’ch Eisteddfod ryngwladol chi

Dyma eich Cymru chi

Dyma’ch byd chi.

Dyma eich darn chi o heddwch.

Chi yw heddychwyr heddiw ac yfory

Gallwch siapio heddwch yn ein hamser.

Diolch yn fawr iawn – Diolch.

 

 

 

Taith Arddangosfa Cymru dros Heddwch yn lansio yng Nghaergybi

28739410628_3903f1848a_o

Written on 06-06-2018 by Craig Owen

Ym mis Mehefin, lansiwyd ‘Taith derfynol Arddangosfa Cymru dros Heddwch’ WCIA, yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi rhwng 6 Mehefin – 8 Gorffennaf 2018.

Mae’r arddangosfa, sydd yn cael ei hariannu gan y Loteri Treftadaeth, yn dwyn ynghyd gwaith sydd wedi cael ei wneud dros y bedair blynedd diwethaf gan gymunedau, ysgolion a grwpiau ieuenctid, i ddatgelu treftadaeth heddwch Cymru – ac yn edrych ar y cwestiwn “Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch? “

VIEW EXHIBITION ON FLICKR

Gweithredu dros Heddwch, Bryd Hynny a Nawr

Mae saith thema yn edrych ar ‘weithredoedd dros heddwch’ drwy’r cenedlaethau, a’u perthnasedd i faterion yn y byd heddiw, gan dynnu ar hanesion ‘rhyngwladolwyr ysbrydoledig’ a sut y ceisiodd pob un adeiladu byd gwell. Mae defnyddio lliwiau Baner Heddwch y 1960au i lywio dyluniad a themâu’r arddangosfa wedi cynhyrchu arddangosfa liwgar dros ben, gyda thapestri cyfoethog o hanesion gan wirfoddolwyr yn cael eu harddangos, yn cynnwys dyfais sgrin gyffwrdd ddigidol a llyfr o flogiau.

DOWNLOAD VISITORS GUIDE English

Cymraeg

Celf Heddwch ‘Heddychwyr’ Ifanc

Mae WCIA yn falch dros ben o fod wedi cael y cyfle i weithio gydag Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, i arddangos ymatebion artistig o’r ‘Gwobrau Heddychwyr Ifanc’ diweddar. Ar sail y rhain, mae myfyrwyr wedi cynhyrchu llyfryn gwych i rannu’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w gwaith.

DOWNLOAD ‘HEART OF PEACE’ BOOKLET – YMATEBION ARTISTIG HEDDYCHWYR IFANC

Dathlu Rhyngwladolwyr Lleol

Mae sawl sefydliad lleol o Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu dathlu yn yr arddangosfa hefyd am eu cyfraniad tuag at ryngwladoliaeth Gymreig, gan gynnwys y grŵp ymgyrchu UNA Menai (Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig), Cyswllt Lesotho Cymru Dolen Cymru, Gwerin y Coed / the Woodcraft Folk, a Cymdeithas y Cymod / the Fellowship of Reconciliation

Taith Arddangosfa Cymru Gyfan

Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaergybi, bydd yr arddangosfa yn symud ymlaen i’r lleoliadau canlynol:
• Abertawe ym mis Medi,
• Merthyr Tudful ym mis Hydref, a’r
• Deml Heddwch yng Nghaerdydd trwy Fis Rhagfyr 2018
• Storiel ym Mangor ym mis Mawrth 2019.
• Aberystwyth ym mis Mai 2019

Bydd arddangosfeydd ‘dros dro’ hefyd yng:
• Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Conwy / Sir Ddinbych (Mawrth-Mai 2018)
• Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gorffennaf 2018
• Machynlleth, Canolfan Owain Glyndŵr, Awst 2018

 

Nawr, gellir cyrchu Llyfr y Cofio Cymru ar-lein o Ddydd y Cofio 2017, ar ôl ymdrech dwy flynedd gan wirfoddolwr

C98lGhFWAAEYu0a

Written on 08-11-2017 by Craig Owen

Mae Llyfr y Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, trysor cenedlaethol sydd yn cael ei gadw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, wedi cael ei ddigido a bellach, gellir ei gyrchu gan y cyhoedd ar-lein yn BookofRemembrance.Wales, yn dilyn prosiect dwy flynedd oedd yn cynnwys dros 150 o wirfoddolwyr o gymunedau ar draws Cymru. Bu’r gwirfoddolwyr hyn yn gweithio gyda Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri

Llyfr y Cofio 

Mae’r Llyfr y Cofio hyfryd, â chlawr lledr yn cynnwys memrwn felwm, sydd wedi’i addurno â dail aur, inc mân a chaligraffi – yn cynnwys enwau dros 40,000 o ” ddynion a merched o Gymru ynghyd ag aelodau o gatrodau Cymreig, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1914-1918”.

Mae’r llyfr, a ymchwiliwyd iddo ac a’i grëwyd â llaw yn y 1920au gan fenywod oedd yn gweithio gyda’r caligraffydd enwog Graily Hewitt o Lincoln’s Inn a Gwasg Gregynog, yn Rhestr o Wroniaid i gyd-fynd â Chofeb y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mharc Cathays, a agorwyd gan y Brenin Edward VII ym 1928. Gyferbyn â Chofeb Rhyfel Cymru, adeiladwyd y Deml Heddwch – a agorwyd ym 1938 – i gartrefu’r llyfr, ac er cof am y rheiny a gollodd eu bywydau, i weithredu fel symbol o benderfyniad Cymru i geisio cyfiawnder a heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ‘. Dywedwyd y geiriau hyn ym 1938 gan Minnie James, mam o Ferthyr Tudful a oedd wedi colli tri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynnwyd iddi agor y Deml Heddwch ar ran mamau a gweddwon y byd sydd wedi colli eu hanwyliaid yn y rhyfel.

Dod o hyd i Unigolion yn Llyfr y Cofio Ar gyfer Dydd y Cofio 2017, mae’n bleser gan WCIA a’r Llyfrgell Genedlaethol lansio’r Llyfr y Cofio digidol ar-lein yn:

www.BookofRemembrance.Wales/

www.LlyfyryCofio.Cymru

Cyfleuster sy’n galluogi defnyddwyr a’r cyhoedd i chwilio a gweld y trawsgrifiadau sy’n anrhydeddu milwyr unigol, nyrsys, perthnasau ac aelodau o’r gymuned a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am y tro cyntaf, trwy deipio enwau unigolion, trefi cartref neu gatrodau i mewn i’r blwch ‘chwilio’ ar y gwaelod. Wedyn, gall defnyddwyr weld y trawsgrifiadau yn unigol.

Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd WCIA: “Mae’n iawn ein bod ni’n cofio’r aberthau a wnaed gan gymaint o ddynion a menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r atsain yn barhaus a nawr, mae Llyfr y Cofio Cenedlaethol Cymru ar gael ar-lein er mwyn i ddisgynyddion, haneswyr a’r rheiny sydd â diddordeb gael mynediad at fanylion y rheiny a fu farw yn enw dyfodol heddychlon. ”

Gellir gweld Casgliadau y Catrodau o enwau ar Gasgliad y Werin Cymru hefyd.

Hanes y Trawsgrifio: Ymdrech Gwirfoddolwyr 

Cafodd y 40,000 o enwau eu trawsgrifio dros ddwy flynedd gan wirfoddolwyr yn Aberystwyth, Caerdydd, Caernarfon a Bangor, ynghyd â phobl ifanc o nifer o ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol, fel ‘gweithred cofio digidol’. Nawr, hoffai, WCIA a LlGC dalu teyrnged i wirfoddolwyr y mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod y trysor cenedlaethol hwn ar gael ar-lein ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Y llyfr yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych; gwirfoddolwr, Mared, yn trawsgrifio yn yr Eisteddfod ym Môn; pant ysgol yn Wrecsam yn cymryd rhan mewn ‘trawsgribathon’

 

“Roedd fy nhad-cu yn beiriannydd unwaith yn y Llynges Fasnachol a  chafodd ei long, y Memon S.S, ei tharo gan dorpedo. Fel teulu, roeddem bob amser yn sôn amdano fel bod wedi marw yn y rhyfel, ond dim byd arall. Wrth edrych trwy hen focsys, darganfyddais rhywfaint o’i fedalau, a thrwy gymryd rhan yn y trawsgrifiad, cefais fy nghymell i wneud mwy o ymchwil i’w hanes “. 

Gwenno Watkin, Aberystwyth – cafodd hanes ei thaid ei arddangos yn arddangosfa WCIA yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Data Ffynhonnell Agored

Mae’r cofnodion hefyd ar gael fel set o ddata ffynhonnell agored sy’n seiliedig ar y gwahoddiad – a’r her – i sefydliadau, myfyrwyr a rhaglenwyr i ddatblygu adnoddau ar y we sy’n galluogi pobl i ddarganfod mwy am y rheiny a gollodd eu bywydau. Bydd y set ddata ar gael o fewn yr wythnosau nesaf trwy gyfrwng offer Ymchwil ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol (data LlGC):

https://www.llgc.org.uk/en/collections/activities/research/nlw-data/

Un sefydliad sy’n cymryd rhan yn yr her ddata yw Amgueddfa Ryfel Ymerodraethol y DU, a fydd yn integreiddio’r prosiect WCIA i’w Cofrestr Cofebion Rhyfel IWM, sy’n ceisio cofnodi pob cofeb rhyfel, sydd mewn bodolaeth ac wedi’i golli, yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag enwau’r dynion a’r menywod sy’n cael eu coffáu arnynt. Mae cwblhau Llyfr y Cofio Cymru yn galluogi IWM i gyrraedd eu targed o filiwn o gofebion, y maen nhw wedi bod yn gweithio tuag ati ers 1989.

Cofio dros Heddwch: Taith yr Arddangosfa

I nodi cyfnod canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r Llyfr wedi bod yn teithio i Gymru fel prif atyniad arddangosfa ‘Cofio dros Heddwch’ WCIA. Mae’r arddangosfa’n rhedeg ochr yn ochr â’r cerfluniau ‘Poppies: Weeping Window’, sydd yng Nghastell Caernarfon trwy gydol tymor yr Hydref 2016, a Bae Caerdydd yn nhymor yr Hydref 2017, Bydd yn ymddangos yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych, Amgueddfa Arberth, Sir Benfro, ac Oriel Ynys Môn hefyd..

 

Lansiwyd y daith yn y Senedd ar Ddydd y Cofio 2015, fel rhan o raglen ddigwyddiadau “Cofio” y Cynulliad Cenedlaethol. Nawr, gallwch weld yr arddangosfa Cofio dros Heddwch ar-lein ac yn ystod yr wythnos yn lobi mynediad y Deml Heddwch yng Nghaerdydd; a gellir gweld y Llyfr y Cofio gwreiddiol drwy fynd ar un o ‘Deithiau Tywys’ rheolaidd WCIA, sydd yn cael eu hysbysebu ar wefan WCIA.

HLF Cymru, 2015

Cofnod Cywir neu Arwydd Symbolaidd?

Drwy gydol y dauddegau – gan nad oedd cofnodion canolog dibynadwy – lansiwyd ymgyrch genedlaethol, gyda chymorth sylweddol mudiadau merched, i geisio casglu enwau pawb a fu farw. Fodd bynnag, roedd teimladau llawer o deuluoedd ynghylch natur cofio yn gymysg ac yn gignoeth. Roedd llawer yn teimlo nad oedd eu hanwyliaid wedi bod yn ddim ond ysglyfaeth i lywodraethau mewn rhyfel gwastraffus a diangen – ac fe wrthododd llawer adael i’w henwau gael eu defnyddio ar gofebion sefydliadol a oedd yn eu tyb nhw yn clodfori rhyfel, neu a allai gyfiawnhau recriwtio rhagor i’r fyddin yn y dyfodol. Yn sgil trafodaethau o’r fath y daeth symbolau pwerus y pabi coch a’r pabi gwyn (gweler isod), y ddau babi sy’n cael eu ffafrio gan y fyddin a mudiadau heddwch. Mae arwyddocâd symbolaidd y llyfr yn aml yn cael ei weld fel rhywbeth sydd yr un mor bwysig â’i swyddogaeth fel cofnod o’r lladdedigion:

“Roedd casglu’r enwau.. yn waith o faint sylweddol… ac er na ellir honni bod y rhestr yn gwbl gywir na chyflawn, bu gofal mawr i ymdrechu at hynny.” Darn o Raglen Defod Ddadorchuddio Cofeb Genedlaethol Cymru.

Rhannu Storïau Milwyr

Ar gyfer perthnasau sy’n ceisio cofio un o’u hanwyliaid, neu ysgolion sy’n ceisio ymgymryd â phrosiectau sy’n cysylltu â’r bobl y tu ôl i’r enwau yn y llyfr, mae WCIA a LlGC yn parhau i apelio am storïau y gellir eu cyfrannu at gofnodion milwyr yng Nghymru

http://www.walesatwar.org/en/individual

Mae Storïau Milwyr yn gallu bod ar ffurf darnau byr o ymchwil, blogiau neu brosiectau amlgyfrwng, ac maen nhw’n ffordd ddwys iawn o gofio’r rheiny a gollodd eu bywydau 100 mlynedd yn ôl.

  • • Alfred Howell, Aberystwyth – Mynediad ymchwil yng Nghymru yn y Rhyfel
    • Welsh among the ANZACs of Palestine – Prosiect blog
    • Preifat Allen Price, Swydd Henffordd – Prosiect amlgyfrwng

Video Shorts produced with the Wales for Peace Project 

Llandrillo College, 2016

Ysgol Cym Rhymni, 2017

Passchendaele100, 2017

Ymholiadau’r Cyfryngau am y prosiect Cymru dros Heddwch / Llyfr y Cofio

Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch walesforpeace@wcia.org.uk neu cysylltwch â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar 02920228549, neu Bennaeth Cymru dros Heddwch Craig Owen ar 07876638846.

Arddangosfa Heddwch yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig dros y Pasg

11399749733_3c28409087_b (1)

Written on 26-03-2018 by Fiona Owens

Mae Cymru dros Heddwch yn gyffrous i agor ein lleoliad cyntaf ar gyfer yr arddangosfa deithiol derfynol, yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yng Ngherrigydrudion, ar ffiniau Conwy / Dinbych. Bydd yr arddangosfa ‘Whole Story’ yn teithio i un ar ddeg o leoliadau mewn un ar ddeg o drefi ar draws Cymru, ar y naill ochr a’r llall o 11.11 – sef canmlwyddiant y cadoediad a ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben.

Bydd yr arddangosfa, sydd wedi’i lleoli i’r chwith o fynedfa’r caffi ar y llawr cyntaf, yn cael ei harddangos am chwe wythnos o 26 Mawrth 2018. Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu am yr hyn y mae Cymru wedi’u gwneud dros heddwch dros y can mlynedd diwethaf, trwy gyfres o storïau cenedlaethol. Gallwch gael mynediad i’r arddangosfa, fel y Ganolfan Ymwelwyr, bob dydd. Mae croeso i grwpiau ysgol ddod i weld yr arddangosfa, drwy drefnu ymlaen llaw, a bydd cynlluniau gwersi ar gael gyda hwylusydd addysg.

Mae WCIA yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r grwpiau lleol Gwerin y Coed / Woodcraft Folk i gynnig Diwrnod Treftadaeth Heddwch i blant dros Wyliau’r Pasg. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@gwerin.org.

 

20180326_112857

Cliciwch i weld Albwm Flickr o Arddangosfa Heddwch Llyn Brenig.

Mae WCIA wedi newid i sefydliad corfforedig elusennol

27294307167_3f219b298a_z

Mae ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) wedi penderfynu bod newid statws yr elusen o ymddiriedolaeth elusennol i sefydliad corfforedig elusennol (CIO) yn hyrwyddo lles yr elusen. O ganlyniad, ym mis Mai 2014, cafodd asedau, busnes a materion yr elusen WCIA wreiddiol (rhif elusen gofrestredig 259701), eu trosglwyddo i CIO a grëwyd o’r newydd gyda’r un enw a logo (rhif elusen gofrestredig 1156822).

Mae CIO yn ffurf gyfreithiol newydd ar gyfer elusennau. Er ei fod yn sefydliad corfforedig, nid yw’n gwmni ac mae’n rhaid iddo gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ac nid Tŷ’r Cwmnïau. Mae gan y Comisiwn Elusennaufwy o wybodaeth.

Yn ôl Martin Pollard, ein Prif Weithredwr, prif fanteision y CIO o gymharu â’r ymddiriedolaeth elusennol draddodiadol yw:

“Mae’r WCIA bellach yn meddu ar ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun, sy’n golygu y gall gynnal busnes yn ei enw ei hun yn hytrach nag yn enw’r ymddiriedolwyr.

Hefyd, fel rheol mae ymddiriedolwyr CIO yn cael eu diogelu’n bersonol rhag rhwymedigaethau ariannol yr elusen. Nid yw hyn yn wir fel rheol ar gyfer elusennau anghorfforedig.

Ni chaiff ein newid mewn statws unrhyw effaith allanol ar waith y WCIA. Ni fydd dod yn CIO yn effeithio ar ein nodau, ein cynlluniau gweithgareddau, ein strwythurau aelodaeth, ein trefniadau cyfrifyddu na’n gallu i godi arian; nid yw ychwaith yn effeithio ar ein gallu i weithredu dan yr enwau ar wahân, sef WCIA ac UNA Cymru.

Mae hwn yn amser cyffrous i’r WCIA gyda’n cais am arian Treftadaeth y Loteri i gefnogi ein prosiect Cymru dros Heddwch.

Mae’r WCIA yn dra diolchgar i Martyn Robinson o swyddfa Caerdydd Geldards LLP am ei holl waith caled a’i gymorth wrth gyflawni trosglwyddiad ein gweithrediadau’n llyfn, ac am ei haelioni yntau, a’i gwmni, yn darparu gwasanaethau cyfreithiol pro bono.”

Dywedodd Giselle Davies (Pennaeth y Gyfraith Elusennau a Mentrau Cymdeithasol yn Geldards LLP) “I am delighted that my team was able to support the work of WCIA by dealing with their transition to a corporate body in order to provide a safe platform for the future development of the organisation and the excellent work they undertake for the people of Wales”.

Mae gan Geldards adran Elusennau a Mentrau Cymdeithasol sy’n gweithredu ar ran pob math ar sefydliadau elusennol.

wcia logo
geldards logo

Coflith: Dr Tom Parry Jones OBE (1935-2013)

_65261527_tomparryjones

Tom Parry Jones

Daeth Dr Jones i Gaerdydd ym 1964 i ddarlithio mewn cemeg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST).

Yn fuan iawn, dechreuodd ymwneud â gweithgareddau Cyngor Cenedlaethol Cymru Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA), a daeth yn aelod o’i Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol cyn helpu i sefydlu cangen newydd yn ardal y Rhymni yng Nghaerdydd.

Pan sefydlwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ym 1973, chwaraeodd Dr Jones ran lawn, a dal prif swyddi: Cadeirydd ei Ymddiriedolaeth (1975-81), Trysorydd (1989-91), ac yn olaf, Llywydd (1991-95).

Nid oes amheuaeth fod Dr Jones hefyd yn ddyn y werin. Cymerodd ddiddordeb cynnar yn natblygiad y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol (IYS) a welodd, o ddechrau digon diymhongar ym 1964, dros 300 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn 33 gwlad erbyn 1994.

Roedd ei ddiddordebau dyngarol wedi sicrhau ei fod yn gefnogwr arweiniol o Gronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF), ac WCIA oedd yr asiantaeth swyddogol yng Nghymru ar ei gyfer rhwng 1974-96. Bu’n cymryd rhan yn Ras Awyr gyntaf y Byd ar gyfer awyrennau bach ym 1992 a chododd £20,000 ar gyfer prosiectau UNICEF ym Mangladesh a Mali.

Roedd Dr Jones hefyd yn Ymddiriedolwr Ymgyrch Rhyddid Rhag Newyn (FFHC) y Deyrnas Unedig a oedd wedi’i leoli yn WCIA (1978-97), ac a ddosbarthodd dros £1 miliwn i 57 prosiect datblygu mewn gwahanol rannau o’r byd.

Ar ôl dychwelyd i ogledd Cymru yn ystod y nawdegau, dechreuodd Dr Jones ymwneud â datblygiadau yn ei fro enedigol yn Ynys Môn, yn ogystal â ffurfio cangen UNA ym Mangor.

Yr oedd cyfraniadau Dr Jones yn fwy anhygoel byth o ystyried ei fod hefyd yn ymwneud yn llawn â datblygu ei ddiddordebau proffesiynol ei hun. Sefydlodd Lion Laboratories ym 1967, a’i gyflawniad gwyddonol eithriadol oedd dyfeisio’r anadlennydd electronig, sy’n mesur lefel alcohol gyrwyr ar ochr y ffordd.  Defnyddiwyd ei ddyfais gan heddlu drwy’r byd i gyd.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Dr Jones. Bydd colled fawr ar ei ôl.

 

W R Davies
Cyfarwyddwr WCIA, 1973-1997