Stori Minnie James a ‘Mamau Heddwch’ y Deml

 

Ymchwil gwreiddiol gan Wirfoddolwr WCIA, Peter Garwood, ar gyfer yr arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch’ yn y Senedd, Awst-Medi 2017; ymchwiliwyd i ddeunyddiau ychwanegol gan Archifydd y Deml, Mari Lowe, Ffion Fielding, Gwirfoddolwr Teithiau Tywys y Deml, Frank Holloway, a Dr. Emma West, Prifysgol Birmingham; a gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa  ar gyfer ein harddangosfa Hyd 2017 ‘Cymru dros Heddwch’. Golygwyd a datblygwyd y darn terfynol gan Craig Owen ar gyfer cyfres ‘Peacemakers Features’ WCIA.

 

LAWRLWYTHWCH FERSIWN PDF SY’N HWYLUS I’W HARGRAFFU

 

 

Ym mis Tachwedd 1938, cafodd Minnie James o Ddowlais, Merthyr Tudful, ei gwthio i lygad y cyhoedd, pan benderfynodd yr Arglwydd David Davies, sylfaenydd y Deml Heddwch yng Nghymru, y byddai’n hoffi cael mam o Gymru a oedd wedi colli meibion yn y Rhyfel Mawr i agor Teml Heddwch ac Iechyd Cymru – ar ran yr holl famau a oedd wedi colli meibion.

Hi oedd y prif ffigwr ymhlith 24 o famau oedd wedi colli plant yn y rhyfel, o bob cwr o’r DU a’r ymerodraeth, a gafodd eu gwahodd yn dilyn ymgyrch gyhoeddusrwydd drwy ganghennau’r Lleng Brydeinig, a orliwiwyd gan y wasg fel ‘ymgyrch i chwilio am ein mamau mwyaf trasig’ – ond a fagodd gydnabyddiaeth ryngwladol, er gwaetha’r ffocws ar ‘ddynion a milwyr’ a gysylltir yn draddodiadol â chofio, bod menywod wedi dwyn baich effeithiau’r rhyfel yn fwy anghymesur na’r dynion, ac fel arweinwyr mewn creu heddwch.

 

Pwy oedd Minnie James? 

Ganwyd Minnie James fel Minnie Annie Elizabeth Watkins ar 3 Hydref 1866 ym Merthyr Tydfil.

Priododd Minnie Watkins â William James, dyn sengl, 23 oed ar 1 Ionawr 1891, yn Eglwys y Plwyf ym Mhlwyf Merthyr Tudful, Morgannwg. Mae cyfrifiad 1911 yn dangos bod y teulu yn byw mewn tŷ saith ystafell wely, 8 Cross Francis Street, Dowlais. Mae William yn gweithio fel Clerc, does dim swydd wedi’i restru i Minnie.

Mae’r rhieni wedi bod yn briod ers 20 mlynedd ac wedi cael wyth o blant, chwech ohonynt yn dal yn fyw. Mae David yn 19 oed ac yn gweithio fel drafftsmon, mae John yn 16 oed, yn sengl ac yn gweithio fel Gosodwr Prentis, mae Thomas yn dal yn yr ysgol. Mae dau o blant newydd: Winifred James 7 oed, a anwyd ym Merthyr a William James, 1 oed a anwyd yn Dowlais. Mae’r teulu’n ddigon cefnog i gael Gwas Cyffredinol – Elizabeth A. Murphy, 22 oed, menyw sengl, a anwyd yn Dowlais.

Roedd dau blentyn wedi marw:

  • Elizabeth, 2 fis oed, a fu farw ac a gladdwyd ar 28 Medi 1901 yn Adran Mynwent Cyngor Merthyr Tudful.
  • Gwladys, 7 oed, a fu farw ac a gladdwyd ar 6 Mawrth 1907 yn Adran Mynwent Cyngor Merthyr Tudful

 

Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y teulu James

Ym 1914, dechreuodd y Rhyfel Mawr, ac roedd y dynion yn gyflym i ymrestru.  Ymunodd David James, mab cyntaf Minnie, â’r Gwarchodlu Cymreig, gan ymrestru ym Merthyr. Aeth i faes y gad ar 17 Awst 1915 yn Ffrainc.

Roedd wedi gwasanaethu yn Adran y Gwarchodlu fel rhan o 3ydd Brigâd y Gwarchodlu, a oedd yn cynnwys Bataliwn 1af, Cyffinwyr De Cymru, 4ydd Bataliwn, Gwarchodlu’r Grenadwyr, 2il Fataliwn, Gwarchodlu’r Alban a Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig. Cymerodd ran ym Mrwydr Flers – Courcelette – rhan o frwydr 5 mis y Somme – ond cafodd ei ladd ar 25 Medi 1916, yn 24 oed.

Erthygl y Western Mail ar farwolaeth y Preifat David James o Ddowlais; a’i gofnod yn Llyfr Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fel llawer o ddynion a fu farw yn y gwrthdaro rhwng 1914-1918, ni chafodd ei gorff erioed ei adnabod, ac fe’i enwir ar Gofeb Thiepval. Dyfarnwyd medal Buddugoliaeth a Rhyfel Prydain iddo, ynghyd â Seren 1915. Adroddwyd am ei farwolaeth yn y Western Mail ar 13 Hydref 1916 (gweler ar yr ochr).

Daeth y rhyfel i ben ym mis Tachwedd 1918, ond roedd ei hail fab. Thomas James, wedi ymuno â’r 13eg Gatrawd Gymreig ac wedi cael ei glwyfo yn Ffrainc – a bu farw o’i glwyfau, yn 21 oed, ar ddydd Nadolig 1918. Enillodd fedal Buddugoliaeth a Rhyfel Prydain hefyd.

Roedd ei thrydydd mab, James, (oedd yn cael ei adnabod fel Jack James) wedi ymuno â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac aeth i faes y gad ar 1 Rhagfyr 1915. Cafodd ei glwyfo yn ystod y rhyfel, a dyfarnwyd medal Buddugoliaeth a Rhyfel Prydain iddo, ynghyd â medal Seren 1915 a’r Bathodyn Rhyfel Arian am glwyfau. Cafodd ei ryddhau ar 28 Ionawr 1919.

Fodd bynnag, bu farw ar 23 Mehefin 1920 yn 8 Cross Francis Street, yn 24 oed, gyda’i dad yn bresennol, deunaw mis ar ôl ei frawd Thomas. Mae ei dystysgrif marwolaeth yn cofnodi’r ffaith ei fod yn “Gyn-Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig (Disgybl Peirianwyr Mwyngloddio)”, ac mai “Twbercwlosis Cyffredinol” oedd achos y farwolaeth. Claddwyd ef ar 26 Mehefin 1920 ym mynwent Cyngor Merthyr Tudful, Pant.

Mae pob un o’r tri mab a fu farw yn y Rhyfel Mawr yn cael eu rhestru yn Llyfr Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, sydd yn cael ei gadw yn y Gell yn Nheml Heddwch Cymru hyd heddiw; ac sydd yn cael ei goffáu gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Bu farw gŵr Minnie, William James, yn 68 oed; roedd wedi gwasanaethu fel Cwnstabl Arbennig yn y Rhyfel Mawr, a chafodd ei gladdu ar 20 Tachwedd 1936 ym Mynwent Cyngor Merthyr Tudful, Pant.

 

Minnie fel ‘Mam Cymru’

Ym mis Tachwedd 1938, cafodd Minnie ei gwthio i lygad y byd, pan benderfynodd yr Arglwydd David Davies y byddai’n hoffi cael mam o Gymru a oedd wedi colli meibion yn y Rhyfel Mawr i agor Teml Heddwch ac Iechyd Cymru – ar ran yr holl famau a oedd wedi colli meibion.

Yn ei chyfweliad gan y wasg, eglurodd fod ganddi “drôr o gyfrinachau” gartref, lle’r oedd yn cadw mementos o’i thri mab a gollodd eu bywydau dros eu gwlad. Dyma oedd eu tystysgrifau ysgol, hen lythyrau o’r rheng flaen, anrhegion bach a roddwyd iddi gan y bechgyn pan roeddent adref ar wyliau, a’u medalau. Dywedodd y byddai’r eitemau hyn yn cael eu claddu gyda hi pan fydd hi’n marw – mai hi a neb arall oedd piau nhw.

Yna, aethpwyd â hi i lawr i’r gell, lle byddai llyfr y cofio Cymru yn cael ei osod. Dywedodd wrth y wasg ei bod yn credu ei bod yn hyfryd. Roedd hi’n meddwl y byddai ei meibion: “mor falch ohonof i – dwi’n hapus i gael fy newis er eu mwyn nhw.” Eglurodd sut roedd ei bechgyn wedi gwasanaethu a marw. Eglurodd ei bod, ar bob Dydd y Cadoediad, yn aros gartref ac yn ystod y ddau funud o dawelwch, y bydd yn mynd i ystafell wely ei meibion ar ei phen ei hun, ond er mwyn cofio. Dywedodd wrth y wasg:

“All who come into this building must feel strongly for peace. It will be lovely for the young people to come here. They will be so impressed. And the mothers and fathers, too, for the sake of their children must come here.”

Eglurodd bod ei thri mab wedi gweithio yng Ngwaith Haearn Dowlais, lle cofnododd tabled eu haberth.

Wrth iddi adael y Deml, trodd am ennyd i edrych arni eto, ac meddai:

“I feel so happy for my sons. I shall feel them near me when I come back to open this beautiful building.”

 

 

Calon a Meddyliau: ‘Mamau Trasig’ a ‘Breninesau Heddwch’

Deilliodd y syniad i ofyn i fam gyffredin fod yn ‘Frenhines Heddwch’ Cymru yn sgil math hollol wahanol o Frenhines yn gwrthod y gwahoddiad. Ym 1937, tra’r oedd y Deml Heddwch yn cael ei hadeiladu, roedd yr Arglwydd Davies wedi ysgrifennu i Balas Buckingham yn gofyn a fyddai’r Dywysoges Elizabeth ifanc, brenhines y dyfodol, yn agor yr adeilad yn symbolaidd. Atebodd Ysgrifenyddes y Frenhines Elizabeth, sef y Fam Frenhines trwy ddweud bod y Dywysoges Elizabeth yn rhy ifanc; a bod y teulu eisoes wedi mynd ar daith Frenhinol o amgylch de Cymru (ym mis Gorffennaf 1937), ac y gellid ystyried dychwelyd mor fuan fel ffafriaeth.

Nid oedd yr Arglwydd Davies yn hapus iawn â’r sarhad amlwg hwn, gan ddatgan yn swta mewn memo … “I am minded to ask the oldest and poorest wife of an Ocean (Colliery) workman” to perform the task in their (majesties’) place.

Ymatebodd ei gydweithwyr i ddweud eu bod yn credu bod y syniad yn “hollol wych” … Pe bai hyn yn ‘ Deml y Bobl ‘, yna byddai “cynrychiolydd o’r Cymry – a’r colledion a ddioddefwyd ganddynt drwy ryfel – yn lansio menter er budd y bobl” yn llawer mwy apelgar (er yn yr un ddogfen,  mae yna sylw lletchwith o ddoniol hefyd mai “a workman’s wife could hardly be expected to make sonorous speeches – sy’n adlewyrchu agweddau’r oes, ac sy’n dangos pa mor bell mae’r mudiad cydraddoldeb wedi newid agweddau! Gol.). Dewiswyd y cwmni PR, Andrew Reid of London, i redeg ymgyrch yn y wasg, a orliwiwyd yn y cyfryngau Prydeinig fel ‘ymgyrch i chwilio am famau mwyaf trasig y genedl’.

Llwyddodd i gipio dychymyg y cyhoedd, a bu’n llwyddiant ysgubol gyda’r wasg, gan gynhyrchu misoedd a misoedd o gyhoeddusrwydd, o’r Alban i Dde Affrica a Seland Newydd, ar gyfer agor adeilad cyhoeddus yng Nghaerdydd a fyddai fel arall, heb gael llawer mwy na darllediadau rhanbarthol. Roedd canghennau lleol a rhanbarthol y Lleng Brydeinig yn allweddol wrth ddod â’r stori i’r amlwg, sef effaith rhyfel ar fenywod a theuluoedd ar draws y byd.

Daeth y Deml Heddwch yn fwy na dim ond adeilad … yn driw i weledigaeth yr Arglwydd Davies, daeth i gynrychioli syniad, rhagolwg, yr awydd i ddod â phobl at ei gilydd i ganolbwyntio ar adeiladu gwell byd – hyd yn oed wrth i gymylau’r Ail Ryfel Byd ymgasglu ar y gorwel.

 

Mamau’r Byd

 

 

Gwahoddodd yr Arglwydd Davies gyfanswm o 24 o famau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a gwledydd cysylltiedig i’r agoriad, gan drefnu trên arbennig o Lundain.

  • Siaradodd Mrs R Struben, o Undeb De Affrica, ar ran mamau’r Gymanwlad Brydeinig.
  • Cynrychiolodd Mrs Cederlund o Sweden, famau gwledydd Scandinafia
  • Siaradodd Mrs Moller ar ran menywod Yr Unol Daleithiau 
  • Siaradodd Madame Dumontier o Ffrainc dros famau’r gwledydd Ewropeaidd.

 

 

 

Mamau Prydain Fawr

  • Yn cynrychioli Gogledd Iwerddon oedd Mrs Nixon o Portrush, Co. Antrim. Gwasanaethodd, a bu farw pedwar allan o bump o’i meibion yn y Rhyfel Mawr. Lladdwyd tri ohonynt ar faes y gad, bu farw un o glwyfau a dderbyniwyd yn gwasanaethu. Roedd ei gŵr wedi gwasanaethu gyda’r Arglwydd Roberts yn Kandahar. Gwisgodd Mrs Nixon 20 medal yn y seremoni agoriadol.
  • Yn cynrychioli Ucheldiroedd yr Alban oedd Mrs Mary Lamont o Pitlochry (cartref y Foneddiges Davies). Gwasanaethodd tri mab, cafodd un ei ladd, un ei ryddhau, un ei glwyfo, gydag un mab yn dal i wasanaethu yn India. Rwyf wedi enwi un fel Reifflwr 52268 John Henry Lamont, a wasanaethodd gydag 16eg Bataliwn y Reifflwyr Gwyddelig Brenhinol. Bu farw ar 24 Awst 1918, yn 19 oed, a chladdwyd ef yn Bertenacre Military, Flertre. Mynwent. Rhestrwyd ef yn fab i George a Mary Lunn Lamont, o Fonab stables, Pitlochry, Perthshire.
  • Yn cynrychioli Gogledd Ddwyrain Lloegr oedd Mrs R. Gibson, o Newcastle on Tyne. Gwasanaethodd dau fab, ac fe’u lladdwyd. Cafodd ei gŵr, gyda grym rhyddhad, ei ail-ymrestru yn y Rhyfel Mawr. Rwyf wedi adnabod un fel M2/104574 Rhingyll Charles Thomas Gibson, M.M. Corfflu Meddygol Brenhinol Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol. Bu farw ar 10 Awst 1918 yn 35 oed, ac fe’i claddwyd yn Gosforth (St. Nicholas), Northumberland. Fe’i restrwyd yn fab i’r diweddar Robert a Jane Gibson o Brandling Village, Newcastle-on-Tyne; gŵr Isabell Gibson, o Siambrau’r Cyngor, High St., Gosforth.
  • Yn cynrychioli Gogledd Orllewin Lloegr oedd Mrs Rachael Houlgrave o Lerpwl. Fe gollodd bedwar mab yn y Rhyfel, bu farw un yn garcharor yn Twrci, a bu farw un arall ar ôl cael ei rhyddhau. Gwasanaethodd a goroesodd pumed mab. Rwyf wedi adnabod5364 Is-Ringyll Nathaniel Houlgrave, “C” Coy. 10fed Bataliwn, Ffiwsilwyr Sir GaerhirfrynBu farw ar 29 Mehefin 1916 yn 25 oed.  Cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Rhif. 1 Morlancourt. Cafodd ei restru fel mab Francis a Rachel Houlgrave, o 424, Mill St., Dingle, Lerpwl.
  • 5484 Preifat Samuel Houlgrave, 10fed Bataliwn Ffiwsilwyr Sir Gaerhirfryn. Bu farw ar 7 Gorffennaf 1916, yn 23 oed. Cafodd ei gladdu yng Nghofeb Thiepval, gan nad oes dim bedd hysbys iddo. Rhestrwyd fel yr uchod.37051 Preifat W. Houlgrave, 3ydd Bataliwn Cyffinwyr De Cymru. Bu farw ar 23 Ebrill 1918, yn 24 oed.  Cafodd ei gladdu ym Mynwent Rhyfel Baghdad (Giât y Gogledd). Cafodd ei restru fel yr uchod.
  • Yn cynychioli’r Canolbarth oedd Mrs G. Henson, o Cotgrave, Notts. Collodd un o ddau o feibion. Gwasanaethodd ei merch yn W.A.A.C.
  • Yn cynrychioli East Anglia oedd Mrs E. Lewer o Aldeburgh, Suffolk. Bu farw ei hunig fab yn yr Uned Diriogaethol gyntaf i fynd i ryfel ym 1914.
  • Yn cynrychioli Llundain oedd Mrs Mary Sawyer o Battersea, merch i un o gyn-filwyr y Crimea. Gwasanaethodd ei thri mab, lladdwyd un, bu farw un wedyn, a gadawyd un yn analluog. 653491 Reifflwr Charles Louis Sawyer, “B” Coy, Catrawd Llundain (Reifflwyr Cyntaf Surrey).a fu farw 6ed Tachwedd 1917, yn 25 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Naval Trench, Gavrelle.  Rhestrwyd ef yn fab i James a Mary Sawyer, o Battersea, Llundain; yn ŵr i Annie Caroline Dennington (Sawyer gynt, Nee Blake), o 62, Ford Mill RD., Bellingham, Catford, Llundain.

 

Mamau a Phentrefi Diolchgar

Ymunodd y mamau a ddioddefodd brofedigaeth â “mamau mwyaf diolchgar” Cymru – menywod yr oedd eu teuluoedd cyfan wedi dychwelyd o’r Rhyfel Byd Cyntaf heb eu hanafu – a chan gynrychiolwyr ‘pentrefi diolchgar ‘ Cymru – dim ond tair cymuned lle dychwelodd eu milwyr Rhyfel Byd Cyntaf i gyd yn ddianaf:

 

Gwyliwch raglen y BBC Thankful Villages of Wales 

 

Sylw yn y wasg i agoriad y Deml Heddwch, Tachwedd 1938 – gwyliwch ar Flickr

 

Diwrnod Agoriadol y Deml Heddwch, 23 Tach 1938

Teml Heddwch ac Iechyd Cymru oedd yr adeilad cyntaf i gael ei adeiladu ym Mhrydain i greu symbol o ymroddiad Cymru a’i phobl i’r ddau achos dyngarol mawr hwn.

Ar y diwrnod, roedd trên arbennig wedi gadael Paddington am 8.20 a.m. i gyrraedd Caerdydd am 11.20 a.m. Yna, defnyddiwyd y bysys i ddod â’r mamau a chynrychiolwyr eraill i Deml Heddwch ac Iechyd Cymru. Roedd y tywydd y diwrnod hwnnw yn ddiwrnod nodweddiadol o fis Tachwedd – gyda gwyntoedd cryfion a rwygodd ganghennau oddi ar goed ym Mharc Cathays.

 

Am 11.45, cafwyd anerchiad cyflwyniadol ar risiau’r Deml gan yr Henadur Syr Charles H. Bird C. B. E, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.  Meddai yntau, “We are assembled here to day to take part in the solemn dedication of this building for the noble purposes for which it was erected.

“Much thought has been given to the question as to who should be asked to unlock the door on the occasion of to-day’s function, and it was felt that no better choice could be made than some representative Welsh mother, to represent not only the mothers of Wales and the Empire, who lost their sons in the Great War, but also to the mothers of other countries, the loss of whose sons has brought such poignant sorrow to them, whatever their nationality may be.

“So it is that we have with us today Mrs James of Dowlais who lost three of her sons, and we are all happy in the knowledge that she has been spared to join with us in this ceremony of dedication.

“It is, therefore , with great sense of the honourable position to which I have been appointed as chairman of the Board of Trustees of the Welsh National Temple of peace and Health, that I now call upon Mr Percy Thomas, the architect of this building to present Mrs James with the key, and to request her to perform the opening ceremony.”

 

Yn y seremoni, roedd Mrs James yn gwisgo het ac yn dal tusw mawr o garnasiwns coch,  a roddwyd iddi gan yr Anrhydeddus Arglwyddes Davies, ac roedd yn gwisgo’r tair set o fedalau oedd yn perthyn i’w meibion. Cyflwynwyd Allwedd Aur iddi gan Mr Percy Thomas, y pensaer, i agor drysau’r Deml. Dywedodd: “Mrs James I have pleasure in presenting you with this key and asking you to accept it as a little token of this what I know must be a memorable occasion for you.” Meddai Mrs James “Thanks”.

Siaradodd Mrs James i’r meicroffon i roi ei haraith fer ond hanesyddol:

“We are assembled here today to take part in the solemn dedication of this building for the noble purposes for which it was erected. In the name of the women of Wales it is my privilege to open the building. I dedicate it to the memorial to those gallant men of all nations who gave their lives in the war that was to end war. I pray that it may come to be regarded by the people of my country both of our generation and of those that are to follow as a constant reminder of the debt we owe to the millions who sacrificed their all; in a great cause, and as a symbol of our determination to strive for justice and peace in the future.”

 

Am ei bod yn siarad mewn llais isel, ac er gwaetha’r meicroffon, dywedodd y papurau newydd nad oedd pob un o’r cannoedd o bobl a oedd yn bresennol yn gallu ei chlywed.

Yna, cymerodd yr allwedd aur o’r blwch cyflwyno ac yn symbolaidd, rhoddodd yr allwedd i mewn i glo’r drysau efydd mawr, gwthiodd y drws ar agor, a hi oedd y person cyntaf o’r rheiny a ymgynullodd y tu allan i fynd i mewn i’r Deml Heddwch newydd ei hagor. Daeth y gwesteion i mewn i’r Neuadd Fawr, ac eistedd i lawr.

Yna, aeth Mrs James a’r mamau oedd wedi dioddef profedigaethau i’r Neuadd Fawr, a safodd y dorf wrth i’r mamau llawn galar a chynrychiolwyr eraill ddod i mewn. Fe gerddont i lawr yr eil ganol i’r platfform. Safodd cannoedd o westeion o bob cwr o’r byd mewn teyrnged a pharch.

 

Y mamau wedi ymgasglu y tu allan; ac yn cerdded i mewn i’r Deml

 

Seremoni Agoriadol y Deml

 

Safodd y mamau a ddewiswyd i gynrychioli gwledydd o bob cwr o’r byd a siarad. Yn gyntaf, siaradodd Mrs E. Lewer o Aldeburgh ar ran mamau Prydain Fawr, yna, siaradodd Mrs R Struben o Undeb De Affrica, ar ran mamau’r Gymanwlad Brydeinig. Meddai Mrs Cederlund o Sweden, ar ran gwledydd Scandinafia:

“In the name of the women of Scandinavia I associate myself with the dedication of this building. May it be a constant reminder to the people of Wales of their duty to further the cause of progress, freedom, peace, and justice and of the debt they owe to those who fell in the defence of these ideals.”

 

Siaradodd Mrs Moller am yr U.D.A., a siaradodd Madame Dumontier o Ffrainc am wledydd Ewrop.

Darllenodd pump o’r mamau oedd yn cynrychioli bron y byd i gyd negeseuon o ewyllys da o’u rhanbarthau, gan siarad yn eu hieithoedd eu hunain.

Am 12.00 hanner dydd, dechreuodd yr Is-Iarll Cecil o Chelwood wasanaeth o gysegru, a rhoddodd anerchiad i’r rheiny oedd yn bresennol, ac yna, cafwyd areithiau helaeth gan nifer o ffigurau proffil uchel, a negeseuon gan arweinwyr y byd (a ffigurau o Gymru) a gafodd eu darllen gan yr Henadur Charles Bird – gan gynnwys Arlywydd yr UD, Roosevelt, Llysgennad yr UDA i Ewrop Mr. Joseph Davies, y Gwir Anrhydeddus William Hughes o Gabinet Awstralia, Mr Charles Evans Hughes, Prif Ustus Llys Goruchaf yr Unol Daleithiau, ac yn olaf, Mr David Lloyd George, y cyn-Brif Weinidog.

Yna, canodd y gwesteion anthem genedlaethol Cymru, gan gloi gyda’r Anthem Genedlaethol. Wrth i’r cyfan adael, chwaraeodd yr organydd “Occasional Overtures” gan Handel.

“In the name of the women of Scandinavia I associate myself with the dedication of this building. May it be a constant reminder to the people of Wales of their duty to further the cause of progress, freedom, peace, and justice and of the debt they owe to those who fell in the defence of these ideals.”

Am 1 p.m, cawsant eu croesawu yn Neuadd y Ddinas, lle cafwyd derbyniad dinesig gan yr Arglwydd Faer, yr Henadur W. G. Howell J.P, a’r Arglwyddes Faeres o Gaerdydd a Chorfforaeth Dinas Caerdydd. Am 1.15 p.m. cawsant ginio, gyda rhestr o areithiau a llwncdestunau a oedd bron mor helaeth â’r fwydlen flasus:

Temple of Peace Opening Luncheon

Grapefruit Cocktail
Crème Portugaise
Sole Bonne Femme
Roast turkey Chipolata
Croquette Potatoes
Brussel Sprouts Green Peas
Passion Fruit Ice Souffle
Fresh Fruit Salad and Cream
Cheese and Biscuits
Coffee

 

Ymysg y llwncdestunau a’r areithiau niferus, soniodd yr Arglwydd Faer, yr Henadur W.G. Howell, yn arbennig, am y mamau;

“And particularly, do we welcome within our borders the women of courage from all parts of the Kingdom and from other countries who gave their sons in the service of their countries in the Great War and who gave themselves, in reality, made the supreme sacrifice. Wee glad to have the opportunity of meeting with them within the precincts of this City and shall honour and revere them and their sons as long as memory lasts. It may be some solace for them to know that the heart of this City beats in sympathy and in admiration for them.”

 

Daeth y digwyddiad i ben yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, a gadawodd y trên arbennig Gaerdydd am Lundain am 4.20 p.m. Am 5 p.m, rhoddodd yr Arglwydd a’r Arglwyddes Davies dderbyniad yn Ystafelloedd Connaught i 500 o gynrychiolwyr o ganghennau Cyngor Cenedlaethol Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd.

Y noson honno, cynhaliwyd cyfarfod gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn Nheml Heddwch ac Iechyd Cymru, gyda chynrychiolwyr canghennau Cyngor Cymru Cynghrair y Cenhedloedd. Dechreuodd am 7 p.m. gyda dwy funud o dawelwch, ac yna emyn, anerchiad y Cadeirydd, ac anerchiad gan yr Arglwydd Davies.

Tybir bod Minnie James wedi mynd adref ar ôl trafodion y prynhawn. Yn ddiweddarach, dywedodd wrth ohebwyr ei bod wedi bod yn foment balch, ac meddai:

“I felt every moment of it; but I had a duty to perform in the names of my sons and the mothers of the world. That helped me.”

 

Bywyd Diweddarach Minnie James

Ymddengys nad yw Minnie wedi cael unrhyw gysylltiad pellach â’r Deml Heddwch, nac ychwaith, gydag unrhyw digwyddiadau eraill ar ôl yr agoriad. Ymddengys ei bod hi wedi tynnu’n ôl o gymdeithas yng Nghymru yn gyffredinol, gan ei bod yn berson eithaf preifat – ond ei bod yn amlwg yn adnabyddus yn yr ardal leol.

Ei theulu oedd un o’r rhai cyntaf i gael teledu, a byddent yn gwahodd y plant i gyd yn y stryd i wylio’r rhaglenni. Roedd Minnie James yn amlwg yn hoff iawn o’r plant yn y stryd ac yn mwynhau gwylio ymatebion y plant i’r digwyddiadau ar y teledu. Roedd hi bob amser yn cynnal parti Calan Gaeaf i’r plant ac yn gwahodd pawb i’r parti. Roedd hi yn y parti heddwch ym mis Mai 1945 a gynhaliwyd yn Cross Francis Street, i ddathlu diwedd yr ail ryfel byd. Tynnwyd ei llun yn edrych yn ysblennydd mewn het wych, yn eistedd gyda’r holl blant yn y parti ar y stryd.

Bu farw Minnie James yn 87 oed, a chafodd ei chladdu ar 3 Ebrill 1954 ym Mynwent Cyngor Merthyr Tudful, Pant. Rhoddwyd gwybod am ei marwolaeth yn y Merthyr Express ar 10 Ebrill 1954 (Tudalen 16.) Mae hyn yn sôn ei bod hi wedi agor y Deml Heddwch ym 1938, a’i bod hi wedi bod yn ysbrydegydd gweithgar am fwy na 71 o flynyddoedd.  Mae’n datgelu, ar adeg ei marwolaeth, bod ei mab ieuengaf, William, yn fyw, a bod ei merch, Winifred, yn fyw hefyd.

Nodwyd yn y papur:

“It is difficult for those who knew her to realise life without Mrs James. She had known great sorrow in World War 1, her three sons, David, Jack and Tom made the supreme sacrifice. This experience merely enriched her life and was responsible for her many ministrations of good. He home was a sanctuary to many and the obvious tributes paid reveal the esteem in which she was held by her close as well as by far distant friends.
“She will long be remembered for her gentleness, her immense triumph over personal sorrow and serenity of spirit. It was a privilege to have known her. Her home and wide circle of friends gaze sadly at the vacant chair but gratefully recall the lines:- “The memory of the just is blessed”. She will long be remembered as the heroine of the spirit who was so aptly chosen as official opener of the “The Temple of Peace”.

 

Ni phriododd ei merch a’i mab, Winifred, a oedd yn cael ei hadnabod fel “Winnie”, a William, oedd yn cael ei adnabod fel “Billy”, a symudont allan o 8 Cross Francis Street ym 1968. Nid yw’n ymddangos bod ei phlant a oroesodd wedi cael unrhyw blant eu hunain, ac yn dilyn eu marwolaethau, claddwyd y teulu James mewn hanes.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *