Ar 26 Mehefin 2023, cwblhawyd a dathlwyd prosiectau Changemakers eleni, gyda grwpiau o fyfyrwyr o’r ysgolion oedd yn cymryd rhan, sef Malpas Court, Casnewydd, a Bryngwyn, Caerfyrddin yn dod i’r Deml Heddwch ac Iechyd i rannu eu gwaith a’u cyflawniadau yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai ar themâu masnach deg a datrys gwrthdaro heb drais.

Mae Changemakers yn brosiect Dinasyddiaeth Fyd-eang, sydd yn cael ei ariannu gan y Cyngor Prydeinig, sy’n ceisio rhoi cyfle i ddysgwyr a phobl ifanc feddwl yn feirniadol ar faterion byd-eang, cyn cynllunio a gweithredu gyda’i gilydd i greu newid cadarnhaol.
Yr hyn sy’n gwneud i’r prosiect atseinio gyda’r bobl ifanc yw bod y themâu a archwiliwyd yn cael eu dewis ganddynt, gydag arweiniad a chyngor gan athrawon a WCIA. Yn y flwyddyn flaenorol, mae grwpiau o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn prosiectau sy’n amrywio o; ffoaduriaid, effaith ffonau symudol a ffasiwn fyd-eang.
Archwiliodd Ysgol Uwchradd Bryngwyn hil-laddiad trwy lens yr Holocost. Edrych i mewn i’r ‘bobl gyffredin’ ar bob ochr sy’n cael eu tynnu i mewn i erchyllterau, dioddefwyr, cyflawnwyr ac achubwyr.
“Fe wnaeth y thema ein hysgogi i ystyried sut y gall pobl gyffredin, fel ni, chwarae rhan fwy nag y gallem ei dychmygu. Rydyn ni gyd yn bobl gyffredin heddiw a allai fod yn rhyfeddol yn ein gweithredoedd. Gall pob un ohonom wneud penderfyniadau i herio rhagfarn, sefyll i fyny at gasineb, codi llais yn erbyn erledigaeth ar sail hunaniaeth, i siopa’n gyfrifol.”

Cynhaliodd y myfyrwyr Ddiwrnod Cofio’r Holocost arbennig, lle buont yn creu fflamau coffa, a sefydlodd grŵp bach delegynhadledd gyda goroeswr yr Holocost, Ruth Pozner i glywed ei stori bwerus.
“Roedd clywed stori Ruth Posner yn anhygoel. Er gwaethaf popeth yr aeth drwyddo, mae hi’n gryf ac yn angerddol wrth rannu ei phrofiad. Mae hi’n ddewr. Roedd hwn yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio.” – Alex, myfyriwr blwyddyn 11 Bryngwyn.
Datblygodd Malpas Court brosiect o amgylch defnydd a gwastraff dŵr, gan fyfyrio ar y ffordd y defnyddir dŵr yma ac mewn mannau eraill. Roedd hyn yn cynnwys ystyried sut y gall pob un ohonom chwarae rôl wrth leihau gwastraff ond hefyd sut, i rai ohonom, bod gennym fwy o opsiynau o ran y dŵr y mae gennym fynediad iddo. Roedd eu pwnc yn amrywiol, ac yn caniatáu iddynt archwilio eu gweithfeydd trin dŵr lleol ond hefyd, i archwilio awgrymiadau ar ddefnyddio dŵr a gwastraff mewn gwahanol leoedd yn y byd. “Roedd yn ddiddorol gweld y brwydrau mae rhai pobl yn eu hwynebu’n ddyddiol”, meddai Sonny

Dyfyniad Kate – “Ohono [changemakers], maen nhw wedi sylweddoli am y darlun mwy o ran materion byd-eang, [fe wnaethom] edrych ar faterion lleol a’r pethau bach ma’ nhw’n gallu gwneud sy’n teimlo sydd o fewn eu rheolaeth nhw er mwyn gwneud newid ac yna, lledaenu’r gair i bobl eraill wneud yr un peth. Ar lefel syml i gael effaith.
Yn y gynhadledd, cymerodd y ddau grŵp ran mewn gweithdai wedi’u trefnu gan Cymru Masnach Deg a’r Crynwyr ym Mhrydain yn y drefn honno. Roedd y gweithdai yn sesiynau difyr, a oedd yn rhoi cyflwyniad i themâu allweddol sy’n cyd-fynd â’u prosiectau eu hunain. Dysgodd Kadun, Cymru Masnach Deg, ychydig i’r bobl ifanc am beth yw egwyddorion Masnach Deg. Helpodd fyfyrwyr i ysgrifennu llythyr at athro neu wleidydd lleol, gan ddefnyddio iaith berswadiol i roi gwybod i bobl sut i brynu neu gefnogi Masnach Deg.

Y peth gorau a ddysgwyd o’r gweithdy oedd ‘meddwl ychydig mwy am gysylltiad byd-eang, o ble mae pethau’n dod, a sut mae pobl yn cael eu trin gan y pethau hynny, [ac] o hynny, ceisio bod yn eiriolwyr dros fasnach deg’.
Roedd yr ail weithdy, a gynhaliwyd gan y Crynwyr ym Mhrydain, yn archwilio beth y gallwn ei wneud pan rydym yn gweld neu’n meddwl bod rhywbeth yn anghyfiawn neu ddim yn iawn yn y byd. Sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r gwrthdaro hwnnw mewn ffordd sydd ddim yn gwaethygu’r broblem. Ystyried sut y gellir cymhwyso egwyddorion di-drais yn ein bywydau bob dydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Nod y sesiwn oedd adeiladu’r ddealltwriaeth honno, yn ôl Ellis ‘pan rydym yn sefyll dros gyfiawnder, a sut allwn ni wneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol sy’n dal y cysyniadau o heddwch a dim trais.’
Dros ginio, clywsom gyflwyniadau gan y myfyrwyr eu hunain, a wnaeth fyfyrio ar y dysgu yr oeddent wedi cymryd rhan ynddo yn ystod y prosiectau a hefyd, a oedd yn gofyn i’w gilydd beth yr hoffent weithredu arno nesaf. Roeddem yn falch iawn o allu dathlu eu cyflawniadau gyda’n gilydd gyda thystysgrifau ac addewidion, ac ystyried sut y gallwn barhau â’r dysgu hwn yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
“Buasem wrth ein bodd yn cymryd rhan eto” meddai ein hathrawon “mae’r profiad o allu bod yn rhan o fenter ledled Cymru sy’n dod â ni allan o’r ystafell ddosbarth wedi bod yn werthfawr iawn.”
Os ydych chi’n credu y byddai gan eich ysgol neu grwpiau ieuenctid ddiddordeb mewn dysgu am yr adnoddau a’r galluoedd i fynd i’r afael â phrosiect sy’n agos atynt, buasem wrth ein bodd petasech yn cymryd rhan yn y prosiect y flwyddyn nesaf, cysylltwch â ni yn centre@wcia.org.uk, a dechreuwch ar eich taith gyda’r prosiect Changemakers.










