Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2025

Young Peacemakers Award sculpture, 2023

Ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch cymuned chi neu sydd wedi ysbrydoli eraill?

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac Academi Heddwch Cymru yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.

Rydym yn cydweithio i gynnal ein 9fed Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc flynyddol yn Eisteddfod Llangollen ar y 10fed o Orffennaf 2025 lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr. Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau (rhwng 5 a 25 bl. oed) gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol, neu gallwch ddewis i enwebu rhywun hefyd!  

  • Adeiladwr Heddwch Cymunedol Ifanc
  • Eiriolwr Lles Ifanc
  • Heddychwr Ifance
  • Hyrwyddwr Amgylcheddol Ifanc
  • Hyrwyddwr Cenedlaethau’r Dyfodol Ifanc

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 23ain o Fai 2025.

Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau ar yn ogystal â’r ffurflen gais yma: Gwobrau Heddychwyr Ifanc – 2025 – Welsh Centre for International Affairs.  Anfonwch eich ceisiadau at  centre@wcia.org.uk

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *