Yr Argyfwng yn Wcráin

Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Gynradd 

1. Siarad gyda phlant am ryfel: 

Fel mae fy nghyd-weithiwr Amber Demetrius wedi ysgrifennu yn ei blog ‘Mam, mae newydd drwg am Wcráin‘, yn naturiol rydyn ni eisiau amddiffyn ein plant rhag y newyddion drwg sy’n digwydd yn y byd ac mae’n debyg mai rhyfel yw’r newyddion gwaethaf posibl.  Y broblem yw bod plant eisoes ‘allan yna’.  Maen nhw’n ymwybodol iawn ac maen nhw eisoes yn casglu darnau o wybodaeth o sgyrsiau oedolion ac o’r newyddion. 

Felly, onid ydy hi’n well delio gyda phynciau anodd mewn ffordd agored sy’n briodol i oedran, i ddweud wrth blant, ateb eu cwestiynau a’u galluogi i feddwl yn feirniadol am faterion byd-eang? Y nod yma yw peidio â dychryn plant yn ddiangen, ac yn lle hynny, tawelu eu hofnau drwy drafodaeth gytbwys a’u galluogi i wneud synnwyr o’r byd.  Dylid eu cefnogi hefyd i weithredu fel ‘dinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’ fel eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud rhywbeth i helpu’r sefyllfa. 

Dyma rai awgrymiadau ynghylch sut y gallai ysgolion gyflwyno pwnc y rhyfel yn Wcráin, os yw hyn yn teimlo’n briodol. 

2. Esbonio’r gwrthdaro mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran: 

Y dasg gyntaf, efallai, yw esbonio’r sefyllfa i blant mewn ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw.  Un ffordd o wneud hyn yw dangos tebygrwydd i sefyllfaoedd maen nhw’n gyfarwydd â nhw, fel yr iard chwarae.   

Mae’r testun isod wedi’i addasu o neges ar y cyfryngau cymdeithasol.  Defnyddiwch / addaswch hwn fel rydych chi’n meddwl sy’n addas.  Gellir ei ddefnyddio gyda delweddau fel map o’r byd i ddangos ble mae Wcráin.  Mae rhai cwestiynau wedi’u hawgrymu isod i gefnogi plant i archwilio materion ymhellach, os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.   

“Ar ôl y frwydr FAWR ddiwethaf (YR AIL RYFEL BYD) ar yr iard chwarae, daeth grŵp o blant (ARWEINWYR Y BYD) at ei gilydd a ffurfio gang o’r enw Noy Boys (NATO). Fe wnaeth yr holl blant yn y gang hwn addewid (CYTUNDEB) i fod yn glên ac yn barchus a pheidio ag ymladd yn erbyn ei gilydd dim mwy.  

Mae hyn yn golygu peidio â mynd i mewn i ran y naill a’r llall o’r iard chwarae (GWLAD) heb ganiatâd, a pheidio â thaflu ffyn na cherrig (ARFAU TRWM) at y naill a’r llall, ac mae’r DU yn rhan o’r gang hwn. 

Roedd llawer o bobl eisiau ymuno â’r Noy Boys am ei fod yn eu helpu nhw i deimlo’n ddiogel.  Yn araf, mae’r grŵp wedi bod yn tyfu, ac mae bellach yn sleifio tuag at y rhan o’r iard chwarae sy’n cael ei meddiannu gan gang cystadleuol, y Ru Crew (RWSIA).  Mae hyn wedi achosi tensiwn.   

Aeth y broblem yn waeth pan ddywedodd plentyn newydd (Wcráin) y bydden nhw’n ymuno â’r Noy Boys.  Roedd hyn yn anodd, oherwydd roedd y plentyn newydd yn arfer bod yn rhan o’r Ru Crew ac maen nhw’n chwarae yn y rhan o’r iard chwarae wrth ymyl lle mae’r gang cystadleuol.   

I ddechrau, fe wnaeth y Ru Crew fygwth y plentyn newydd ac maen nhw bellach wedi croesi i’r man lle mae’r plentyn newydd yn chwarae ac yn defnyddio ffyn, cerrig ac arfau i geisio eu gorfodi i ddod yn ôl i’w gang nhw.  Mae hyn yn torri rheolau’r iard chwarae (CYFRAITH RYNGWLADOL) ac mae pawb wedi synnu ac wedi’u ffieiddio bod hyn yn digwydd. Maen nhw i gyd wedi dweud y drefn wrth y Ru Crew ac wedi cadw cefn y plentyn newydd drwy dynnu eu harian poced nes eu bod yn rhoi’r gorau i frifo’r plentyn newydd (SANCSIYNAU).  Y gobaith yw y bydd hyn yn atal Ru Crew rhag prynu mwy o ffyn a cherrig a’u hannog i siarad yn hytrach na pharhau i ymladd. 

Ni all y Noy Boys helpu’r plentyn newydd i ymladd yn erbyn y gang cystadleuol yn uniongyrchol am nad yw ef / hi yn aelod o’u gang.  Byddai’n torri eu haddewid pe bydden nhw’n gwneud hynny a byddai bron yn sicr yn golygu y byddai’r frwydr ar yr iard chwarae yn mynd yn waeth. 

Fodd bynnag, mae’r Noy Boys wedi rhoi llawer o’u ffyn a’u cerrig eu hunain i’r plentyn newydd i ymladd yn erbyn y bwli, oherwydd nid yw hyn yn torri’r addewid. 

Am y tro, dim ond sefyll ar yr ymylon a gwylio a rhoi cefnogaeth foesol i’r plentyn newydd mae plant eraill (GWLEDYDD) yn gallu ei wneud, gan gynnwys croesawu plant sydd wedi dianc am eu bod mewn perygl o gael eu brifo (FFOADURIAID) a sicrhau eu bod yn gynnes, yn ddiogel ac yn cael digon o bethau da (BWYD a LLOCHES).  

Mae pawb eisiau i’r frwydr ddod i ben, ac mae rhai plant wedi ceisio annog pob ochr i siarad fel nad oes neb arall yn cael ei frifo ac er mwyn i’r iard chwarae fod yn ddiogel i bawb.” 

3. Rhai cwestiynau i’w hystyried: 

  • Beth ydych chi’n feddwl sy’n effeithiol o ran atal bwlio rhag digwydd neu pan fydd dau berson yn dadlau ar yr iard chwarae?   
  • A fyddai’r pethau canlynol yn gwneud y sefyllfa’n WELL neu’n WAETH, yn eich barn chi? 
  1. Anfon mwy o ffyn a cherrig i’r naill ochr neu’r llall (mae hyn yn cael ei ystyried fel ateb yn aml, ond y perygl yw bod hyn yn dwysáu’r trais, a bod mwy a mwy o bobl yn cael eu brifo) 
  1. Amddifadu’r bwli / ymosodwr o arian neu nwyddau (gallai hyn fod yn effeithiol, ond gallai wneud i gang y bwli gredu yn fwy byth bod yr ochr arall ‘yn eu herbyn’) 
  1. Llawer o bobl yn nhîm y plentyn newydd ac yn y Ru Crew yn sefyll i fyny ac yn mynnu y dylai’r ymladd ddod i ben (mae’n cymryd llawer o ddewrder, ond byddai’n golygu y gellid troi’r fantol yn erbyn y bwli….) 
  1. Galw am roi’r gorau i ymladd (STOPIO TANIO) a chael rhywun o’r tu allan (athro / cyfryngwr / TRYDYDD GWLAD / Y CENHEDLOEDD UNEDIG) i wneud i’r ddwy ochr siarad nes iddyn nhw ddod i gytundeb. 
  1. Sut ydych chi’n meddwl bod y bwli’n teimlo a pham ei fod yn gweithredu fel y mae? 

Sut mae’r rhyfel yn effeithio ar y plentyn newydd? 

Sut mae pobl yn y gang Noy Boys yn teimlo?   

4. Gweithgareddau: 

  • Darganfyddwch ble mae Wcráin ar y map.  Beth allwch chi ei ddarganfod am y wlad – er enghraifft am ei hanes, ei hiaith a’i diwylliant? 
  • Beth am Rwsia?  Beth allwch chi ei ddarganfod amdani?  Beth yw ei hanes diweddar a beth, yn eich barn chi, sydd wedi arwain ei arweinydd presennol i ymddwyn yn y ffordd mae’n ymddwyn? 
  • Edrychwch ar fap o wledydd NATO.  Ydy hyn yn awgrymu unrhyw broblemau i chi? Beth sy’n eich taro am safle Wcráin ar y map hwn? 

5. Beth allwn ni ei wneud? 

  • Gallwn ddangos undod ag Wcráin.  Mae llawer o adeiladau’n cael eu goleuo yn lliwiau baner Wcráin neu’n chwifio baner Wcráin.  Beth allai eich ysgol ei wneud? 
  • Gallwn godi arian i gefnogi pobl sy’n dianc o’r frwydr (ffoaduriaid).  Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi sefydlu apêl ddyngarol ar gyfer Wcráin.  Gallai eich ysgol hefyd godi arian drwy elusennau eraill fel Achub y Plant neu Unicef.  Gallwch weld awgrymiadau yma: 
  • Ysgrifennu at eich Aelod Seneddol lleol neu Aelod Seneddol lleol i fynnu bod Cymru / y DU yn croesawu cymaint o ffoaduriaid o Wcráin â phosibl. 
  • Cynnal Gwasanaeth i gadw pobl Wcráin (a phobl gyffredin yn Rwsia) yn eich meddyliau a’ch gweddïau.  
  • Beth am ddod yn Ysgol Heddwch?  Mae’r cynllun hwn yn rhoi mynediad i chi at adnoddau a hyfforddiant rhad ac am ddim ac yn eich cefnogi i ymgorffori heddwch yn ethos eich ysgol ac ar draws y cwricwlwm.  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â janeharries@wcia.org.uk.  
  • Dysgwch sut i gysylltu ag eraill yn gadarnhaol ac yn ddi-drais drwy gynnal gweithdai ‘Wynebu Gwrthdaro’ yn eich ysgol.  Maen nhw’n rhyngweithiol ac yn hwyl!  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â janeharries@wcia.org.uk  

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Wcráin, gan gynnwys cysylltiadau hanesyddol Cymru â’r wlad a syniadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud ewch i: https://www.wcia.org.uk/news-views-events/.  

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *