Adnoddau ar gyfer Trafodaeth a Gweithgareddau gyda Phlant Ysgol Uwchradd
1. Siarad gyda phobl ifanc am ryfel:
Un o nodau craidd Cwricwlwm Cymru yw cefnogi pobl ifanc i ddod yn ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.’ Wedi dweud hynny, sut mae mynd i’r afael â phynciau sensitif a gofidus fel rhyfel, yn enwedig pan mae’n wrthdaro fel argyfwng Wcráin sy’n datblygu’n ddyddiol drwy’r cyfryngau?
Bydd pobl ifanc yn ymwybodol iawn o’r gwrthdaro drwy’r cyfryngau a thrwy glywed oedolion yn siarad amdano. Drwy ei drafod gyda nhw, gallwn eu cefnogi i fod yn wybodus, i ofyn cwestiynau beirniadol a cheisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd. Fe allwn ni hefyd eu cefnogi fel dinasyddion gweithgar i fod yn rhan o fentrau i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro.
Dyma rai awgrymiadau o ran sut y gall ysgolion gyflwyno pwnc y rhyfel yn Wcráin. Gallwch addasu neu ychwanegu at y rhain fel rydych chi’n teimlo sy’n briodol.
2. Esbonio’r gwrthdaro mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran:
Y dasg gyntaf, efallai, yw esbonio’r sefyllfa i bobl ifanc mewn ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw. Un ffordd o wneud hyn yw dangos tebygrwydd i sefyllfaoedd maen nhw’n gyfarwydd â nhw. Mae fframwaith diwylliant gangiau yn cael ei ddefnyddio yr enghraifft isod. Defnyddiwch neu addaswch hwn fel rydych chi’n meddwl sy’n addas. Gellir defnyddio’r testun gyda delweddau fel map o’r byd i ddangos lle mae Wcráin a gwledydd NATO. Mae rhai cwestiynau wedi’u hawgrymu isod i gefnogi pobl ifanc i archwilio materion ymhellach.
“Yn nhref Neuwold mae dau gang cystadleuol, y Noy Boys (NATO) a’r Ru Crew (RWSIA). Bu heddwch rhwng y ddau ers y frwydr fawr ddiwethaf (YR AIL RYFEL BYD), gydag aelodau’r gangiau yn cyfnewid pethau roedd y lleill am eu cael (MASNACHU) – hefyd y tollau a ffyrdd o wneud pethau (DIWYLLIANT).
Yn gynyddol, mae pethau wedi dod dan fwy o straen. Mae’r Noy Boys wedi ehangu’n sylweddol, ac wedi symud tuag at diriogaeth y Ru Crew, gan roi cyllyll a gynnau i aelodau newydd (CALEDWEDD AC ARFAU MILWROL) y gallan nhw eu defnyddio i amddiffyn eu hunain a’r naill a’r llall yn erbyn unrhyw gang allanol. Mae’r Noy Boys hefyd yn ymfalchïo mewn gadael i aelodau’r gang fynegi eu barn a chael dweud eu dweud yn y ffordd mae pethau’n cael eu rhedeg (DEMOCRATIAETH) ac maen nhw wedi bod yn feirniadol o’r ffordd mae’r Ru Crew yn trefnu eu gang.
Mae’r Ru Crew yn teimlo dan fygythiad gan feirniadaeth gyson y Noy Boys ac am eu bod nhw’n rhoi cyllyll a gynnau (ARFAU) i aelodau newydd (DWYRAIN EWROP), gyda rhai ohonyn nhw’n arfer bod yn rhan o’r Ru Crew. Maen nhw’n rhedeg eu gang ar system awdurdodol lle gall fod yn anodd i bobl leisio barn wahanol. Mae arweinwyr y gang yn teimlo bod hyn yn gweithio iddyn nhw ac eisiau pwysleisio eu hawdurdod yn wyneb ehangiad Noy Boys.
Mae rhai aelodau o’r Noy Boys hefyd yn perthyn i’r E-Glwb (UNDEB EWROPEAIDD). Bu cysylltiadau da rhwng yr E-Glwb a’r Ru Crew yn y gorffennol, gyda’r ddwy ochr yn dibynnu ar y naill a’r llall i gyfnewid pethau maen nhw eu hangen (MASNACHU). Fodd bynnag, ers 2014 mae’r E-Glwb wedi bod yn fwyfwy beirniadol o’r ffordd awdurdodol mae’r Ru Crew yn gweithredu ac yn ceisio ennill rhannau o’r dref yn ôl i’w cylch dylanwad drwy eu cymryd drosodd (e.e. CYFEDDIANNAETH CRIMEA). Mae cysylltiadau wedi oeri ac maen nhw hyd yn oed yn elyniaethus.
Mae’r broblem wedi dwysau oherwydd bod tîm-U (WCRÁIN), oedd yn arfer bod yn rhan o’r Ru Crew, wedi dod yn annibynnol ac mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydden nhw’n hoffi ymuno â’r E-glwb a hyd yn oed y Noy Boys. Mae’r Ru Crew yn gweld hyn fel bygythiad uniongyrchol, oherwydd bod tîm-U yn ffinio â’u tiriogaeth. Maen nhw hefyd yn gweld tîm-U fel rhan o’u gang nhw o hyd ac eisiau eu cael nhw’n ôl – yn rhannol i wthio’n ôl yn erbyn y Noy Boys a dangos eu bod nhw’n gryf ac na ellir eu hanwybyddu yn Neuwold.
I ddechrau fe wnaeth y Ru Crew fygwth tîm-U ac maen nhw bellach wedi croesi i’w tiriogaeth ac yn defnyddio cyllyll, gynnau a rocedi i geisio eu gorfodi’n ôl i’w gang nhw. Mae hyn yn torri rheolau gang (CYFRAITH RYNGWLADOL) ac mae pawb yn Neuwold wedi synnu ac wedi’u ffieiddio bod hyn yn digwydd. Maen nhw i gyd wedi dweud y drefn wrth y Ru Crew ac wedi cadw cefn tîm-U drwy wrthod derbyn nwyddau sy’n dod gan y Ru Crew (SANCSIYNAU) nes iddyn nhw roi’r gorau i ddefnyddio grym. Y gobaith yw y bydd hyn yn atal y Ru Crew rhag prynu mwy o gyllyll, gynnau a rocedi. Mae’r Ru Crew hefyd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan y Cyngor Tref (Y CENHEDLOEDD UNEDIG), yr awdurdod uchaf yn Neuwold.
Ni all y Noy Boys helpu tîm-U i ymladd yn erbyn y Ru Crew yn uniongyrchol am nad ydyn nhw’n aelod o’u gang, ac mae cytundeb Noy Boys i amddiffyn / ymladd dros y naill a’r llall yn berthnasol i aelodau’r gang yn unig. Byddai gwneud hynny bron yn sicr yn golygu y byddai’r frwydr yn gwaethygu, a gallai waethygu i frwydr fawr arall (TRYDYDD RHYFEL BYD)
Fodd bynnag, mae’r Noy Boys wedi rhoi llawer o’u cyllyll, eu gynnau a’u rocedi eu hunain i dîm-U ymladd yn erbyn y Ru Crew, oherwydd nid yw hyn yn torri eu rheolau gang.
Am y tro, dim ond sefyll ar yr ymylon a gwylio a rhoi cefnogaeth foesol i dîm-U mae pentrefi a threfi eraill (GWLEDYDD) yn gallu ei wneud, gan gynnwys croesawu plant sydd wedi dianc am eu bod mewn perygl o gael eu brifo (FFOADURIAID) a sicrhau eu bod yn gynnes, yn ddiogel a bod ganddyn nhw ddigon i’w cadw nhw i fynd (BWYD a LLOCHES).
Mae pawb eisiau i’r frwydr ddod i ben, ac mae rhai plant wedi ceisio annog pob ochr i siarad fel nad oes neb arall yn cael ei frifo ac fel y gall Neuwold fod yn ddiogel i bawb.”
3. Deall y cyd-destun:
Er mwyn deall yn iawn beth sy’n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd, mae angen i ni ddeall y cefndir hanesyddol fel mae’n cael ei weld o wahanol safbwyntiau. Rhannwch yn grwpiau llai ac edrychwch ar yr erthyglau canlynol:
Hanes Cryno Wcráin – Local Histories
Hanes modern Wcráin – Wicipedia
Hanesydd yn Esbonio Perthynas Gymhleth Wcráin a Rwsia | HowStuffWorks
Rhai cwestiynau i’w trafod:
- Pwy sy’n ysgrifennu’r cyfrif hwn? Oes ganddyn nhw agenda?
- Beth sy’n cael ei ddweud? Beth allai fod yn cael ei adael allan? Ble mae’r gwir?
- Sut mae’r hanes yn esbonio ac yn taflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd heddiw ac agweddau a barn ar y ddwy ochr?
4. Rhai cwestiynau i’w hystyried:
- Beth ydych chi’n meddwl yw gwraidd y rhyfel?
Pŵer a dylanwad?
Gwladychiaeth?
Adnoddau?
Ideolegau gwahanol (awdurdodaeth v rhyddfrydiaeth / democratiaeth; sosialaeth v cyfalafiaeth….)
Pob un o’r uchod….?
- Beth ydych chi’n feddwl sy’n effeithiol o ran atal bwlio rhag digwydd neu ymyrryd pan fydd dau berson neu grwpiau o bobl yn dechrau gwrthdaro gyda’i gilydd?
Ydy’r ateb yn wahanol pan fyddwn ni’n sôn am wledydd yn hytrach nag unigolion? Os felly, sut?
- Ydy’r pethau canlynol yn gwneud y sefyllfa’n WELL neu’n WAETH, yn eich barn chi?
- Cyflenwi arfau i’r naill ochr neu’r llall (mae hyn yn cael ei ystyried fel ateb yn aml, ond y perygl yw bod hyn yn dwysáu’r trais, a bod mwy a mwy o bobl yn cael eu brifo)
- Cosbi’r ymosodwr drwy osod sancsiynau neu foicotio nwyddau (gallai hyn fod yn effeithiol, ond gallai wneud i gang y bwli gredu yn fwy byth bod yr ochr arall ‘yn eu herbyn’)
- Anufudd-dod sifil – llawer o bobl yn Wcráin a Rwsia yn amharu ar yr ymosodiad mewn ffyrdd creadigol ac yn protestio yn erbyn y rhyfel (mae’n cymryd llawer o ddewrder, ond gallai olygu y gellid troi’r fantol yn erbyn y bwli….)
- Galw am roi’r gorau i ymladd a defnyddio diplomyddiaeth (yn enwedig gan wlad niwtral neu’r Cenhedloedd Unedig) i wneud i’r ddwy ochr i siarad nes iddyn nhw ddod i gytundeb.
- Beth yn eich barn chi yw rôl y canlynol yn y sefyllfa bresennol?
- Propaganda / rheoli gwybodaeth
- Y Cenhedloedd Unedig
- Yr UE (gweler yr erthygl hon fel cyflwyniad)
- Cyfryngwyr posibl (Twrci, Ffrainc…..)
- Arfau niwclear…
- A oes rôl i weithrediaeth heddwch, anufudd-dod sifil a gwrthwynebiad cydwybodol mewn cyfnod o ryfel?
Gweler rhai enghreifftiau o’r rhain yn yr erthyglau isod. Rhannwch yn grwpiau i ddarllen y rhain a dewch yn ôl i drafod eich meddyliau:
Mae Pobl Wcráin yn Gwrthsefyll Rhyfel yn Ddi-drais
Yurii Sheliazhenko ar Ddemocratiaeth Nawr o Kyiv
Ai Ymwrthedd Dinesig yw Arf Cyfrinachol Wcráin?
Rwsiaid yn Siarad yn Erbyn Rhyfel
(Mae’n werth cofio bod yr hawl i wrthwynebiad cydwybodol i wasanaeth milwrol wedi’i hymgorffori mewn Cyfraith Ryngwladol)
5. Gweithgareddau:
- Darganfyddwch ble mae Wcráin ar fap y byd. Beth allwch chi ei ddarganfod am y wlad – er enghraifft am ei hanes, ei hiaith a’i diwylliant? (Gweler hefyd adran 3 uchod)
- Beth am Rwsia? Beth allwch chi ei ddarganfod amdani? Beth yw ei hanes diweddar a beth, yn eich barn chi, sydd wedi arwain ei arweinydd presennol i ymddwyn yn y ffordd mae’n ymddwyn?
- Edrychwch ar fap o wledydd NATO. Ydy hyn yn awgrymu unrhyw broblemau i chi? Beth sy’n eich taro am safle Wcráin ar y map hwn?
6. Beth allwn ni ei wneud?
- Gallwn ddangos undod â’r Wcráin. Mae llawer o adeiladau’n cael eu goleuo yn lliwiau baner Wcráin neu’n chwifio baner Wcráin. Beth allai eich ysgol ei wneud?
- Gallwn godi arian i gefnogi pobl sy’n dianc o’r frwydr (ffoaduriaid). Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi sefydlu apêl ddyngarol ar gyfer Wcráin. Gallai eich ysgol hefyd godi arian drwy elusennau eraill fel Achub y Plant neu Unicef. Gallwch weld awgrymiadau yma:
- Ysgrifennu at eich Aelod Seneddol lleol neu Aelod Seneddol lleol i fynnu bod Cymru / y DU yn croesawu cymaint o ffoaduriaid o Wcráin â phosibl.
- Cynnal Gwasanaeth i gadw pobl Wcráin (a phobl gyffredin yn Rwsia) yn eich meddyliau a’ch gweddïau.
- Beth am ddod yn Ysgol Heddwch? Mae’r cynllun hwn yn rhoi mynediad i chi at adnoddau a hyfforddiant rhad ac am ddim ac yn eich cefnogi i ymgorffori heddwch yn ethos eich ysgol ac ar draws y cwricwlwm. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â janeharries@wcia.org.uk.
- Dysgwch sut i gysylltu ag eraill yn gadarnhaol ac yn ddi-drais drwy gynnal gweithdai ‘Wynebu Gwrthdaro‘ yn eich ysgol. Maen nhw’n rhyngweithiol ac yn hwyl! I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â janeharries@wcia.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Wcráin, gan gynnwys cysylltiadau hanesyddol Cymru â’r wlad a syniadau am yr hyn y gallwch chi ei wneud ewch i: https://www.wcia.org.uk/news-views-events/.