Partneriaid Heddwch Rhyngwladol yn ymweld â’r Deml Heddwch ac Iechyd

Ar 23 Mai, cynhaliodd staff a gwirfoddolwyr WCIA yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd ddiwrnod addysgiadol a rhyngweithiol i’n partneriaid rhyngwladol o’r prosiect Erasmus ‘Dod yn Ysgol Heddwch’. Roedd y grŵp yn cynnwys 20 o fyfyrwyr a 12 aelod o staff o Rwmania, Twrci a Chymru. 

Roedd gan y diwrnod nifer o amcanion. Roeddem eisiau rhoi cipolwg i’r grŵp ar dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru fel sydd yn cael ei hymgorffori a’i dangos gan y Deml Heddwch ac Iechyd ei hun. Yr ail nod oedd rhedeg Model y Cenhedloedd Unedig, i gefnogi myfyrwyr i ennill y sgiliau a’r hyder i ymchwilio a thrafod mater pwysig o ran heddwch sydd yn digwydd ar hyn o bryd.  Roedd partneriaid rhyngwladol wedi gofyn yn benodol am hyn, fel rhywbeth y gallent ddysgu ohono a’i weithredu ymhellach yn eu gwledydd eu hunain ar ôl dychwelyd. 

Myfyrwyr a staff yn cyfarfod ei gilydd mewn ymarfer dod i adnabod eich gilydd.  

Ar ôl cyrraedd, hwylusodd Rebecca rywfaint o ymarferion rhyngweithiol ‘dod i adnabod eich gilydd’.  Cymerodd y myfyrwyr ran mewn carwsél, lle gwnaethant rannu gwybodaeth ac uno wynebau o’r gwahanol bobl oedd yn eu hwynebu.  Bu Mr (Simon) Tilley o ysgol gynradd Nant-y-Parc yn arwain cyfranogwyr mewn gêm egnïol o ‘Mae Simon yn dweud’hefyd. 

Ar ôl torri’r iâ, rhannodd y myfyrwyr yn 2 grŵp, a chymryd rhan mewn taith o amgylch y Deml dan arweiniad y gwirfoddolwyr Gunel a Tom.  Fe glywson nhw am hanes gweledigaeth a phwrpas y Deml, yna cawsant y cyfle i ymweld â’r crypt sydd yn gartref i Lyfr Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, siambr y Cyngor a’r llinell amser o dreftadaeth heddwch ar y llawr cyntaf.   

Ar ôl y daith dywys, rhoddwyd amser i fyfyrwyr gwblhau cwis heddwch, a dynnodd sylw at rai o uchafbwyntiau treftadaeth heddwch Cymru dros y 100+ mlynedd diwethaf, gan gynnwys rhoi llety i ffoaduriaid, deiseb heddwch menywod 1923-4, Neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid, a sefydlu cysylltiadau a phartneriaethau rhyngwladol 

Cafodd y Deml effaith fawr ar gyfranogwyr.  Pan ofynnwyd iddynt ar ddiwedd y dydd beth oedd wedi effeithio arnyn nhw’n emosiynol, soniodd nifer am agweddau ar daith y Deml – e.e. y Llyfr Cofio; stori Minnie James – mam mewn profedigaeth o Ddowlais a agorodd y Deml yn 1938; a stori’r bardd, Hedd Wyn, a fu farw yn Passchendaele.  
Dywedodd un person eu bod wedi dysgu am wrthwynebwyr cydwybodol.  Cafodd dau fyfyriwr o Rwmania eu hysbrydoli gymaint nes iddynt gael eu hannog i ofyn ‘Sut allwn ni gael y cyfle i weithio yma?!’ 

Cyn cinio, rhoesom amser i’r myfyrwyr baratoi ar gyfer Model y Cenhedloedd Unedig.  Roedd ysgolion wedi cael gwledydd a phynciau posib cyn yr ymweliad, ond roedd rhai wedi gallu gwneud mwy o waith paratoi nag eraill.  Fe ddewison nhw drafod y cwestiwn: ‘Sut mae modd dod â’r rhyfel yn yr Wcráin i ben’.  Roedd hon yn her, gan fod y grŵp yn cynnwys myfyrwyr uwchradd a myfyrwyr cynradd, a oedd yn gallu trafod ar wahanol lefelau. Fe wnaethom ddatrys hyn drwy ddyrannu rôl y Wasg i’r disgyblion cynradd, ac fe wnaethant gymryd rhan yn y rôl hon gyda brwdfrydedd. 

Myfyrwyr yn darllen eu datganiadau o flaen eu cyfoedion  

Ar ôl cinio, fe gychwynnodd y Model Cenhedloedd Unedig o ddifrif, gyda myfyrwyr yn cynrychioli Twrci yn rhoi araith agoriadol ac yn cynnig cynllun gweithredu posib.  Ymatebodd myfyrwyr eraill sy’n cynrychioli Rwmania, y DU, Ghana a Brasil gyda’u safbwyntiau, a chynhaliwyd trafodaeth.  Roeddem ychydig yn brin o ran gwledydd, ond roedd yn bwysig i fyfyrwyr ddeall safbwyntiau eu gwledydd eu hunain ar y pwnc.  Dewiswyd gwledydd eraill (Ghana a Brasil) oherwydd eu bod ar y Cyngor Diogelwch ar hyn o bryd, a hefyd oherwydd eu bod yn dod â phersbectif o Affrica a De America.  Ar ôl cyfnod o ddadlau, cymerodd cynrychiolwyr o wledydd ran mewn trafodaethau i ddiwygio cynnig Twrci.  Roedd y cynnig terfynol, y cytunwyd arno gan bawb, yn cynnwys cadoediad, lle i drafod a sefydlu parth milwrol niwtral.  Trueni na fuasai materion rhyngwladol yn gallu cael eu datrys mor hawdd â hyn mewn bywyd go iawn! 

Roedd y ffordd y gwnaeth myfyrwyr gymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon wedi creu argraff.  Roedd y ‘Wasg’ yn weithgar iawn hefyd, yn gwrando ar drafodaethau, ac yn drafftio ‘penawdau’ wrth iddynt fynd yn eu blaenau – gan bwysleisio anghysondebau weithiau rhwng ymddygiad cyhoeddus a phreifat y cynrychiolwyr!  Cawsant lawer o hwyl!  Gan fyfyrio ar yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu ar ddiwedd y dydd, dyma rai o’r sylwadau: 

‘Dwi wedi dysgu sut i negodi a sut mae trafod yn gweithio’ a ‘dwi wedi dysgu sut i fod yn ddiplomatig, a sut i ddatrys problemau mewn ffordd diplomatig’. 

Roedd y myfyrwyr cynradd o ysgol Nant-y-Parc yn adlewyrchu bod ‘y Wasg yn gallu bod yn dda – ond maen nhw hefyd yn gallu dweud celwydd neu gamddehongli’ be’ sy’n mynd ymlaen.  

Gan fyfyrio ar y pethau y byddent yn gwneud defnydd ohonynt yng nghyd-destunau eu hunain, dywedodd y cyfranogwyr: ‘Byddaf yn defnyddio fformat dadlau’r Cenhedloedd Unedig ac yn gweithio gyda fy nghydweithwyr’ a ‘Byddwn yn creu tîm dadlau.’ 

Ar ôl cymaint o ddadlau, roedd angen tipyn o awyr iach. I orffen y diwrnod, fe wnaethom gymryd rhan mewn llwybr heddwch o amgylch Gardd Heddwch y Deml, ac ymweld â rhywfaint o henebion a phlaciau pwysig.  Yn ôl yn y Neuadd Farmor, fe wnaeth cyfranogwyr fyfyrio wedyn ar beth yw pwrpas gardd heddwch, a beth fuasent yn ei roi yn eu gardd heddwch bersonol.  Cawsom rhywfaint o ddyluniadau hyfryd! Ar y cyfan, roedd yr ymweliad yn brofiad cyfoethog a chadarnhaol – yn rhan o ddiweddglo addas i’r hyn a fu’n brosiect Erasmus gwych.  Mae partneriaid wedi meithrin cysylltiadau dwfn, ac rydym yn gobeithio y byddant yn parhau y tu hwnt i’r prosiect ei hun.  Maen nhw hefyd wedi ymgorffori diwylliant o heddwch yn eu hysgolion mewn amrywiaeth o gyd-destunau rhyngwladol.