Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, Mawrth 8 #IWD2020 – o dan y thema fyd-eang #EachforEqual – mae WCIA yn cofio llwyddiannau rhai o heddychwyr anhygoel… cenhedlaeth gyfan o ferched o Gymru a weithredodd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf dros heddwch a chydraddoldeb y byd drwy 1923 Deiseb Heddwch Merched i America – fe’i harwyddwyd gan 390,296 o ferched ledled Cymru mewn ymgyrch o ddrws i ddrws anghyffredin, a chreu ‘deiseb 7 milltir o hyd’ sy’n parhau mewn cist dderw yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington hyd heddiw. Ddydd Llun 9 Mawrth, bydd rhan Gymreig y Ddeiseb Heddwch yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn y Senedd yn rhan o ddigwyddiad olaf WW100 ‘Cymru’n Cofio.
Yn arbennig, mae’r WCIA yn dathlu cyfraniad y rhyng-genedlaetholwr o Gymru, Annie-Jane Hughes Griffiths – a adwaenid i hanes tan yn ddiweddar fel ‘Mrs Peter Hughes Griffiths’ – a arweiniodd dirprwyaeth o ferched Cymreig i America ym mis Chwefror – Mawrth ym 1924 i gyflwyno’r Ddeiseb i Lywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge – ac ysgrifennodd ddyddiadur am eu Taith Heddwch 2 fis o’r Unol Daleithiau, a ail-ddarganfuwyd yn ddiweddar yn yr archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Dyddiadur Annie yn adrodd hanes cyfoethog Deiseb Heddwch Merched Cymru, yn ysgrifbin ac yn ‘llais’ o ferched y 1920au a greodd hanes, ac mae i’w gael drwy WCIA a Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel adnodd digidol ac fel trawsysgrif gan wirfoddolwyr (er ymchwil pellach a datblygu), ynghyd â’ thoriadau o’r Wasg o’r adeg honno gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd.
[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Tudalen Hafan Deiseb Menywod dros Heddwch” link=”https://www.wcia.org.uk/cy/peace-heritage/deiseb-menywod/”]
Yn ystod 2014-19, datguddiodd gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a grwpiau cymunedol y Ddeiseb yn raddol; ar gyfer #IWD2020, mae WCIA wedi llunio tudalen gwe, ar y cyd, gyda diweddariad adnoddau o’r 12 mis diwethaf, gan gynnwys:
- Coffa’r Ddeiseb Heddwch a ddigideiddiwyd o’r arddangosfa yn y Deml Heddwch.
- Dyddiadur Annie’s Diary – gwelir tudalennau Dyddiadur Annie yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Trawsgrifiad ‘Clwb Llyfrau’ – trawsgrifiad drafft gan wirfoddolwyr, i’w ddatblygu at y dyfodol.
- Toriadau o’r Wasg o 1924
- Pwyllgorau Trefnu Sir ar gyfer Ymgyrch Heddwch Merched Cymru, 1923.
- Adnoddau Ysgolion
- ‘Ysbrydolwyd gan Annie’ erthygl nodwedd heddychwyr
Mae ffilm fer wedi ei chynhyrchu gan Tracy Pallant ac Amy Peckham o Valley & Vale Community Arts, sy’n adrodd am brofiad gwirfoddolwyr ‘Clwb Llyfrau’r WCIA yn trawsgrifio a dadorchuddio Dyddiadur Annie o’i thaith i America yn 1924. Agorodd hyn y drysau i sawl cipolwg newydd ac ymchwil – gan gynnwys Ymchwil Doethuriaeth ar Gynghrair y Cenhedloedd gan Brifysgol Abertawe, ac adnoddau dysgu trawsgwricwlaidd a phrosiectau gan Ysgol Gynradd Alaw, y Rhondda – felly mae’r stori’n parhau i esblygu.
Trefnwyd deiseb Cymru gan Gynghrair y Cenhedloedd – rhagflaenwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru heddiw a gysegrwyd yn y Deml Heddwch ac Iechyd ym 1938. Gyda’r Ail Ryfel Byd, anghofiwyd y Ddeiseb ei hun i bob pwrpas – ‘hanes a guddiwyd tan y canfuwyd rhwymiad y Llyfr Coffa ‘i’w weld yn amlwg’ yn ’Archifau’r Deml yn 2014, wrth hel syniadau ar gyfer project Cymru dros Heddwch WW100.
Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyntaf yn 1911, gyda chefnogaeth rhagor na miliwn o bobl; mae’r diwrnod wedi cael ei ’ddathlu’n ffurfiol gan y Cenhedloedd Unedig ers 1975 ac fe’i mabwysiadwyd yn Ddiwrnod y Cenhedloedd ers 1977. Archwiliwch hanes Diwrnod Rhyngwladol y merched yma.
“IWD is about celebrating women’s achievements, raising awareness and taking action for equality. The IWD 2020 campaign theme is drawn from a notion of ‘Collective Individualism.’ We are all parts of a whole. Our individual actions, conversations, behaviors and mindsets can have an impact on our larger society. Collectively, we can make change happen.
We can actively choose to challenge stereotypes, fight bias, broaden perceptions, improve situations and celebrate women’s achievements. Collectively, each one of us can help create a gender equal world. A gender equal world can be healthier, wealthier and more harmonious – so what’s not great about that?”
Gwefan Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Yng Nghymru, drwy Women’s Equality Network, #IWD2020 events mae digwyddiadau’n cael eu cydlynu’n Genedlaethol.
Ar gyfer IWD 2019, fe gefnogodd WCIA Amgueddfeydd Gwynedd a Heddwch Nain Mamgu i arddangos ein Harddangosfa Rhyfel a Heddwch yn Storiel, Bangor rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2019. Mae’r arddangosfa wedi teithio hefyd i Abertawe, Criccieth, Croesor, ac i’r Senedd yng Nghaerdydd yn 2017-19. Pan nad oedd ar fenthyg i ganolfannau lleol, gellir gweld Arddangosfa Merched a Heddwch – a gynhyrchwyd gan y WCIA gyda’r newyddiadurwr lluniau, yn y Deml Heddwch, neu fel rhan o ddiwrnodau rheolaidd ‘Ymweliadau a Theithiau o’r Deml‘ y WCIA. Mae’r rhain hefyd yn dangos gwaith ehangach y WCIA ar Heddychwyr sy’n Ferched, tebyg i Minnie James a Mamau Heddwch y Deml (mamau Cymru a wnaethpwyd yn weddwon mewn rhyfel, a agorodd y Deml Heddwch yn 1938); a Gwersyll Heddwch Merched Comin Greenham, y 1980-90au.
Er i’r Ail Ryfel Byd amharu ar uchelgais Deiseb Heddwch Merched Cymru, Cynghrair y Cenhedloedd wedi’r Ail Ryfel byd oedd gwireddiad cymaint yr oedd y gwneuthurwyr heddwch sy’n ferched wedi ymgyrchu ynglŷn ag ef. Yn ystod 2020-24, bydd y WCIA yn dynodi UN75, pen-blwydd y Cenhedloedd Unedig yn 75 oed, wrth archwilio cyfraniadau dynion a merched Cymreig i ryng-genedlaetholdeb a hawliau dynol wedi’r Ail Ryfel Byd ac i ymgyrchu gwrth-niwclear.
Ochr yn ochr â hyn, uchelgais yr WCIA yw dathlu Canmlwyddiant y Ddeiseb sydd i ddod yn 2023-24, drwy gasglu llawer a chyfraniadau amrywiol o grwpiau cymunedol ledled Cymru at ei gilydd; ochr yn ochr â gweithio gydag eraill, yn cynnwys y Smithsonians bydd yn digideiddio a /neu yn aduno’r gist o lofnodion o America, gyda’r Datganiad Coffa ac archifau yng Nghymru – ac i rannau’r stori anhygoel yma am rymusiad merched ac arweinyddiaeth mewn materion rhyngwladol gyda Chymru a’r byd.
Ewch at Heddwch.Cymru neu e-bost WalesforPeace@wcia.org.uk os ydych am gymryd rhan un ai fel cefnogwr WCIA, sefydliad partner cymunedol, neu ymchwilydd archif / awdur gwirfoddol.