Written on 05-07-2018 by Craig Owen
Yn ystod yr wythnos 2-8 Gorffennaf, mae Cymru dros Heddwch wedi bod yn cymryd rhan yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen – gydag arddangosfa fechan dros dro sy’n ategu gwaith Pwyllgor Archifau Llangollen i gipio ‘Treftadaeth Heddwch’ yr ŵyl anhygoel hon o heddwch a chymodi, a ymgododd o ludw’r Ail Ryfel Byd ac sydd nawr yn dathlu ei phen-blwydd yn 71 mlwydd oed.
Mae cyfraniad WCIA i arddangosfa Llangollen wedi canolbwyntio ar archwilio treftadaeth neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Llangollen, a gweithio gyda’r Pwyllgor Archifau a phartneriaid lleol. Rydym yn teimlo anrhydedd mawr o gael ein gwahodd i gyflwyno hanes Treftadaeth Heddwch Cymru, fel ‘Anerchiad Llywydd y Dydd’ ar gyfer y 4ydd o Orffennaf.
Hoffai WCIA ddiolch i’n ‘Cydweithwyr Heddwch’, Awel Irene a Sarah Baylis am arwain ein gwaith gyda phartneriaid lleol Llangollen, ac i Gadeirydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE am eu cefnogaeth ar gyfer y gwaith treftadaeth heddwch parhaus hwn.
Archwilio Storïau Llangollen o’r Gorffennol
Edrychwch ar bedwar fideo am Neges Heddwch ac Ewyllys Da Llangollen (wedi’u paratoi gan Sarah Baylis ac Awel Irene, a’u golygu gan Llinos Griffin, Gwefus).
Rhannu Treftadaeth Heddwch Llangollen Heddiw
Cynhaliodd y Babell Archifau yn yr Eisteddfod Ryngwladol arddangosfa drawiadol o storïau o bob degawd, o ddechrau’r Eisteddfod Ryngwladol ym 1947, hyd heddiw – ynghyd â dyfais sgrin gyffwrdd Cymru dros Heddwch ac arddangosfa dros dro
Download LLANGOLLEN 2018 PEACE MESSAGES LEAFLET
View Flickr album of the Llangollen Archives Tent ‘Peace Heritage’ exhibition
Inspiring the Future
Read the text of Craig Owen’s address as Day President of the Eisteddfod for Wednesday 4th July (below)
Download Day President’s Address
Anerchiad Cymru dros Heddwch i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gan Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch, fel Llywydd y Dydd ar ddydd Mercher, 4 Gorffennaf
Prynhawn Da
Ym 1922, roedd y Neges Heddwch gyntaf gan Blant Cymru i’r Byd,
yn cynnwys dymuniad syml: sef
“NA FYDD ANGEN I DDIM UN OHONOM, WRTH DYFU’N HŶN,
I DDANGOS EIN BALCHDER AM Y WLAD Y CAWSOM EIN MAGU YNDDI
DRWY FYND ATI I GASÁU A LLADD EIN GILYDD. ”
Heddiw, mae gwrthdaro yn parhau i fod ar flaen meddyliau llawer ohonom.
Nid lleiaf, meddyliau ein plant ein hunain
Wrth i ni nodi’r canmlwyddiant o ddweud ‘BYTH ETO’ i ryfel
Rydym yn gweld canrif o wrthdaro
Mae plant Cymru yn aros o hyd i weld eu dymuniad yn cael ei gyflawni.
Ond mae chwilio am Heddwch wedi bod yn rhan bwysig o hanes Cymru,
Hanes ein cenedl, ein hanes ni
Dros y 100 mlynedd diwethaf.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r prosiect Cymru dros Heddwch
Sydd yn cael ei redeg gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y Deml Heddwch
A’i gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Wedi bod yn gweithio gyda llawer o bartneriaid cenedlaethol a lleol,
Yn cynnwys y Pwyllgor Archifau yma yn Llangollen
I archwilio’r cwestiwn mawr hwn:
Yn y 100 mlynedd diwethaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?
Mae’n anrhydedd mawr cael gwahoddiad i’ch annerch chi heddiw
Ac mae braidd yn frawychus, o’i gymharu â’r ffigurau disglair sydd wedi camu i’r llwyfan hwn o’r blaen
Ond mae fy hanes i mewn rhai ffyrdd yn hanes Cymru, a hanes Llangollen, ac efallai, eich hanes chi?
Hanes a rennir o bobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin
I adeiladu byd gwell.
Ym 1914-15, pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth
Cynigiodd Cymru loches i fwy na 4,500 o Ffoaduriaid o Wlad Belg
Oedd yn ceisio dianc rhag yr ymladd ar y ffrynt
Yn y 1930au, byddai Cymru’n mynd ymlaen i gynnig lloches i blant o Wlad y Basg
Oedd eisiau dianc rhag Rhyfel Cartref Sbaen
Ym 1922,
Darlledwyd
y Neges Heddwch gyntaf i Bobl Ifanc
gan blant Cymru i blant y byd
Ym 1923, llofnodwyd Deiseb Menywod dros Heddwch Cymru
gan 390,296 o fenywod ar draws Cymru gyfan
Mewn ymgyrch drws i ddrws anhygoel
Yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd
A dod yn arweinydd mewn heddwch y byd.
Ym 1926, gadawodd Pererindod Heddwch Menywod Gogledd Cymru
Benygroes yn Sir Gaernarfon
Gyda 2,000 o fenywod oedd yn hedfan y faner heddwch las
Aethant ar orymdaith i Gastell Caernarfon
Ac yna i Gonwy, ar hyd Arfordir Gogledd Cymru
A’r holl ffordd i Hyde Park
Ym 1926, cynhaliodd Cynghrair y Cenhedloedd eu Cyngres Heddwch Rhyngwladol
Yn Aberystwyth
Cyfwerth â Chynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig heddiw
Ym 1929, cynhyrchodd Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru – Athrawon Cymru –
nid yn unig y cwricwlwm ‘Addysg Heddwch’ cyntaf yn y byd
Ond hefyd, maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1929
Byddai eu syniadau yn mynd ymlaen i gael eu cadw’n gysegredig
Fel y glasbrint y sefydlwyd UNESCO arno
Ym 1935, Pleidlais Heddwch
Ym 1938, agorwyd Teml Heddwch Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Yr adeilad cyntaf yn y DU wedi’i gysegru i achos Heddwch.
Ym 1939…
Daeth y byd i ben.
Ym 1946, derbyniodd neges heddwch y plant ymateb ddirdynnol – gan blant yr Almaen.
“Mae’n flynyddoedd ers i ni glywed gan blant Cymru
SUT AETH PETHAU’N DYWYLL.
Buasem wrth ein boddau’n clywed gennych chi eto. “
Llangollen
Ym mis Mehefin 1947, yn ymgodi o erchylltra’r Ail Ryfel Byd, nid oedd dim yn cyfleu ysbryd ‘BYTH ETO’
Yn fwy na’r syniad o ŵyl gerddoriaeth, mewn lleoliad hardd, gyda heddwch a chymodi yn genhadaeth iddi
Llenwodd 52 côr o bob cwr o’r DU, a 10 o wledydd eraill,
Gae chwarae’r ysgol leol, y safwn arno nawr.
Ym 1949, darlledwyd Neges Heddwch y Plant i’r byd o Langollen
Cyflwynodd Llinos Roberts y neges gyntaf, o’r union lwyfan hon
Hyd at 1983, fe ailadroddodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd ei hun
Ac o’r adeg honno hyd heddiw, mae’r ddau wedi bod ar wahân ond yn gyflenwol
Am flynyddoedd lawer, fe ddilynodd fformat ffurfiol
Ac yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi cael ei arwain a’i ysbrydoli llawer mwy gan bobl ifanc ac ieuenctid
Yn union fel y dylai fod!
Ym 1949, croesawodd Llangollen Gôr Luebeck hefyd, gan ddangos heddwch a chymodi ar waith
Y cystadleuwyr cyntaf o’r Almaen
Roedd yr Ail Ryfel Byd yn dal yn fyw yn ein cof; roedd llawer yn Llangollen ac yn Luebeck wedi colli perthnasau yn ymladd ei gilydd
Ond ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, cynhaliodd y dref gyngerdd croeso arbennig
Oedd yn un o’r cyfnewidiadau diwylliannol cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd
Ym 1953, disgrifiwyd Côr Plant Obernkirchen gan Dylan Thomas, ar ei ymweliad â Llangollen, fel ‘yr angylion â phlethi’.
Aeth eu cân, ‘The Happy Wanderer’, i frig y siartiau
A gwerthodd recordiad y BBC / Parlophone filiynau
Am newid yn agwedd y cyhoedd mewn llai na degawd
O wrthwynebwyr gelyniaethus i gariad at gerddoriaeth
Wrth i ddiwylliannau wella drwy gerddoriaeth a chyfnewid
Dychwelodd y côr i Langollen eto ym 1960
Drwy’r 1940au a’r 50au, helpodd heddychwyr Cymru i sefydlu cyrff blaenllaw’r Cenhedloedd Unedig
Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig
Rhaglen Ddatblygu’r UNDP
UNESCO
Ymgyrchoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig a’r cyngor diogelwch
Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ILO
Sefydliad Meteorolegol y Byd … Wel, fel arfer, mae gennym ni yng Nghymru lawer o brofiad o law.
Ym 1981, dechreuodd merched o Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe orymdaith i safle’r awyrlu yn Berkshire i brotestio yn erbyn arfau niwclear.
Ni aethant adref am 19 mlynedd, gan i wersyll heddwch Greenham Common i fenywod dyfu i fod yn un o’r arddangosiadau heddwch hiraf yn ein hanes diweddar.
Ym 1985, cysylltodd Dolen Cymru, sef menter efeillio gwlad â gwlad gyntaf y byd, Cymru â Lesotho yn Ne Affrica, sydd bellach yn ei 33edd blynedd
Ym 1995, cyrhaedded Côr o Serbia Langollen, ar ôl gorfod ymarfer mewn seler
A ffoi trwy reng flaen rhyfel y Balkans i ddod â llais cysoni i Langollen
Cri am heddwch ar garreg drws Ewrop ei hun.
Yn 2004, enwebwyd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel
Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn rhan fawr o hanes Treftadaeth Heddwch Cymru
Ac mae Cymru’n rhan fawr o hanes rhyngwladol a threftadaeth yr Eisteddfod.
Chi
Ewch i’r Babell Archifau
Dewch i ddarganfod rhywfaint o storïau gwych drosoch chi eich hun
Am ryngwladolwyr ysbrydoledig, pobl gyffredin, a wnaeth bethau rhyfeddol
Yma yn Llangollen
Yn ogystal â defnyddio’r archifau
Allech chi wirfoddoli eich amser neu eich cefnogaeth?
Oes gennym ni unrhyw egin ddyngarwyr posib yn yr ystafell?
Allech chi helpu’r prosiect i ddechrau
ac i gael mynediad i Arian Treftadaeth y Loteri i gasglu’r storïau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
Yn benodol, ar gyfer dathlu pen-blwydd Llangollen yn 75 oed ymhen pedair blynedd.
Hefyd – llofnodwch Ddeiseb y Trên Heddwch
Ar y Diwrnod Heddwch y Byd ym mis Medi, bydd y ddeiseb hon yn mynd ar y trên
o drefi ar draws Cymru, i Lundain
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymuno â’r Cytundeb Gwrth Twr Arfogaeth Niwclear
Ac yn mynd ar drywydd camau rhai o’r heddychwyr gwych o’r 20au a’r 30au
Does dim rhaid i chi fod yn Mandela i newid y byd
Mae pob un ohonom yn gallu gweithredu dros heddwch yn ein ffyrdd ein hunain
Rydym i gyd yn heddychwyr
Mae pob un ohonom yn gallu cofio colli’r rhyfel
Mae pob un ohonom yn gallu gwrthwynebu gwrthdaro
Mae pob un ohonom yn gallu cynnig lloches i ffoaduriaid
Mae pob un ohonom yn gallu hyrwyddo cydraddoldeb
Mae pob un ohonom yn gallu adeiladu undod byd-eang
Mae pob un ohonom yn gallu ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Mae pob un ohonom yn gallu cydweithio.
Mae pob un ohonom yn gallu creu heddwch yn ein hamser
Yn ein hystafelloedd dosbarth, meysydd chwarae, cymunedau, diwylliannau, gwledydd,
yn ein byd, ac yn ein calonnau a’n meddyliau,
Ar gyfer WCIA a Llangollen,
Ein dymuniad a rennir yw ysbrydoli
Cenhedlaeth newydd o ryngwladolwyr
Nid ysu â hiraeth am y gorffennol sydd wedi hen ddiflannu
Ond dysgu gydag ysbrydoliaeth, a meddwl ymholgar, am bresennol sydd yma nawr
Ac i losgi gyda brwdfrydedd, am fyd o heddwch a chyfiawnder
A dyfodol i chi ei siapio.
Felly…
Ysgrifennwch, crëwch, chwaraewch, canwch, siapiwch, gwnewch e’
Mae pob un ohonoch chi yn Heddychwyr Nawr
Dyma’ch cymunedau chi
Dyma’ch Eisteddfod ryngwladol chi
Dyma eich Cymru chi
Dyma’ch byd chi.
Dyma eich darn chi o heddwch.
Chi yw heddychwyr heddiw ac yfory
Gallwch siapio heddwch yn ein hamser.
Diolch yn fawr iawn – Diolch.