Nododd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Ddiwrnod y Cadoediad ar ddydd Iau 11 Tachwedd, gyda thraddodiad anrhydeddus o ‘Droi’r Dudalen’ yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Crypt wrth galon Teml Iechyd a Heddwch Cymru – a gafodd ei hadeiladu fel cofeb y genedl i’r rheini a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a gafodd ei hagor gan famau mewn profedigaeth yng Nghymru a’r Byd.
Roedd y traddodiad yn arfer dyddiol o’r 1930au i’r 1960au, pan oedd y Deml Heddwch yn safle pererindod i berthnasau ac anwyliaid a fyddai wedyn, yn cymryd rhan mewn gwasanaeth ‘addewid o heddwch’ yn Neuadd y Cenhedloedd y Deml, yn union uwchben y Crypt. Ond ymhell o fod yn fan galaru, roedd symbolaeth y Deml bob amser yn llawer mwy rhagweithiol: sef dod â phobl Cymru at ei gilydd i weithio dros heddwch ac iechyd cenedlaethau’r dyfodol: ac osgoi rhyfel a heintiau.
Cafodd seremoni heddiw ei harwain gan Gynghorydd Treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Craig Owen, a mynychodd grŵp o ymwelwyr i’r Deml Heddwch a wnaeth wedyn, archwilio’r amrywiaeth o enwau oedd ar ddim ond un dudalen yn unig – oedd yn cynnwys menywod, nyrsys, gwirfoddolwyr, milwyr o’r corfflu milfeddygol a llafur. Mae Llyfr y Cofio yn drysor cenedlaethol, sydd wedi’i encilio mewn efydd Gwlad Belg, ar bedestal o farmor Ffrengig’ – deunyddiau sy’n cynrychioli Caeau Fflandrys – ac yn draddodiadol, trowyd y 1,205 tudalen bob dydd. Byddai enwau’n cael eu cyhoeddi yn y Western Mail wythnosau ymlaen llaw, fel y gallai teuluoedd fynd ar daith bererindod i Gaerdydd i weld arysgrif eu hanwyliaid, a chymryd rhan mewn gwasanaeth – yn aml gyda theuluoedd pobl yr oedd eu hanwyliaid wedi gwasanaethu gyda nhw. Gyda dros 35,000 o enwau wedi’u coffáu, byddai’n cymryd pedair blynedd i bob tudalen unigol ddod yn ôl i gael eu harddangos – felly roedd gan y Gwasanaethau Cofio hyn arwyddocâd mawr i’r genhedlaeth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Agorwyd y Deml Heddwch gan Minnie James, gwraig glöwr o Dowlais, Merthyr Tudful, a oedd wedi colli ei thri mab yn y rhyfel. Roedd yn cynrychioli 24 o famau mewn profedigaeth o bob rhan o Gymru, Prydain ac aelod-wladwriaethau Cynghrair y Cenhedloedd, a ddaeth gyda hi, a chafodd ei chyflwyno gan allwedd wedi’i gerfio gan Bensaer y Deml, Syr Percy. Agorodd yr adeilad gyda’r allwedd hwn ar 23 Tachwedd 1938. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi diweddaru Stori Minnie ar gyfer #RemembranceDay2021, a gellir ei darllen yma:
https://www.wcia.org.uk/wcia-news/wcia-history/the-story-of-minnie-james-and-the-temples-mothers-of-peace/
Mae’r Deml, a gafodd ei sefydlu gan gyn-Filwr a’r ‘Peacemonger’ gydol oes David Davies o Landinam, wedi bod yn gartref i ddau gorff o’r cychwyn cyntaf: Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLNU) sy’n cydlynu gweithgareddau adeiladu heddwch a rhyngwladolwyr, a Chymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru (WNMA), sy’n gweithio i ddileu Twbercwlosis. Datblygodd y cyrff hynny ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; a heddiw, mae eu gwaith yn parhau drwy Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ac mae’r adeilad yn berchen i Brifysgol Caerdydd.
Gallwch chwilio am Lyfr y Cofio Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy fynd i. www.BookofRemembrance.Wales or www.LlyfryCofio.Cymru, ac mae’r stori y tu ôl iddi wedi’i chofnodi yn: https://www.wcia.org.uk/blogs/war-and-peace/wwi-book-of-remembrance/