Cafodd “Sanctuary in the Senedd”, digwyddiad blynyddol sy’n ceisio dod â sylw i leisiau’r bobl sydd wedi cael noddfa yng Nghymru am eu profiadau o addysg, cyflogaeth, ac iechyd meddwl, ei gynnal ar ddydd Mercher, 13 Gorffennaf.”
Thema’r digwyddiad oedd lles ac iechyd pobl a wnaeth Cymru yn Gartref Noddfa.
Dychmygwch orfod gafael yn eich teulu a rhedeg, a gadael popeth rydych chi’n ei wybod a’i garu ar ôl i geisio dod o hyd i le diogel a siawns am fywyd newydd. Dyma yw hanes mwy na 100 miliwn o bobl ar draws y byd sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi oherwydd erledigaeth, rhyfel, gwrthdaro, trais neu dorri hawliau dynol. Rhannodd ffoaduriaid, sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, eu straeon unigryw am achub, a sut yr aethant ati i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Roedd pob stori a adroddwyd yn ysbrydoledig ac yn drawiadol.
Er enghraifft, soniodd Larysa am emosiynau a theimladau ceisiwr lloches, drwy esbonio sut mae trawma, ansicrwydd, byw mewn limbo, ofn a thlodi (gorfodol) yn effeithio ar sut rydym yn meddwl ac yn gweld ein bywyd. Awgrymodd mai darparu arian ychwanegol a hwyluso mynediad i addysg yw’r ateb, oherwydd mae’n rhoi gobaith, hapusrwydd a rheswm i godi a rhoi dillad ymlaen i wneud rhywbeth da yn ystod y dydd. Ond dywedodd ei bod yn cymryd amser i’r teimladau drwg fynd i ffwrdd – mewn unrhyw her, mae’r holl ansicrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn gallu ymddangos yn gyflym.
Yn gyffredinol, roedd pob siaradwr a phawb a gymerodd ran yn y digwyddiad yn rhannu meddyliau unigryw a phwysig.
Gallwch wylio’r recordiad fideo o’r digwyddiad yma
Mae pobl ar draws Cymru yn parhau i roi croeso cynnes o fewn eu cymunedau i’r rheiny sy’n ffoi rhag trais, erledigaeth a rhyfel. Mae llywodraeth genedlaethol a lleol yng Nghymru yn darparu cymorth integreiddio, ac yn darparu mynediad at wasanaethau fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Mae cymunedau Cymru wedi ymateb i’r ‘argyfwng ffoaduriaid’ trwy agor eu calonnau a’u cartrefi i ffrindiau a chymdogion newydd, drwy gynnig croeso cynnes Cymreig a sefydlu cefnogaeth drwy grwpiau a mannau noddfa. Mae hwn yn gefnogaeth anhygoel sy’n achub cenedlaethau cyfan o deuluoedd.
This article was written by Anastasiia Haievska.