Sut i fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau? 

Fe wnaeth y gweithdy daflu goleuni ar effeithiau polareiddio mewn gwahanol agweddau ar fywyd bob dydd. Er enghraifft, sut mae polareiddio yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddi, ymddygiad defnyddwyr, yn ogystal ag arferion llogi. 

Ar 12 Gorffennaf 2023, daeth y gweithdy Mynd i’r afael â Pholareiddio mewn Cymunedau yn adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd, a drefnwyd gan WISERD a Chanolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, ag arweinwyr ac ymarferwyr o wahanol sectorau yng Nghymru at ei gilydd. Nod y gweithdy oedd mynd i’r afael â pholareiddio a meithrin cydlyniant cymunedol. Rhannodd y siaradwyr Alison Goldsworthy a’r Athro Michael Woods fewnwelediadau gwerthfawr i achosion ac effeithiau polareiddio, gyda chefnogaeth enghreifftiau, astudiaethau achos, a fideos. Cymerodd y cyfranogwyr ran weithredol yn y gweithdy, a chael cyfle i ofyn cwestiynau, mynegi eu barn, a chyfrannu at y trafodaethau yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd ac a arsylwyd. Daeth y gweithdy i ben gyda sesiwn taflu syniadau cynhyrchiol, lle bu’r cyfranogwyr yn cydweithio i gynhyrchu syniadau ar sut i leihau polareiddio. Darparodd y gweithdy hwn archwiliad o wahanol agweddau ar bolareiddio. 

Beth yw polareiddio

Mae polareiddio yn mynd y tu hwnt i raniadau a ffurfir o amgylch un neu fwy o ymagweddau neu faterion polisi. Mae wedi’i glymu’n agos â sut rydym yn adnabod ein hunain a’r bobl rydym yn amgylchynu ein hunain â nhw. Gall hyn arwain at ganfyddiadau rhagfarnllyd a diffyg gwerthfawrogiad o amrywiaeth. 

“We like to put people into groups and that alters how we behave towards them.” 

Beth fedrwn ni ei wneud am hyn

Mae dadwneud polareiddio yn heriol, gan ei fod yn rhedeg yn ddwfn. Mae’n effeithio ar isymwybod pobl ac yn cael effaith sylweddol, yn enwedig pan nad ydym hyd yn oed yn ymwybodol ohono. Ond gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r her hon drwy fod yn onest ac yn ymwybodol o’r ffaith ein bod ni bob amser yn tyfu, yn ogystal â bod yn ddiffuant wrth ddweud pethau fel “Dwi ddim yn gwybod, allwch chi ddysgu mwy i mi am hyn?” Fel hyn, gallwn fod yn agored i safbwyntiau a mewnwelediadau newydd. 

Chwilfrydedd yw’r allwedd i greu amgylchedd diogel i bobl fynegi eu hunain, gyda chyffredinoldeb yn cael ei adeiladu trwy gyd-ddealltwriaeth a chysylltiad. 

Yn ystod y gweithdy, cafodd y darn gwerthfawr hwn o gyngor ei rannu gan un cyfranogwr penodol: “Cymerwch ran trwy ofyn cwestiynau, nodi meysydd cytundeb ac yna, mynegi eich barn, gofyn am gyngor gan bobl a chofio eu bod yn fodau dynol.” 

Mae gan WCIA gyfoeth o adnoddau am ddim i’w defnyddio a allai eich helpu chi neu’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw i ymgysylltu â phynciau anodd neu ddadleuol, yn ogystal â gwella sgiliau trafod a meddwl yn feirniadol.  Cliciwch ar y ddolen i ddysgu mwy am ein Hadnoddau Addysgu a Dysgu, neu cysylltwch â ni yn centre@wcia.org.uk 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *