Gwobrau Heddychwyr 2025 @ Eisteddfod Rhygwladol Llangollen

Mae’r Seremoni Gwobrwyo Heddychwyr Ifainc yn gyfle i ddathlu’r hyn y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’i wneud i greu cymunedau mwy caredig, diogel a chynhwysol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Dywedir yn aml fod heddwch yn dechrau ynddom ni ein hunain. Mae hyn yn sicr yn wir am blant a phobl ifanc, sydd â dealltwriaeth graff o elfennau mewn cymdeithas fel gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder sy’n tanseilio cymunedau heddychlon. Mae llawer o bobl ifanc hefyd yn teimlo awydd i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac i weithio dros newid cadarnhaol. 

Mae’r Gwobrau Heddychwyr Ifanc blynyddol, a drefnir gan y Tîm Addysg Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), yn adeiladu ar yr awydd hwn i greu cymdeithas fwy cydlynol a heddychlon drwy ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru. Gall y rhain fod ar ffurf gweithiau celf, ysgrifennu creadigol neu brosiectau sy’n meithrin dealltwriaeth, yn hyrwyddo lles ac yn mynd i’r afael â materion megis bwlio a hiliaeth. 

Eleni byddwn yn dathlu 9fed Gwobrau Heddwchwyr Ifanc yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar Ddydd Iau, 10fed Gorffennaf.

Urdd Peace Message 2025 participants, who were awarded ‘Young Community Peacebuilders’ of the year

ADEILADWR HEDDWCH CYMUNEDOL IFANC

1 – Urdd Gobaith Cymru

Urdd Eisteddfod @ Margam

Bwriad Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd oedd uno plant ledled y ​byd a’u cefnogi i alw am fyd tecach, mwy cyfartal a mwy heddychlon. ​Eleni, dewiswyd y thema ‘tlodi’ ar gyfer y neges gan fyfyrwyr o Goleg ​y Cymoedd a phobl ifanc arall (aelodau’r Urdd), yn ymateb i’r argyfwng tlodi ​plant presennol sydd i’w weld yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’r bobl ifanc yn dangos ​dewrder ac arweinyddiaeth trwy rannu eu profiadau personol, ac yn rhoi llais cryf i bobl ifanc i alw am gyfiawnder a chyfartaledd yn eu cymunedau nhw ac yn fyd-eang. 

Mae’r grŵp (a oedd hefyd yn cynnwys elusen Achub y Plant, y bardd Katie Hall, y dylunydd Steffan Dafydd, a’r hwylusydd Elan Evans) wedi gweithio’n galed i ledaenu’r neges yn eang – mae wedi cyrraedd 25 gwlad, wedi ysbrydoli cannoedd o ysgolion a sefydliadau yng Nghymru, mae’r grŵp wedi gwneud cyfweliadau teledu a radio, a dwy o’r bobl ifanc wedi ysgrifennu blog yn cynnwys profiadau personol, pwerus. Maen nhw’n enillwyr haeddiannol o’r wobr hon.

2: Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Paratowyd 2 fideo gan ddisgyblion Bl 7-13 i hyrwyddo heddwch yn eu cymuned ysgol ac yn fwy eang. Mae brwdfrydedd y disgyblion yn amlwg o’r fideos a’u negeseuon yn bwerus.  Maen nhw’n cyfleu dealltwriaeth o effeithiau diffyg cyfiawnder cymdeithasol ar bobl ifanc yng Nghymru, ac yn eirioli dros bobl ifanc sy’n dioddef o achos diffyg heddwch mewn gwledydd eraill.  Maen nhw yn cysylltu treftadaeth heddwch Cymru â’r galw i weithredu dros heddwch heddiw.  ​Mae ymdrechion y disgyblion i rannu pwysigrwydd heddwch ar gyfer Cymru a’r byd, yn eu cymuned leol a thu hwnt, yn haeddu’r wobr hon.


EIRIOLWR LLESIANT IFANC

Holly Abbott, Cards of Calm (from Instagram)

1 – Holly Abbott

Creodd Holly sefydliad di-elw ‘Cardsofcalm’ sy’n canolbwyntio ar greu cardiau gyda negeseuon o gefnogaeth, pecynnau lles a dolenni i linellau cymorth lleol. Mae Holly wedi dangos ysbryd entrepreneuraidd fel arweinydd ifanc i gefnogi eraill. Mae ei charedigrwydd a’i meddylgarwch i atgoffa cannoedd o bobl eraill nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn ei gwneud hi’n gymwys fel enillydd!

2 – Nathan Robertshaw

Daeth Nathan o hyd i’w hobi lles ei hun drwy gymryd rhan yn ei rediad parc lleol. Gwellodd hyn ei hyder a’i helpu i deimlo’n llai ynysig i ffwrdd o adref. Datblygodd ei sgiliau gwirfoddoli, helpodd i hyfforddi eraill, dechreuodd ddysgu Cymraeg a chafodd hyfforddiant cymorth cyntaf i helpu eraill drwy redeg yn ei gymuned!

CYMERADWYAETH – Freya Rees

Ar ôl treulio cyfnodau yn yr ysbyty ei hun, mae Freya wedi defnyddio ei phrofiadau a’i sgiliau i greu gweithiau celf sy’n dod â disgleirdeb a lles i eraill. Mae ei phaentiad acrylig hardd ‘Flourish’ bellach ar ddangos yn CAMHS ac Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.

‘Fy nod’, meddai, ‘oedd atgyfnerthu’r neges nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a dod â rhywfaint o fywiogrwydd a lliw i iechyd meddwl, gan helpu i’w normaleiddio fel profiad cyffredin a rennir gan lawer o bobl yn fy nghenhedlaeth i.’


HEDDYCHWR IFANC

Gwobr a noddwyd gan Academi Heddwch Cymru

1 – Joe Wright Roberts, Connah’s Quay High School

Mae Joe wedi dangos angerdd, arweinyddiaeth, ymrwymiad ac arloesedd yn ei waith i hyrwyddo a datblygu gwrth-hilioldeb yn ei ysgol. Mae wedi cyflwyno ei neges i lywodraethwyr yr ysgol ac wedi annog yr Uwch Reolwyr i lofnodi addewidion gwrth-hilioldeb a gweithredu fel modelau rôl eu hunain. Mae ei uchelgais i ddatblygu’r cynllun trwy gynnwys ysgolion cynradd clwstwr yn glodwiw, fel y mae’r awydd i ddangos ymddygiadau cynhwysol yn ei gymuned ei hun trwy ddathlu gwahanol ieithoedd a diwylliannau.

​2 – Mili Davies, Ysgol David Hughes

Cawsom ddau ddarn celf gan Mili – y ddau ohonynt yn drawiadol tu hwnt. Yn yr un cyntaf ceir jig-so sydd yn danfon neges wrth-hiliol glir – y darnau yn cynrychioli lliw croen amrywiol ac yn pwysleisio’r ffaith bod pawb yn unigryw, yn wahanol ac yn haeddu parch. ​Teitl yr ail ddarn o waith yw ‘Album Heddwch’ ac ynddo ceir cyfres o ddyfyniadau a lluniau (ffotos) ar ôl iddi gwrdd â myfyriwr sydd yn protestio yn erbyn y sefyllfa yn Gasa, ac yn sylweddoli arwyddocâd pellach y gwrthdystiad. Taith bersonol yw’r album yn y bôn, ond wedi’i greu mewn ffordd gynnil a chywrain. Mae’r album yn effeithiol am iddo fynd â ni ar daith gyda’r darlunydd.

​2 – Cyngor Ysgol, Ysgol David Hughes – Porthaethwy, Anglesey

Cais trawiadol yn cynnwys disgrifiad a thystiolaeth am y ffordd y mae’r Cyngor Ysgol yn Ysgol David Hughes wedi mynd i’r afael â’r broblem o fwlio yn eu cymuned ysgol. ​

Roedd y beirniad yn hoffi’r ffordd y mae’r Cyngor wedi cynnwys disgyblion a staff yn eu gwaith, wedi gweithredu fel tîm a sicrhau bod polisїau a gweithgareddau wedi’u datblygu mewn ffordd sensitif sydd yn seiliedig ar lais y disgybl ac yn parchu cyfrinachedd lle mae hyn yn bosibl. Mae’r Cyngor wedi mynd i’r afael â’r broblem ar sawl lefel – yn datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o natur y broblem, ac yn datblygu nifer o ffyrdd o ymateb, gan ddefnyddio technoleg (QR codes a’r wefan) i sicrhau cyfrinachedd. ​

Mae’n dda gweld bod yr ymgyrch holistig wedi creu awyrgylch lle mae disgyblion yn teimlo’n fwy hyderus i sôn am fwlio – hefyd yn deall y pwysigrwydd o ymdrin â’i gilydd â pharch. ​


HYRWYDDWR AMGYLCHEDDOL IFANC

Gwobr a noddwyd gan Platfform yr Amgylchedd Cymru

Youth Climate Ambassadors

Mae’r ‘Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid’ wedi cyflwyno eu gwaith ar leihau effaith gymdeithasol ac amgylcheddol ffasiwn gyflym. Mae hyn wedi cynnwys ymchwilio i effeithiau negyddol Ffasiwn Gyflym, cyhoeddi erthygl blog ar ‘Gwir Gost Ffasiwn Gyflym: Pam Mae’n Amser Torri’r Cylch Prynu a Binio’ a threfnu Sioe Ffasiwn Gynaliadwy a Chyfnewid Dillad yn 2024 i ledaenu’r gair, byddant yn parhau i godi ymwybyddiaeth o heddwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd.


HYRWYDDWR CENEDLAETHAU’R DYFODOL IFANC

Gwobr a noddwyd gan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Anglesey

Maen nhw wedi cynnal ystod eang o weithgareddau i hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, o gyngherddau cerddoriaeth, Cystadleuaeth Pobi gyda thema’r iaith, eisteddfodau ac ati. Maen nhw’n dangos pa mor hwyl yw’r iaith a manteision bod yn ddwyieithog. Maen nhw’n dod â’r iaith yn fyw ac yn ei dathlu ym mhob un o’i ffurfiau diwylliannol.


Astudiaeth Achos – Y Neges Heddwch

Ers 1922, mae’r Urdd wedi cynhyrchu neges o Heddwch ac Ewyllys Da wedi’i chyfleu i ddechrau drwy god Morse, yna gan Wasanaeth y Byd y BBC, ac yn fwy diweddar drwy gyfryngau digidol, gyda’r nod o uno plant ledled y byd, a’u cefnogi i alw am fyd tecach, mwy cyfartal a mwy heddychlon. 

Thema Neges eleni ydi Tlodi. Gyda’r argyfwng tlodi plant presennol i’w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, mae’r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi dewis canolbwyntio ar y mater hollbwysig yma. Gydag 1 ym mhob 3 o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae Neges Heddwch 2025 yn datgan yn glir yr angen am newid.

Cafodd cynnwys a thrywydd neges eleni ei benderfynu gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd ac Aelodau’r Urdd. Cynhaliwyd y gweithdy yn YMa, Pontypridd ddiwedd Ionawr. Elusen Achub y Plant fu’n cyflwyno’r neges i’r cyfranogwyr, gan gyd-weithio gydag Elan Evans (Hwylusydd), Steffan Dafydd (Dylunydd) a’r bardd Katie Hall. Roedd yn weithdy llwyddiannus oedd yn annog y bobl ifanc i rannu eu profiadau, a theimladau am sefyllfa tlodi plant yng Nghymru. Yn dilyn y gweithdy, aeth Katie ati i greu i greu Neges bwerus yn rhoi llais cryf i’r bobl ifanc gan nodi prif themâu’r dydd;

  • Rhoi llais i bobl ifanc
  • Torri lawr stigma
  • Pwysigrwydd cymuned
  • Ni ddylai r’un plentyn fyw mewn tlodi.

Mae’r neges ar gael yma ar wefan yr Urdd mewn dros 50 o ieithoedd gan gynnwys BSL

Cafodd 14 o bobl ifanc sef myfyrwyr Coleg y Cymoedd ac Aelodau’r Urdd eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect ar ôl proses galwad agored yn gofyn i bobl ymuno. Roeddent yn barod iawn i rannu profiadau a theimladau am dlodi, ac yn rhoi llawer o ysbrydoliaeth i’r bardd Katie efo eu geiriau yn dilyn y gweithdy fis Ionawr.

Cafodd film fer ei greu allan o eiriau’r bobl ifanc, a’u lleisiau nhw sydd ei glywed yn darllen y geiriau allan. Roeddent yn barod iawn i fod yn rhan o waith hyrwyddo’r Neges, gan siarad ar radio a theledu yn rhoi platform pwysig i’r thema.

Cyrhaeddodd y Neges I dros 25 o wledydd dros y byd, gyda channoedd o ysgolion a sefydliadau ledled Cymru yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth i’r Neges bwysig. Mae 2 o aelodau ifanc bu’n rhan o’r prosiect wedi ysgrifennu blog bach pam eu bod nhw yn teimlo bod hi’n bwysig bod nhw wedi cymryd rhan.

Pecyn Addysg