Yemen: Amser i drafod heddwch?

Galwodd Hisham al-Omeisy, dadansoddwr gwleidyddol ac actifydd hawliau dynol o Yemen, ar bawb a oedd yn ymwneud â heddwch a hawliau dynol yn Yemen, i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gymryd arweiniad pendant i ddod â’r gwahanol bartïon i’r bwrdd.  Roedd yn annerch grŵp mawr amrywiol yn y Deml Heddwch, Caerdydd mewn digwyddiad ar yr 22ain o Fawrth 2019, wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cymod, the Fellowship of Reconciliation Wales.

Roedd Hisham, yn feirniadol o’r ddau garfanau croes yn y gwrthdaro yn Yemen, sydd wedi hawlio bywydau tua 56,000 o bobl.  Mae’r ymdrechion presennol ar gyfryngu yn canolbwyntio ar ddau grŵp, ac yn anwybyddu’r ffaith nad yw’r naill na’r llall yn homogenaidd, a bod sawl carfan o fewn pob grŵp.  Mae canolbwyntio ar y grwpiau hyn yn unig yn eithrio grwpiau o dde y wlad sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y ddau grŵp hyn hefyd.  Dylai Ysgrifennydd Tramor y DU ddefnyddio’i safle nid yn unig i alw’r prif gymeriadau i gymryd rhan mewn trafodaethau, ond hefyd, i ddal Saudi Arabia i gyfrif am ei rôl ym marwolaethau sifiliaid mewn cyrchoedd bomio ar Yemen. Roedd yn feirniadol o’r diffyg cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan y Cenhedloedd Unedig yn Yemen. Er yn canmol gweithredoedd rhai asiantaethau cymorth rhyngwladol, mynegodd bryder ynghylch y ffaith y dylid blaenoriaethu coridorau cymorth i gyrraedd pob rhan o’r wlad, a chreu cynlluniau ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Treuliodd Hisham al-Omeisy 5 mis mewn cell ar ei ben ei hun am ei feirniadaeth, yn enwedig o’r lluoedd Houthi yn y Gogledd.  Diolchodd i actifyddion Amnest Rhyngwladol a grwpiau hawliau dynol eraill am y pwysau a roddwyd ganddynt, i sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau.

Estynnodd menyw Yemenïaidd o Gaerdydd a oedd yn y gynulleidfa ddiolch i bawb a fynychodd, ac meddai, “Mae’n galonogol bod cymaint o bobl yn malio am Yemen.”