Archives

Hanesion Heddwch Cudd

ally price screen grab

Rhwng 2016 a 2018, bydd Cymru dros Heddwch yn cefnogi gwirfoddolwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru i ddarganfod hanesion heddwch cudd, ac i ddechrau rhannu eu straeon yn gyhoeddus er mwyn dod â stori ‘treftadaeth heddwch’ Cymru ynghyd. Mae’r adran ‘Hanesion Heddwch Cudd’ wedi cael ei pharatoi i’ch arwain drwy’r broses o chwilio a chynhyrchu eich prosiectau eich hunain, gyda dolenni at gyfeirnodau ac adnoddau defnyddiol ar-lein er mwyn ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl – ac i ddatblygu sgiliau newydd, trosglwyddadwy, ar yr un pryd!

1. Cynllunio (penderfynu ar gynnyrch, pwnc a safbwynt – a chynllunio eich prosiect)
2. Ymchwilio (defnyddio adnoddau Ar-lein ac Oddi ar-lein)
3. Cofnodi (Cyfweld â phobl, Digideiddio dogfennau / delweddau neu recordio Hanesion Llafar)
4. Ysgrifennu / Golygu (ar gyfer Blogiau, erthygl nodwedd ar gyfer y cyfryngau lleol / cymunedol, traethodau neu draethodau hir)
5. Cyflwyno (Adrodd Straeon yn Ddigidol / ffilmiau byrion, pecynnau cyflwyno ac animeiddio)
6. Rhannu (Cyhoeddi ar-lein a hyrwyddo drwy’r Map Heddwch a’r Cyfryngau Cymdeithasol)

 

Canllaw Hanesion Heddwch Cudd ar gyfer Ysgolion a Grwpiau Cymunedol

 

Mae’r Pecyn Offer yma ar gyfer athrawon a chydlynwyr cymunedol i’w ddefnyddio gyda grwpiau neu unigolion sy’n gwneud prosiectau hanesion heddwch cudd hunan-arwain..

Download (English)  Lawrlwytho (Cymraeg)

hi

Athroniaeth i Blant

wciamembers1

Athroniaeth i Blant, neu P4C yn fyr, yw dull addysgu ddisgybl-ganolog yn seiliedig ar:

Ymchwiliad Grwp (yn gweithio gyda’i gilydd mewn cymuned o ymholi i deall materion anodd/cysyniadau);

Myfyrio (meddwl am drafodaethau ac o bosibl newid agweddau/camau gweithredu o ganlyniad);
Datblygu sgiliau (meddwl beirniadol a chreadigol, sgiliau cyfathrebu a gweithio gydag eraill).
Dull ystafell ddosbarth parchus yw Athroniaeth i Blant (P4C) sydd yn helpu i wella sgiliau meddwl beirniadol disgyblion a’u gallu i gydweithio. Mae’n annog awyrgylch lle ceir trafodaeth agored, greadigol ymhlith disgyblion o bob oed, a nodwyd ei lwyddiant mewn nifer fawr o adroddiadau arolwg ar ysgolion ac astudiaethau academaidd.
Dyfeisiwyd P4C yn wreiddiol gan yr Athro Matthew Lipman yn yr Unol Daleithiau fel rhaglen ar gyfer plant a phobl ifainc rhwng 6 ac 16 oed. Mae crynodeb hylaw o’i hanes a’i werth i’w gweld yn: www.sapere.org.uk.
Wedi hen sefydlu, defnyddir P4C ar sawl ffurf trwy’r byd i gyd. Yn y DU, mae’n debyg mai SAPERE yw’r corff mwyaf adnabyddus sy’n hyrwyddo’r dull. Mae’n cydlynu rhaglen hyfforddi broffesiynol ar dair lefel er mwyn cynnal safonau uchel.
Achredir ein hyfforddwyr gan SAPERE i ddarparu cyrsiau Lefel 1. Mae eu hymagwedd at y gwaith yn cyfuno P4C gyda gofynion y cwricwlwm yng Nghymru megis Sgiliau Meddwl, ABCh ac ADCDF.

hi

Pecyn ‘Teach Peace’

1d6bbf44cfc1db29e3c7c80e930a2c78--happy-photos-tattoo-ideasMae Teach Peace, sef adnodd gan y Rhwydwaith Addysg Heddwch, yn gyfres o wyth gwasanaeth, gweithgareddau dilynol, adnoddau a myfyrdodau ar heddwch i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a blynyddoedd cyntaf ysgolion uwchradd, a gynhyrchwyd gyda Chymru dros Heddwch.

Llwytho (Cymraeg)   Llwytho (Saesneg)

hi