Gwrthwynebwyr Cydwybodol Cymru

Carreg y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, Gardd Heddwch Cymru

Mae’r hawl i leisio gwrthwynebiad dros gyfraniad y llywodraeth i ryfeloedd rhyngwladol – fel y rhyfeloedd diweddar yn Irac, Affganistan a Syria (drwy fudiadau fel ‘Stopiwch y Rhyfel’) – yn hawl rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol heddiw fel rhan o wead democratiaeth yng ngwledydd Prydain. Ond gan mlynedd yn ôl, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd sefyll dros eich credoau a gwrthod lladd – sef ‘gwrthwynebiad cydwybodol’ – yn golygu dedfryd o garchar.

Gwrthwynebodd dros 900 o ddynion Cymru ymladd yn y Rhyfel Mawr ar sail cydwybod. Yn 1916, yn sgil cyflwyno gorfodaeth filwrol, carcharwyd llawer o wrthwynebwyr cydwybodol am eu credoau, a chafodd eu straeon eu cuddio i raddau helaeth o hanes. I nodi can mlynedd ers Deddf Gwasanaeth Milwrol ym mis Mawrth 2016, cafodd eu dewrder ei gydnabod pan lansiwyd ‘Map Heddwch chwiliadwy o Wrthwynebwyr Cydwybodol’ gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni.

Cofrestr Pearce o Wrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Mawr

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn ddyledus i Cyril Pearce, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus ar ‘Etifeddiaeth Rhyfel’ ym Mhrifysgol Leeds, am rannu gwaith manwl ei fywyd wrth goladu ‘Cofrestr Pearce’. Mae wedi bod yn gweithio ar hanes gwrthwynebwyr rhyfel o Brydain rhwng 1914-18 ers rhai blynyddoedd, ar ôl cyhoeddi ‘Comrades in Conscience’ yn 2001, a ‘Communities of Resistance’ yn 2016.

Pa fath o wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yng Nghofrestr Pearce? Dyma enghraifft o gofnod nodweddiadol, sy’n cofnodi tynged y Parchedig Benjamin Meyrick, gweinidog ordeiniedig a gafodd ei garcharu:

“4.7.17 i farics Wrecsam, gwrthododd wneud y prawf meddygol a gwrthododd ei iwnifform. 6.7.17 Cymerwyd ef i Wersyll Litherland, Lerpwl – fe’i rhyddhawyd ar fechnïaeth; ildiodd ei hun i Lys Heddlu Bangor 25.9.17; 3 Llys Milwrol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Litherland 8.10.17 – 2 flynedd gyda llafur caled, Wormwood Scrubs.” 

Canlyniad y Llys Milwrol, cofnod Cofrestr Pearce ar gyfer y Parch. Benjamin Meyrick

Sut mae chwilio am Wrthwynebwyr?

  1. Ewch i Fap Heddwch Cymru; ticiwch y blwch ‘Cofrestr Pearce’.
  2. Bydd bar chwilio yn ymddangos ar waelod y map, a bydd rhestr lawn o gofnodion Cofrestr Pearce yn ymddangos mewn tabl o dan y bar chwilio (5 cofnod ar bob tudalen). Gallwch hidlo/chwilio yn y ffyrdd canlynol:
  • hidlo yn ôl enw: teipiwch enw, neu ran o enw, i mewn i’r blwch. Bydd pob cofnod sy’n cynnwys yr enw yma’n ymddangos.
  • hidlo yn ôl sir: dewiswch unrhyw rai o’r siroedd o’r gwymprestr. Dyma oedd enwau siroedd Cymru cyn 1994
  • hidlo yn ôl tref: teipiwch enw tref neu bentref i ddod o hyd i’r cofnodion o’r lleoliad hwnnw (nid yw’r wybodaeth hon wedi’i nodi ar gyfer pob cofnod)
  •  hidlo yn ôl cymhelliant: dewiswch unrhyw gymhelliant o’r rhestr a bydd y canlyniadau’n ymddangos isod

3. Cliciwch ‘Rhagor o wybodaeth’ ar unrhyw gofnod i weld manylion llawn o Gofrestr Pearce, o wybodaeth am dribiwnlysoedd i fanylion am wasanaeth carchardai. Rhai pethau i’w nodi:

  • Mae rhifau mewn cromfachau ar ôl enw yn cyfeirio at rif byddin yr unigolyn.
  • Mae gan rai cofnodion gyfeiriadau penodol, ac mae’r rhain yn ymddangos fel ‘pinnau’ ar y Map Heddwch. Nid yw cofnodion sydd heb gyfeiriad yn ymddangos fel pinnau.
  • Mae bylchau yn y cofnod gan nad yw peth o’r wybodaeth yn hysbys. Rydyn ni’n croesawu gwirfoddolwyr i ddatgelu’r bylchau yma, a’r ‘straeon y tu ôl i’r enwau’ yn y gofrestr.

Cred a Gweithred

Cynhyrchodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru arddangosfa deithiol a chasgliadau o ‘hanesion cudd’ yn archwilio gwrthwynebiad i ryfel: cliciwch isod i ddarganfod mwy.

belief and action