Archives

Hyfforddiant ar Ddadlau

Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rydym yn credu y dylai pawb gael eu grymuso i wneud y byd rydym yn byw ynddo’n fwy teg. Mae ein dadlau wrth wraidd hynny, gan ei fod yn dysgu pobl i feddwl yn feirniadol am ymresymiadau, i fyfyrio ar y wybodaeth a roddir iddynt, ac i fynegi eu barnau yn glir. Eleni, rydym yn gyffrous dro ben i allu cynnig yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan ohono, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr yn CGGC am weld y potensial ar gyfer y prosiect hwn, a’n cefnogi i’w gyflawni.

hi

Dinasyddion moesegol gwybodus o Gymru a’r byd

Yn y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Nodi’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd
  • Archwilio adnoddau a methodolegau i ddatblygu ac asesu dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd
  • Edrych ar astudiaethau achos i archwilio dulliau trawsgwricwlaidd o ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd

Ddim yn siŵr sut i lywio’r cwrs? Gwyliwch fideo cyflwyniadol byr.

Mae’r cwrs yn defnyddio Padletau hefyd, er mwyn i chi allu cyfnewid syniadau gyda chyfranogwyr eraill y cwrs. Os nad ydych chi wedi defnyddio Padlet o’r blaen, gallwch wylio ein fideo byr.

Mae’r cwrs gwreiddiol wedi cael ei ysgrifennu gan WCIA ac Oxfam Cymru. Mae’r gwaith o greu’r cwrs hwn wedi cael ei ariannu gan y Cyngor Prydeinig fel rhan o Raglen Addysg Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

hi

Sgiliau Ymchwil 1

Croeso i Sgiliau Ymchwil ar gyfer y Cwricwlwm Newydd Lefel 1. Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang, sydd yn cael ei hariannu gan y Cyngor Prydeinig ac UK Aid.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn:

  • Edrych ar gyd-destunau a diwylliannau, a sut maen nhw’n dylanwadu arnom
  • Deall y cysyniad o ‘ ddad-ddysgu ‘ a sut y gall hyn helpu gyda’ch ymchwil
  • Dysgu hanfodion Ymchwiliad Gwerthfawrogol (YG) o’u cymharu â dulliau ymchwil traddodiadol.
  • Cynllunio sut i roi eich dysgu ar waith yn y cwricwlwm newydd

Mae tua dwy awr o ddysgu ar-lein, sydd yn cael ei ddilyn gan sesiwn Fyw (wyneb yn wyneb neu Zoom) gydag un o’n hyfforddwyr profiadol i’ch helpu i fyfyrio, ateb unrhyw gwestiynau, ac i roi eich dysgu ar waith.

Cyn i ni ddechrau, dylech gwblhau’r  os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod.

Ansicr sut i lywio’r cwrs? Gwyliwch fideo rhagarweiniol byr.

Mae’r cwrs hefyd yn defnyddio Padlets fel y gallwch chi gyfnewid syniadau â chyfranogwyr eraill y cwrs.  Os nad ydych chi eisoes wedi defnyddio Padlets, gallwch chi wylio ein fideo byr.

Ysgrifennwyd y cwrs gwreiddiol gan y British Council ac mae’r addasiadau ar gyfer cyd-destun Cymru gan WCIA.

Connecting classrooms, British Council and UK Aid logos

hi

Cyfranwyr Creadigol Lefel 2

Yn y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Datblygu diffiniad o greadigrwydd ar sail astudiaethau achos “bywyd go iawn”
  • Gwerthuso’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i fod yn gyfrannwr creadigol
  • Datblygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i addysgu i ddatblygu creadigrwydd
  • Myfyrio ynghylch dulliau i ddatblygu amgylchedd sy’n gyfoethog o safbwynt creadigrwydd

Ansicr sut i lywio’r cwrs? Gwyliwch fideo rhagarweiniol byr.

Mae’r cwrs hefyd yn defnyddio Padlets fel y gallwch chi gyfnewid syniadau â chyfranogwyr eraill y cwrs.  Os nad ydych chi eisoes wedi defnyddio Padlets, gallwch chi wylio ein fideo byr.

Ysgrifennwyd y cwrs gwreiddiol gan y British Council ac mae’r addasiadau ar gyfer cyd-destun Cymru gan WCIA.

Creadit: British Council Creativity and Imagination course
Connecting classrooms, British Council and UK Aid logos
hi