Croeso i Sgiliau Ymchwil ar gyfer y Cwricwlwm Newydd Lefel 1. Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang, sydd yn cael ei hariannu gan y Cyngor Prydeinig ac UK Aid.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn:
- Edrych ar gyd-destunau a diwylliannau, a sut maen nhw’n dylanwadu arnom
- Deall y cysyniad o ‘ ddad-ddysgu ‘ a sut y gall hyn helpu gyda’ch ymchwil
- Dysgu hanfodion Ymchwiliad Gwerthfawrogol (YG) o’u cymharu â dulliau ymchwil traddodiadol.
- Cynllunio sut i roi eich dysgu ar waith yn y cwricwlwm newydd
Mae tua dwy awr o ddysgu ar-lein, sydd yn cael ei ddilyn gan sesiwn Fyw (wyneb yn wyneb neu Zoom) gydag un o’n hyfforddwyr profiadol i’ch helpu i fyfyrio, ateb unrhyw gwestiynau, ac i roi eich dysgu ar waith.
Cyn i ni ddechrau, dylech gwblhau’r os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod.
Ansicr sut i lywio’r cwrs? Gwyliwch fideo rhagarweiniol byr.
Mae’r cwrs hefyd yn defnyddio Padlets fel y gallwch chi gyfnewid syniadau â chyfranogwyr eraill y cwrs. Os nad ydych chi eisoes wedi defnyddio Padlets, gallwch chi wylio ein fideo byr.
Ysgrifennwyd y cwrs gwreiddiol gan y British Council ac mae’r addasiadau ar gyfer cyd-destun Cymru gan WCIA.