Hyfforddiant ar Ddadlau

Current Status
Not Enrolled
Price
Free
Get Started

Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rydym yn credu y dylai pawb gael eu grymuso i wneud y byd rydym yn byw ynddo’n fwy teg. Mae ein dadlau wrth wraidd hynny, gan ei fod yn dysgu pobl i feddwl yn feirniadol am ymresymiadau, i fyfyrio ar y wybodaeth a roddir iddynt, ac i fynegi eu barnau yn glir. Eleni, rydym yn gyffrous dro ben i allu cynnig yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan ohono, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr yn CGGC am weld y potensial ar gyfer y prosiect hwn, a’n cefnogi i’w gyflawni.