Cyfleoedd gwirfoddoli dramor sydd yn cael eu hariannu’n llawn

Mae’r European Solidarity Corps (neu’r ESC fel y cyfeirir ato’n aml), yn gynllun sydd yn cael ei ariannu gan raglen Erasmus+ y Comisiwn Ewropeaidd, i roi cyfle i bobl ifanc yn Ewrop i wirfoddoli dramor. Mae European Solidarity Corps yn galluogi pobl ifanc rhwng 17 a 30 oed i fyw am hyd at 12 mis mewn gwlad arall tra’n gweithio mewn sefydliad dielw. Mae’r fenter hon gan yr Undeb Ewropeaidd yn creu cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli neu weithio fel rhan o brosiectau yn eu gwlad eu hunain neu dramor, er budd cymunedau a phobl ar draws Ewrop.

‘Mae [The European Solidarity Corps] yn wych – mae popeth yn cael eu hariannu: hediadau, llety, bwyd, yswiriant iechyd, hyd yn oed lwfans misol – felly nid oeddwn yn gorfod bod yn ofnadwy o gyfoethog i gymryd rhan.’

Davide, Prosiect Masnach Deg (Sbaen)

Nod yr ESC yw gwella sgiliau pobl ifanc tra’n dod ar draws gwahanol ddiwylliannau, cwrdd â phobl o bob rhan o’r byd, a dysgu iaith newydd. Rydym ni yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn sefydliad cydlynu cymeradwy ar gyfer European Solidarity Corps yng Nghymru a’r DU ehangach. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru, i alluogi gwirfoddolwyr ifanc o’r UE a gwledydd partner sy’n cymryd rhan, i gael profiad anhygoel o fyw a gweithio yng Nghymru am hyd at 12 mis.

I ble alla i fynd gyda’r rhaglen European Solidarity Corps?

Gan fod y rhaglen yn cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, mae’r rhan fwyaf o brosiectau yng ngwledydd Ewrop fel Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Gwlad Pwyl, Estonia, Gwlad Groeg ac ati. Fodd bynnag, mae rhai cyfleoedd i fynd ymhellach i ffwrdd hefyd, i wledydd fel Jordan, Moroco, Armenia, Belarws, neu Rwsia – ac weithiau, hyd yn oed ymhellach!

Faint fydd yn gostio?

Nid yw’r rhaglen yn costio dim i chi! Fel rhan o’r prosiect, bydd eich costau teithio, llety a’ch costau bwyd yn cael eu hariannu, a byddwch hyd yn oed yn derbyn arian poced bob mis, er mwyn i chi fedru mynd i wahanol lefydd a chael hwyl gyda’ch holl ffrindiau newydd o bob rhan o’r byd, drwy ymgolli’n llwyr yn eich cymuned newydd.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae gennym flynyddoedd o brofiad o gydlynu prosiectau gwirfoddoli a chynorthwyo gyda’r broses ymgeisio. Byddwn yn eich helpu drwy’r broses ymgeisio, yn eich paratoi ar gyfer eich profiad gyda hyfforddiant cyn gadael, ac yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol yr amser. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni centre@wcia.org.

I ddod o hyd i’ch prosiect ESC delfrydol, edrychwch ar y gronfa ddata Ewropeaidd o brosiectau achrededig. Wedi dod o hyd i’ch prosiect ESC perffaith? Gwnewch gais drwy gyflwyno eich CV, llythyr cymhelliant a ffurflen gais benodol.